Hosea 2:19-20
Hosea 2:19-20 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Bydda i’n dy gymryd di’n wraig i mi am byth. Bydda i’n dy drin di’n deg, yn gyfiawn, ac yn dangos cariad a charedigrwydd atat. Bydda i’n ffyddlon i ti bob amser, a byddi di’n fy nabod i, yr ARGLWYDD.
Hosea 2:19-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Fe'th ddyweddïaf â mi fy hun dros byth; fe'th ddyweddïaf â mi mewn cyfiawnder a barn, mewn cariad a thrugaredd. Fe'th ddyweddïaf â mi mewn ffyddlondeb, a byddi'n adnabod yr ARGLWYDD.”
Hosea 2:19-20 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A mi a’th ddyweddïaf â mi fy hun yn dragywydd; ie, dyweddïaf di â mi fy hun mewn cyfiawnder, ac mewn barn, ac mewn tiriondeb, ac mewn trugareddau. A dyweddïaf di â mi mewn ffyddlondeb; a thi a adnabyddi yr ARGLWYDD.