Hebreaid 7:1-28
Hebreaid 7:1-28 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Brenin Salem oedd Melchisedec, ac offeiriad i’r Duw Goruchaf. Pan oedd Abraham ar ei ffordd adre ar ôl gorchfygu nifer o frenhinoedd mewn brwydr, daeth Melchisedec ato. Dyma Melchisedec yn bendithio Abraham, a dyma Abraham wedyn yn rhoi un rhan o ddeg o’r cwbl oedd wedi’i ennill i Melchisedec. Ystyr Melchisedec ydy ‘y brenin cyfiawn’; ac mae’n ‘frenin heddwch’ hefyd, am mai dyna ydy ystyr ‘Brenin Salem’. Dŷn ni ddim yn gwybod pwy oedd ei dad a’i fam, a does dim sôn am ei achau na dyddiad ei eni na’i farw. Felly, mae fel darlun o Fab Duw, sy’n aros yn offeiriad am byth. Meddyliwch mor bwysig oedd Melchisedec! Rhoddodd hyd yn oed Abraham, tad ein cenedl ni, un rhan o ddeg o beth oedd wedi’i ennill yn y frwydr iddo! Dŷn ni’n gwybod fod y Gyfraith Iddewig yn dweud wrth yr offeiriaid, sy’n ddisgynyddion i Lefi, gasglu un rhan o ddeg o beth sydd gan y bobl. Ond cofiwch mai casglu maen nhw gan bobl eu cenedl eu hunain – disgynyddion Abraham. Doedd Melchisedec ddim yn perthyn i Lefi, ac eto rhoddodd Abraham un rhan o ddeg iddo. A Melchisedec fendithiodd Abraham, yr un oedd Duw wedi addo pethau mor fawr iddo. Does dim rhaid dweud fod yr un sy’n bendithio yn fwy na’r person sy’n derbyn y fendith. Yn achos yr offeiriaid Iddewig, mae’r un rhan o ddeg yn cael ei gasglu gan ddynion sy’n siŵr o farw; ond yn achos Melchisedec mae’n cael ei gasglu gan un maen nhw’n dweud sy’n fyw! Gallech chi hyd yn oed ddweud fod disgynyddion Lefi (sy’n casglu’r un rhan o ddeg), wedi talu un rhan o ddeg i Melchisedec drwy Abraham. Er bod Lefi ddim wedi cael ei eni pan aeth Melchisedec allan i gyfarfod Abraham, roedd yr had y cafodd ei eni ohono yno, yng nghorff ei gyndad! Mae’r Gyfraith Iddewig yn dibynnu ar waith yr offeiriaid sy’n perthyn i urdd Lefi. Os oedd y drefn offeiriadol hon yn cyflawni bwriadau Duw yn berffaith pam roedd angen i offeiriad arall ddod? Pam wnaeth Duw anfon un oedd yr un fath â Melchisedec yn hytrach nag un oedd yn perthyn i urdd Lefi ac Aaron? Ac os ydy’r drefn offeiriadol yn newid, rhaid i’r gyfraith newid hefyd. Mae’r un dŷn ni’n sôn amdano yn perthyn i lwyth gwahanol, a does neb o’r llwyth hwnnw wedi gwasanaethu fel offeiriad wrth yr allor erioed. Mae pawb yn gwybod mai un o ddisgynyddion llwyth Jwda oedd ein Harglwydd ni, a wnaeth Moses ddim dweud fod gan y llwyth hwnnw unrhyw gysylltiad â’r offeiriadaeth! Ac mae beth dŷn ni’n ei ddweud yn gliriach fyth pan ddeallwn ni fod yr offeiriad newydd yn debyg i Melchisedec. Ddaeth hwn ddim yn offeiriad am fod y rheolau’n dweud hynny (am ei fod yn perthyn i lwyth arbennig); na, ond am fod nerth y bywyd na ellir ei ddinistrio ynddo. A dyna mae’r salmydd yn ei ddweud: “Rwyt ti’n offeiriad am byth, yr un fath â Melchisedec.” Felly mae’r drefn gyntaf yn cael ei rhoi o’r neilltu am ei bod yn methu gwneud beth oedd ei angen. Wnaeth y Gyfraith Iddewig wneud dim byd yn berffaith. Ond