Hosea 14:1-9
Hosea 14:1-9 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
O Israel, tro yn ôl at yr ARGLWYDD dy Dduw. Dy ddrygioni wnaeth i ti syrthio. Siarad gydag e. Tro yn ôl ato, a dweud, “Maddau’n llwyr i ni am ein drygioni. Derbyn ein gweddi o gyffes. Derbyn ein mawl fel offrwm i ti. Dydy Asyria ddim yn gallu’n hachub. Wnawn ni ddim marchogaeth i ryfel. Wnawn ni ddim galw ‘ein duwiau’ ar y delwau wnaethon ni byth eto. ARGLWYDD, dim ond ti sy’n garedig at yr amddifad!” ARGLWYDD “Dw i’n mynd i’w gwella o’u gwrthgilio, a’u caru nhw’n ddiamod. Dw i’n mynd i droi cefn ar fy llid. Bydda i fel gwlith i Israel – bydd hi’n blodeuo fel saffrwn, a bydd ganddi wreiddiau dwfn fel coed Libanus. Bydd ei blagur yn tyfu; bydd yn hardd fel coeden olewydd, a bydd ei harogl yn hyfryd fel fforestydd Libanus. Bydd pobl yn byw eto dan ei chysgod. Bydd fel ŷd yn tyfu neu winwydden yn lledu; bydd yn enwog fel gwin Libanus. Fydd gan Effraim ddim i’w wneud ag eilunod byth eto! Bydda i’n ateb ei weddi ac yn gofalu amdano. Dw i fel coeden binwydd fytholwyrdd, bydda i’n rhoi ffrwyth i chi drwy’r flwyddyn.” Pwy sy’n ddoeth? Bydd e’n deall. Pwy sy’n gall? Bydd e’n gwybod. Mae ffyrdd yr ARGLWYDD yn iawn – bydd pobl gyfiawn yn eu dilyn, ond y rhai sy’n gwrthryfela yn baglu.
Hosea 14:1-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dychwel, Israel at yr ARGLWYDD dy Dduw, canys syrthiaist oherwydd dy ddrygioni. Cymerwch eiriau gyda chwi, a dychwelwch at yr ARGLWYDD; dywedwch wrtho, “Maddau'r holl ddrygioni, derbyn ddaioni, a rhown i ti ffrwyth ein gwefusau. Ni all Asyria ein hachub, ac ni farchogwn ar geffylau; ac wrth waith ein dwylo ni ddywedwn eto, ‘Ein Duw’. Ynot ti y caiff yr amddifad drugaredd.” “Iachâf eu hanffyddlondeb; fe'u caraf o'm bodd, oherwydd trodd fy llid oddi wrthynt. Byddaf fel gwlith i Israel; blodeua fel lili a lleda'i wraidd fel pren poplys. Lleda'i flagur, a bydd ei brydferthwch fel yr olewydden, a'i arogl fel Lebanon. Dychwelant a thrigo yn fy nghysgod; cynhyrchant ŷd, ffrwythant fel y winwydden, bydd eu harogl fel gwin Lebanon. “Beth sydd a wnelo Effraim mwy ag eilunod? Myfi sydd yn ei ateb ac yn ei arwain yn gywir. Yr wyf fi fel cypreswydden ddeiliog; oddi wrthyf y daw dy ffrwyth.” Pwy bynnag sydd ddoeth, dealled hyn; pwy bynnag sydd ddeallgar, gwybydded. Oherwydd y mae ffyrdd yr ARGLWYDD yn gywir; rhodia'r cyfiawn ynddynt, ond meglir y drygionus ynddynt.
Hosea 14:1-9 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ymchwel, Israel, at yr ARGLWYDD dy DDUW; canys ti a syrthiaist trwy dy anwiredd. Cymerwch eiriau gyda chwi, a dychwelwch at yr ARGLWYDD: dywedwch wrtho, Maddau yr holl anwiredd; derbyn ni yn ddaionus: a thalwn i ti loi ein gwefusau. Ni all Assur ein hachub ni; ni farchogwn ar feirch; ac ni ddywedwn mwyach wrth waith ein dwylo, O ein duwiau: oherwydd ynot ti y caiff yr amddifad drugaredd. Meddyginiaethaf eu hymchweliad hwynt, caraf hwynt yn rhad: canys trodd fy nig oddi wrtho. Byddaf fel gwlith i Israel: efe a flodeua fel y lili, ac a leda ei wraidd megis Libanus. Ei geinciau a gerddant, a bydd ei degwch fel yr olewydden, a’i arogl fel Libanus. Y rhai a arhosant dan ei gysgod ef a ddychwelant: adfywiant fel ŷd, blodeuant hefyd fel y winwydden: bydd ei goffadwriaeth fel gwin Libanus. Effraim a ddywed, Beth sydd i mi mwyach a wnelwyf ag eilunod? Gwrandewais, ac edrychais arno: myfi sydd fel ffynidwydden ir; ohonof fi y ceir dy ffrwyth di. Pwy sydd ddoeth, ac efe a ddeall hyn? a deallgar, ac efe a’i gwybydd? canys union yw ffyrdd yr ARGLWYDD, a’r rhai cyfiawn a rodiant ynddynt: ond y troseddwyr a dramgwyddant ynddynt.