Hosea 2:5-16
Hosea 2:5-16 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Hwren anffyddlon ydy eu mam nhw; mae hi wedi ymddwyn yn warthus. Roedd hi’n dweud: ‘Dw i’n mynd at fy nghariadon. Maen nhw’n rhoi bwyd a dŵr i mi, gwlân, llin, olew, a diodydd.’ ARGLWYDD Felly, dw i am gau ei ffordd gyda drain a chodi wal i’w rhwystro, fel ei bod hi’n colli ei ffordd. Wedyn, pan fydd hi’n rhedeg ar ôl ei chariadon, bydd hi’n methu’u cyrraedd nhw. Bydd hi’n chwilio, ond yn methu’u ffeindio nhw. Bydd hi’n dweud wedyn, ‘Dw i am fynd yn ôl at fy ngŵr. Roedd pethau lot gwell arna i bryd hynny.’ “Dydy hi ddim yn barod i gydnabod mai fi sy’n rhoi’r ŷd a’r sudd grawnwin a’r olew olewydd iddi. A fi wnaeth roi’r holl arian a’r aur iddi hefyd – ond aeth ei phobl a rhoi’r cwbl i Baal! Felly, dw i’n mynd i gymryd yr ŷd yn ôl, a’r cynhaeaf grawnwin hefyd. Dw i’n mynd i gymryd yn ôl y gwlân a’r llin oeddwn i wedi’i rhoi iddi i’w gwisgo. Yn fuan iawn, dw i’n mynd i wneud iddi sefyll yn noethlymun o flaen ei chariadon. Fydd neb yn gallu ei helpu hi! Bydd ei holl bartïo ar ben: ei gwyliau crefyddol, ei dathliadau misol a’i Sabothau wythnosol – pob un parti! Bydda i’n difetha ei gwinllannoedd a’i choed ffigys – roedd hi’n honni mai tâl gan ei chariadon oedd y cwbl. Bydda i’n troi’r cwbl yn ddrysni llawn chwyn wedi tyfu’n wyllt; dim ond anifeiliaid gwyllt fydd yn bwyta’u ffrwyth. Bydda i’n ei chosbi am bob diwrnod y buodd hi’n llosgi arogldarth i ddelwau o Baal. Roedd hi’n gwisgo’i chlustdlysau a’i gemwaith i fynd ar ôl ei chariadon, ond yn fy anghofio i!” –yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn. “Felly, dw i’n mynd i’w denu hi yn ôl ata i. Dw i’n mynd i’w harwain hi yn ôl i’r anialwch a siarad yn rhamantus gyda hi eto. Wedyn, dw i’n mynd i roi ei gwinllannoedd iddi, a throi Dyffryn y Drychineb yn Giât Gobaith Bydd hi’n canu fel pan oedd hi’n ifanc, pan ddaeth hi allan o wlad yr Aifft. Bryd hynny,” meddai’r ARGLWYDD, “byddi’n galw fi, ‘fy ngŵr’; fyddi di byth eto’n fy ngalw i, ‘fy meistr’.