mae gobaith gwell wedi’i roi i ni yn ei lle. A dyna sut dŷn ni’n mynd at Dduw bellach. Ac wrth gwrs, roedd Duw wedi mynd ar lw y byddai’n gwneud hyn! Pan oedd eraill yn cael eu gwneud yn offeiriaid doedd dim sôn am unrhyw lw, ond pan ddaeth Iesu yn offeiriad dyma Duw yn tyngu llw. Dwedodd wrtho: “Mae’r Arglwydd wedi tyngu llw a fydd e ddim yn newid ei feddwl: ‘Rwyt ti yn offeiriad am byth.’” Mae hyn yn dangos fod yr ymrwymiad newydd mae Iesu’n warant ohono gymaint gwell na’r hen un. Hefyd, dan yr hen drefn roedd llawer iawn o offeiriaid. Roedd pob un ohonyn nhw’n marw, ac wedyn roedd rhaid i rywun arall gymryd y gwaith drosodd! Ond mae Iesu yn fyw am byth, ac mae’n aros yn offeiriad am byth. Felly mae Iesu’n gallu achub un waith ac am byth y bobl hynny mae’n eu cynrychioli o flaen Duw! Ac mae e hefyd yn fyw bob amser i bledio ar eu rhan nhw. Dyna’r math o Archoffeiriad sydd ei angen arnon ni – un sydd wedi cysegru ei hun yn llwyr, heb bechu o gwbl na gwneud dim o’i le, ac sydd bellach wedi’i osod ar wahân i ni bechaduriaid. Mae e yn y lle mwya anrhydeddus sydd yn y nefoedd. Yn wahanol i bob archoffeiriad arall, does dim rhaid i hwn gyflwyno’r un aberthau ddydd ar ôl dydd. Roedd rhaid i’r archoffeiriaid eraill gyflwyno aberth dros eu pechodau eu hunain yn gyntaf ac yna dros bechodau’r bobl. Ond aberthodd Iesu ei hun dros ein pechodau ni un waith ac am byth. Dan drefn y Gyfraith Iddewig dynion cyffredin gyda’u holl wendidau sy’n cael eu penodi’n archoffeiriaid. Ond mae’r cyfeiriad at Dduw yn mynd ar lw wedi’i roi ar ôl y Gyfraith Iddewig, ac yn sôn am Dduw yn penodi ei Fab yn Archoffeiriad, ac mae hwn wedi gwneud popeth oedd angen ei wneud un waith ac am byth.
Hebreaid 7:1-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Cyfarfu'r Melchisedec hwn, brenin Salem, offeiriad i'r Duw Goruchaf, ag Abraham wrth iddo ddychwelyd o daro'r brenhinoedd, a bendithiodd ef; a rhannodd Abraham iddo yntau ddegwm o'r cwbl. Yn gyntaf, ystyr ei enw ef yw “brenin cyfiawnder”; ac yna, y mae'n frenin Salem, hynny yw, “brenin tangnefedd”. Ac yntau heb dad, heb fam, a heb achau, nid oes iddo na dechrau dyddiau na diwedd einioes; ond, wedi ei wneud yn gyffelyb i Fab Duw, y mae'n aros yn offeiriad am byth. Ystyriwch pa mor fawr oedd y gŵr hwn y rhoddwyd iddo ddegwm o'r anrhaith gan Abraham y patriarch. Yn awr, y mae'r rheini o blith disgynyddion Lefi sy'n cymryd swydd offeiriad dan orchymyn yn ôl y Gyfraith i gymryd degwm gan y bobl, hynny yw, eu cyd-genedl, er mai disgynyddion Abraham ydynt. Ond y mae hwn, er nad yw o'u llinach hwy, wedi cymryd degwm gan Abraham ac wedi bendithio'r hwn y mae'r addewidion ganddo. A heb ddadl o gwbl, y lleiaf sy'n cael ei fendithio gan y mwyaf. Yn y naill achos, rhai meidrol sydd yn derbyn degwm, ond yn y llall, un y tystiolaethir amdano ei fod yn aros yn fyw. Gellir dweud hyd yn oed fod Lefi, derbyniwr y degwm, yntau wedi talu degwm drwy Abraham, oblegid yr oedd ef eisoes yn