Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Hosea 11:7-9 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Hosea 11:7-9 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Mae fy mhobl yn mynnu troi cefn arna i. Maen nhw’n galw ar Baal, ond fydd e byth yn eu helpu nhw! Sut alla i dy roi heibio, Effraim? Ydw i’n mynd i adael i ti fynd, Israel? Sut alla i dy roi heibio fel Adma? Ydw i’n mynd i dy drin fel Seboïm? Na, dw i wedi newid fy meddwl! Mae tosturi wedi cynnau’n fy nghalon. Alla i ddim gadael llonydd i’m llid losgi. Alla i ddim dinistrio Effraim yn llwyr! Duw ydw i, nid dyn fel chi, yr Un Sanctaidd – dw i ddim am ddod i ddinistrio.

Hosea 11:7-9 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Y mae fy mhobl yn mynnu cilio oddi wrthyf; er iddynt alw ar dduw goruchel, ni fydd yn eu dyrchafu o gwbl. “Pa fodd y'th roddaf i fyny, Effraim, a'th roi ymaith, Israel? Pa fodd y'th wnaf fel Adma, a'th osod fel Seboim? Newidiodd fy meddwl ynof; enynnodd fy nhosturi hefyd. Ni chyflawnaf angerdd fy llid, ni ddinistriaf Effraim eto; canys Duw wyf fi, ac nid meidrolyn, y Sanct yn dy ganol; ac ni ddof i ddinistrio.

Hosea 11:7-9 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

A’m pobl i sydd ar feddwl cilio oddi wrthyf fi; er iddynt eu galw at y Goruchaf, eto ni ddyrchafai neb ef. Pa fodd y’th roddaf ymaith, Effraim? y’th roddaf i fyny, Israel? pa fodd y’th wnaf fel Adma? ac y’th osodaf megis Seboim? trodd fy nghalon ynof, a’m hedifeirwch a gydgyneuwyd. Ni chyflawnaf angerdd fy llid: ni ddychwelaf i ddinistrio Effraim, canys DUW ydwyf fi, ac nid dyn; y Sanct yn dy ganol di; ac nid af i mewn i’r ddinas.