Hebreaid 8:1-2
Hebreaid 8:1-2 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Y pwynt ydy hyn: mae’r Archoffeiriad sydd gynnon ni wedi eistedd yn y sedd anrhydedd yn y nefoedd, ar yr ochr dde i’r Duw Mawr ei hun. Dyna’r cysegr mae hwn yn gweini ynddo – y ganolfan addoliad go iawn sydd wedi’i chodi gan yr Arglwydd ei hun, a dim gan unrhyw berson dynol.
Rhanna
Darllen Hebreaid 8Hebreaid 8:1-2 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Prif bwynt yr hyn rwy'n ei ddweud yw mai dyma'r math o archoffeiriad sydd gennym, un sydd wedi eistedd ar ddeheulaw gorsedd y Mawrhydi yn y nefoedd, yn weinidog y cysegr, sef y gwir dabernacl a osododd yr Arglwydd, nid pobl feidrol.
Rhanna
Darllen Hebreaid 8Hebreaid 8:1-2 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A phen ar y pethau a ddywedwyd yw hyn: Y mae gennym y fath Archoffeiriad, yr hwn a eisteddodd ar ddeheulaw gorseddfainc y Mawredd yn y nefoedd; Yn Weinidog y gysegrfa, a’r gwir dabernacl, yr hwn a osododd yr Arglwydd, ac nid dyn.
Rhanna
Darllen Hebreaid 8