Hosea 6:1-3
Hosea 6:1-3 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Dewch! Gadewch i ni droi’n ôl at yr ARGLWYDD. Fe sydd wedi’n rhwygo’n ddarnau, ond bydd e’n iacháu! Fe sydd wedi’n hanafu ni, ond bydd e’n gwella’r briwiau! Bydd yn rhoi bywyd newydd i ni mewn ychydig; bydd wedi’n codi ni’n ôl yn fyw mewn dim o dro. Cawn fyw yn ei gwmni, a’i nabod yn iawn. Gadewch i ni fwrw iddi i gydnabod yr ARGLWYDD. Bydd yn dod allan i’n hachub, mor sicr â bod y wawr yn torri. Bydd yn dod fel glaw y gaeaf neu gawodydd y gwanwyn i ddyfrio’r tir.”
Hosea 6:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Dewch, dychwelwn drachefn at yr ARGLWYDD; fe'n drylliodd, ac fe'n hiachâ; fe'n trawodd, ac fe'n meddyginiaetha. Fe'n hadfywia ar ôl deuddydd, a'n codi ar y trydydd dydd, inni fyw yn ei ŵydd. Gadewch inni adnabod, ymdrechu i adnabod, yr ARGLWYDD; y mae ei ddyfodiad mor sicr â'r wawr; daw fel glaw atom, fel glaw gwanwyn sy'n dyfrhau'r ddaear.”
Hosea 6:1-3 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Deuwch, a dychwelwn at yr ARGLWYDD: canys efe a’n drylliodd, ac efe a’n hiachâ ni; efe a drawodd, ac efe a’n meddyginiaetha ni. Efe a’n bywha ni ar ôl deuddydd, a’r trydydd dydd y cyfyd ni i fyny, a byddwn fyw ger ei fron ef. Yna yr adnabyddwn, os dilynwn adnabod yr ARGLWYDD: ei fynediad a ddarperir fel y bore; ac efe a ddaw fel glaw atom, fel y diweddar law a’r cynnar law i’r ddaear.