Hosea 1:1-2
Hosea 1:1-2 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma’r neges roddodd yr ARGLWYDD i Hosea fab Beëri. Roedd yn proffwydo pan oedd Wseia, Jotham, Ahas a Heseceia yn frenhinoedd ar Jwda, a Jeroboam fab Jehoas, yn frenin ar Israel. Pan ddechreuodd yr ARGLWYDD siarad drwy Hosea, dwedodd wrtho: “Dos, a priodi gwraig sy’n puteinio. Bydd hi’n puteinio ac yn cael plant siawns. Mae fel y wlad yma, sy’n puteinio o hyd drwy droi cefn arna i, yr ARGLWYDD.”
Hosea 1:1-2 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Gair yr ARGLWYDD at Hosea fab Beeri yn nyddiau Usseia, Jotham, Ahas a Heseceia, brenhinoedd Jwda, ac yn nyddiau Jeroboam fab Joas, brenin Israel. Dyma ddechrau geiriau'r ARGLWYDD trwy Hosea. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Hosea, “Dos, cymer iti wraig o butain, a phlant puteindra, oherwydd puteiniodd y wlad i gyd trwy gilio oddi wrth yr ARGLWYDD.”
Hosea 1:1-2 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Gair yr ARGLWYDD yr hwn a ddaeth at Hosea, mab Beeri, yn nyddiau Usseia, Jotham, Ahas, a Heseceia, brenhinoedd Jwda, ac yn nyddiau Jeroboam mab Joas, brenin Israel. Dechrau ymadrodd yr ARGLWYDD trwy Hosea. Yr ARGLWYDD a ddywedodd wrth Hosea, Dos, cymer i ti wraig o odineb, a phlant o odineb: oherwydd y mae y wlad gan buteinio yn puteinio oddi ar ôl yr ARGLWYDD.