Hosea 4:1-3
Hosea 4:1-3 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Bobl Israel, gwrandwch ar y neges sydd gan yr ARGLWYDD i chi! Mae’r ARGLWYDD yn dwyn achos yn erbyn pobl y wlad. Does yna neb sy’n ffyddlon, neb sy’n garedig, neb sy’n nabod Duw go iawn. Ond mae yna ddigon o regi, twyllo, llofruddio, dwyn a godinebu! Mae yna drais ym mhobman! A dyna pam fydd y wlad yn methu a’i phobl yn mynd yn wan. Bydd hyd yn oed yr anifeiliaid gwyllt a’r adar a’r pysgod yn diflannu!
Hosea 4:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Clywch air yr ARGLWYDD, blant Israel. Y mae gan yr ARGLWYDD achos yn erbyn trigolion y tir, am nad oes ffyddlondeb, cariad na gwybodaeth o Dduw yn y tir, ond tyngu a chelwydda, lladd a lladrata, godinebu a threisio, a lladd yn dilyn lladd. Am hynny, galara'r wlad, nycha'i holl drigolion; dygir ymaith anifeiliaid y maes, adar yr awyr hefyd a physgod y môr.
Hosea 4:1-3 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Meibion Israel, gwrandewch air yr ARGLWYDD: canys y mae cwyn rhwng yr ARGLWYDD a thrigolion y wlad, am nad oes na gwirionedd, na thrugaredd na gwybodaeth o DDUW, yn y wlad. Trwy dyngu, a dywedyd celwydd, a lladd celain, a lladrata, a thorri priodas, y maent yn torri allan, a gwaed a gyffwrdd â gwaed. Am hynny y galara y wlad, ac y llesgâ oll sydd yn trigo ynddi, ynghyd â bwystfilod y maes, ac ehediaid y nefoedd; pysgod y môr hefyd a ddarfyddant.