Hosea 14:1-3
Hosea 14:1-3 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
O Israel, tro yn ôl at yr ARGLWYDD dy Dduw. Dy ddrygioni wnaeth i ti syrthio. Siarad gydag e. Tro yn ôl ato, a dweud, “Maddau’n llwyr i ni am ein drygioni. Derbyn ein gweddi o gyffes. Derbyn ein mawl fel offrwm i ti. Dydy Asyria ddim yn gallu’n hachub. Wnawn ni ddim marchogaeth i ryfel. Wnawn ni ddim galw ‘ein duwiau’ ar y delwau wnaethon ni byth eto. ARGLWYDD, dim ond ti sy’n garedig at yr amddifad!”
Hosea 14:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dychwel, Israel at yr ARGLWYDD dy Dduw, canys syrthiaist oherwydd dy ddrygioni. Cymerwch eiriau gyda chwi, a dychwelwch at yr ARGLWYDD; dywedwch wrtho, “Maddau'r holl ddrygioni, derbyn ddaioni, a rhown i ti ffrwyth ein gwefusau. Ni all Asyria ein hachub, ac ni farchogwn ar geffylau; ac wrth waith ein dwylo ni ddywedwn eto, ‘Ein Duw’. Ynot ti y caiff yr amddifad drugaredd.”
Hosea 14:1-3 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ymchwel, Israel, at yr ARGLWYDD dy DDUW; canys ti a syrthiaist trwy dy anwiredd. Cymerwch eiriau gyda chwi, a dychwelwch at yr ARGLWYDD: dywedwch wrtho, Maddau yr holl anwiredd; derbyn ni yn ddaionus: a thalwn i ti loi ein gwefusau. Ni all Assur ein hachub ni; ni farchogwn ar feirch; ac ni ddywedwn mwyach wrth waith ein dwylo, O ein duwiau: oherwydd ynot ti y caiff yr amddifad drugaredd.