Hosea 1:2-11
Hosea 1:2-11 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Pan ddechreuodd yr ARGLWYDD siarad drwy Hosea, dwedodd wrtho: “Dos, a priodi gwraig sy’n puteinio. Bydd hi’n puteinio ac yn cael plant siawns. Mae fel y wlad yma, sy’n puteinio o hyd drwy droi cefn arna i, yr ARGLWYDD.” Felly dyma Hosea yn priodi Gomer, merch Diblaim. Dyma hi’n cael ei hun yn feichiog, ac yn geni mab iddo. A dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Hosea, “Galw fe’n Jesreel, achos yn fuan iawn dw i’n mynd i gosbi llinach frenhinol Jehw am y tywallt gwaed yn Jesreel. Dw i’n mynd i ddod â theyrnas Israel i ben. Bydda i’n dinistrio grym milwrol Israel yn Nyffryn Jesreel.” Pan oedd Gomer yn disgwyl babi eto, dyma hi’n cael merch y tro yma. A dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Hosea, “Galw hi’n Lo-rwhama (sef ‘dim trugaredd’). Fydda i’n dangos dim trugaredd at wlad Israel o hyn ymlaen. Maen nhw wedi fy mradychu i. Ond bydda i’n dangos trugaredd at wlad Jwda. Fi, yr ARGLWYDD eu Duw, fydd yn eu hachub nhw, nid arfau a grym milwrol a rhyfela.” Cyn gynted ag roedd Gomer wedi stopio bwydo Lo-rwhama ar y fron, roedd hi’n feichiog eto, a dyma hi’n cael mab arall. Dyma’r ARGLWYDD yn dweud, “Galw fe’n Lo-ammi (sef ‘dim fy mhobl’). Achos dych chi ddim yn bobl i mi, a dw i ddim yn Dduw i chi.” Ond yn y dyfodol, bydd poblogaeth Israel fel y tywod ar lan y môr – yn amhosib i’w cyfrif. Yn yr union le lle dwedwyd wrthyn nhw, “Dych chi ddim yn bobl i mi” byddan nhw’n cael eu galw yn “blant y Duw byw”! Bydd pobl Jwda a phobl Israel yn uno gyda’i gilydd. Byddan nhw’n dewis un arweinydd, ac yn codi eto o’r tir. Bydd hi’n ddiwrnod mawr i Jesreel!
Hosea 1:2-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dyma ddechrau geiriau'r ARGLWYDD trwy Hosea. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Hosea, “Dos, cymer iti wraig o butain, a phlant puteindra, oherwydd puteiniodd y wlad i gyd trwy gilio oddi wrth yr ARGLWYDD.” Fe aeth a chymryd Gomer, merch Diblaim; beichiogodd hithau a geni mab iddo. Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Enwa ef Jesreel, oherwydd ymhen ychydig eto dialaf ar dŷ Jehu am waed Jesreel, a rhof derfyn ar frenhiniaeth tŷ Israel. Y dydd hwnnw torraf fwa Israel yn nyffryn Jesreel.” Beichiogodd Gomer eilwaith a geni merch. A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Hosea, “Enwa hi Lo-ruhama, oherwydd ni wnaf drugaredd mwyach â thŷ Israel, i roi maddeuant iddynt. Ond gwnaf drugaredd â thŷ Jwda, a gwaredaf hwy trwy'r ARGLWYDD eu Duw; ond ni waredaf hwy trwy'r bwa, y cleddyf, rhyfel, meirch na marchogion.” Wedi iddi ddiddyfnu Lo-ruhama, beichiogodd Gomer a geni mab. A dywedodd yr ARGLWYDD, “Enwa ef Lo-ammi, oherwydd nid ydych yn bobl i mi, na minnau'n Dduw i chwithau.” Bydd nifer plant Israel fel tywod y môr, na ellir ei fesur na'i rifo. Yn y lle y dywedwyd wrthynt, “Nid-fy-mhobl ydych”, fe ddywedir wrthynt, “Meibion y Duw byw”. Cesglir ynghyd blant Jwda a phlant Israel, a gosodant iddynt un pen; dônt i fyny o'r wlad, oherwydd mawr fydd dydd Jesreel.
Hosea 1:2-11 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Dechrau ymadrodd yr ARGLWYDD trwy Hosea. Yr ARGLWYDD a ddywedodd wrth Hosea, Dos, cymer i ti wraig o odineb, a phlant o odineb: oherwydd y mae y wlad gan buteinio yn puteinio oddi ar ôl yr ARGLWYDD. Ac efe a aeth ac a gymerodd Gomer merch Diblaim; a hi a feichiogodd, ac a ddug iddo ef fab. A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrtho, Galw ei enw ef Jesreel: canys ar fyrder y dialaf waed Jesreel ar dŷ Jehu, ac y gwnaf i frenhiniaeth tŷ Israel ddarfod. A’r dydd hwnnw y torraf fwa Israel yng nglyn Jesreel. A hi a feichiogodd eilwaith, ac a esgorodd ar ferch. A dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, Galw ei henw hi Lo-rwhama; am na chwanegaf drugarhau wrth dŷ Israel; eithr dygaf hwynt ymaith yn llwyr. Ac eto mi a drugarhaf wrth dŷ Jwda, ac a’u cadwaf hwynt trwy yr ARGLWYDD eu DUW; ac nid â bwa, nac â chleddyf, nac â rhyfel, nac â meirch nac â marchogion, y cadwaf hwynt. A hi a ddiddyfnodd Lo-rwhama, ac a feichiogodd, ac a esgorodd ar fab. A DUW a ddywedodd, Galw ei enw ef Lo-ammi: canys nid ydych bobl i mi, ac ni byddaf i chwithau yn DDUW. Eto bydd nifer meibion Israel fel tywod y môr, yr hwn nis mesurir, ac nis cyfrifir: a bydd, yn y man lle y dywedwyd wrthynt, Nid pobl i mi ydych chwi, y dywedir yno wrthynt, Meibion y DUW byw ydych. Yna meibion Jwda a meibion Israel a gesglir ynghyd, a hwy a osodant iddynt un pen; a deuant i fyny o’r tir: canys mawr fydd dydd Jesreel.