Hosea 2:5-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Oherwydd i'w mam buteinio, ac i'r hon a'u cariodd ymddwyn yn waradwyddus, a dweud, ‘Af ar ôl fy nghariadon, sy'n rhoi imi fy mara a'm dŵr, fy ngwlân a'm llin, fy olew a'm diod’— am hynny, caeaf ei ffordd â drain, a gosodaf rwystr rhag iddi gael ei llwybrau. Fe ymlid ei chariadon heb eu dal, fe'u cais heb eu cael; yna dywed, ‘Dychwelaf at y gŵr oedd gennyf, gan ei bod yn well arnaf y pryd hwnnw nag yn awr.’ Ond ni ŵyr hi mai myfi a roddodd iddi ŷd a gwin ac olew, ac amlhau iddi arian ac aur, pethau a roesant hwy i Baal. Felly, cymeraf yn ôl fy ŷd yn ei bryd a'm gwin yn ei dymor; dygaf ymaith fy ngwlân a'm llin, a guddiai ei noethni. Yn awr, dinoethaf ei gwarth gerbron ei chariadon, ac ni fyn yr un ohonynt ei chipio o'm llaw. Rhof derfyn ar ei holl lawenydd, ei gwyliau, ei newydd-loerau, ei Sabothau a'i gwyliau sefydlog. Difethaf ei gwinwydd a'i ffigyswydd, y dywedodd amdanynt, ‘Dyma fy nhâl, a roes fy nghariadon i mi.’ Gwnaf hwy'n goedwig, a bydd yr anifeiliaid gwylltion yn eu difa. Cosbaf hi am ddyddiau gŵyl y Baalim, pan losgodd arogldarth iddynt, a gwisgo'i modrwy a'i haddurn, a mynd ar ôl ei chariadon a'm hanghofio i,” medd yr ARGLWYDD. ARGLWYDD “Am hynny, wele, fe'i denaf; af â hi i'r anialwch, a siarad yn dyner wrthi. Rhof iddi yno ei gwinllannoedd, a bydd dyffryn Achor yn ddrws gobaith. Yno fe ymetyb hi fel yn nyddiau ei hieuenctid, fel yn y dydd y daeth i fyny o wlad yr Aifft.” “ ‘Yn y dydd hwnnw,’ medd yr ARGLWYDD, gelwi fi ‘Fy ngŵr’, ac ni'm gelwi mwyach ‘Fy Baal’
Hosea 2:5-16 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Canys eu mam hwynt a buteiniodd; gwaradwyddus y gwnaeth yr hon a’u hymddûg hwynt: canys dywedodd hi, Af ar ôl fy nghariadau, y rhai sydd yn rhoi fy mara a’m dwfr, fy ngwlân a’m llin, fy olew a’m diodydd. Am hynny wele, mi a gaeaf i fyny dy ffordd di â drain, ac a furiaf fur, fel na chaffo hi ei llwybrau. A hi a ddilyn ei chariadau, ond nis goddiwedd hwynt; a hi a’u cais hwynt, ond nis caiff: yna y dywed, Af a dychwelaf at fy ngŵr cyntaf; canys gwell oedd arnaf fi yna nag yr awr hon. Ac ni wyddai hi mai myfi a roddais iddi ŷd, a gwin, ac olew, ac a amlheais ei harian a’i haur, y rhai a ddarparasant hwy i Baal. Am hynny y dychwelaf, a chymeraf fy ŷd yn ei amser, a’m gwin yn ei dymor; a dygaf ymaith fy ngwlân a’m llin a guddiai ei noethni hi. A mi a ddatguddiaf bellach ei brynti hi yng ngolwg ei chariadau; ac nis gwared neb hi o’m llaw i. Gwnaf hefyd i’w holl orfoledd hi, ei gwyliau, ei newyddleuadau, a’i Sabothau, a’i holl uchel wyliau, beidio. A mi a anrheithiaf ei gwinwydd hi a’i ffigyswydd, am y rhai y dywedodd, Dyma fy ngwobrwyon y rhai a roddodd fy nghariadau i mi; ac mi a’u gosodaf yn goedwig, a bwystfilod y maes a’u difa hwynt. A mi a ymwelaf â hi am ddyddiau Baalim, yn y rhai y llosgodd hi arogl-darth iddynt, ac y gwisgodd ei chlustfodrwyau a’i thlysau, ac yr aeth ar ôl ei chariadau, ac yr anghofiodd fi, medd yr ARGLWYDD. Am hynny wele, mi a’i denaf hi, ac a’i dygaf i’r anialwch, ac a ddywedaf wrth fodd ei chalon. A mi a roddaf iddi ei gwinllannoedd o’r fan honno, a dyffryn Achor yn ddrws gobaith; ac yno y cân hi, fel yn nyddiau ei hieuenctid, ac megis yn y dydd y daeth hi i fyny o wlad yr Aifft. Y dydd hwnnw, medd yr ARGLWYDD, y’m gelwi Issi, ac ni’m gelwi mwyach Baali.