llwynau ei gyndad pan gyfarfu Melchisedec â hwnnw. Os oedd perffeithrwydd i'w gael, felly, trwy'r offeiriadaeth Lefiticaidd—oblegid ar sail honno y rhoddwyd y Gyfraith i'r bobl—pa angen pellach oedd i sôn am offeiriad arall yn codi, yn ôl urdd Melchisedec ac nid yn ôl urdd Aaron? Oblegid os yw'r offeiriadaeth yn cael ei newid, rhaid bod y Gyfraith hefyd yn cael ei newid. Oherwydd y mae'r un y dywedir y pethau hyn amdano yn perthyn i lwyth arall, nad oes yr un aelod ohono wedi gweini wrth yr allor; ac y mae'n gwbl hysbys fod ein Harglwydd ni yn hanu o lwyth Jwda, llwyth na ddywedodd Moses ddim am offeiriad mewn perthynas ag ef. Y mae'r ddadl yn eglurach fyth os ar ddull Melchisedec y bydd yr offeiriad arall yn codi, a'i offeiriadaeth yn dibynnu, nid ar gyfraith sydd â'i gorchymyn yn ymwneud â'r cnawd ond ar nerth bywyd annistryw. Oherwydd tystir amdano: “Yr wyt ti'n offeiriad am byth yn ôl urdd Melchisedec.” Felly, y mae yma ddiddymu ar y gorchymyn blaenorol, am ei fod yn wan ac anfuddiol. Oherwydd nid yw'r Gyfraith wedi dod â dim i berffeithrwydd. Ond yn awr cyflwynwyd i ni obaith rhagorach yr ydym drwyddo yn nesáu at Dduw. Yn awr, ni ddigwyddodd hyn heb i Dduw dyngu llw. Daeth y lleill, yn wir, yn offeiriaid heb i lw gael ei dyngu; ond daeth hwn trwy lw yr Un a ddywedodd wrtho: “Tyngodd yr Arglwydd, ac nid â'n ôl ar ei air: ‘Yr wyt ti'n offeiriad am byth.’ ” Yn gymaint â hynny, felly, y mae Iesu wedi dod yn feichiau cyfamod rhagorach. Y mae'r lleill a ddaeth yn offeiriaid yn lluosog hefyd, am fod angau yn eu rhwystro i barhau yn eu swydd; ond y mae gan hwn, am ei fod yn aros am byth, offeiriadaeth na throsglwyddir mohoni. Dyna pam y mae ef hefyd yn gallu achub hyd yr eithaf y rhai sy'n agosáu at Dduw trwyddo ef, gan ei fod yn fyw bob amser i eiriol drostynt. Dyma'r math o archoffeiriad sy'n addas i ni, un sanctaidd, di-fai, dihalog, wedi ei ddidoli oddi wrth bechaduriaid, ac wedi ei ddyrchafu yn uwch na'r nefoedd; un nad oes rhaid iddo yn feunyddiol, fel yr archoffeiriaid, offrymu aberthau yn gyntaf dros ei bechodau ei hun, ac yna dros rai'r bobl. Oblegid fe wnaeth ef hyn un waith am byth pan fu iddo'i offrymu ei hun. Oherwydd y mae'r Gyfraith yn penodi yn archoffeiriaid ddynion sy'n weiniaid, ond y mae geiriau'r llw, sy'n ddiweddarach na'r Gyfraith, yn penodi Mab sydd wedi ei berffeithio am byth.
Hebreaid 7:1-28 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Canys y Melchisedec hwn, brenin Salem, offeiriad y Duw Goruchaf, yr hwn a gyfarfu ag Abraham wrth ddychwelyd o ladd y brenhinoedd, ac a’i bendithiodd ef; I’r hwn hefyd y cyfrannodd Abraham ddegwm o bob peth: yr hwn yn gyntaf, o’i gyfieithu, yw Brenin cyfiawnder, ac wedi hynny hefyd, Brenin Salem, yr hyn yw, Brenin heddwch; Heb dad, heb fam, heb achau, heb fod iddo na dechrau dyddiau, na diwedd einioes; eithr wedi ei wneuthur yn gyffelyb i Fab Duw, sydd yn aros yn Offeiriad yn dragywydd. Edrychwch faint oedd hwn, i’r hwn hefyd y rhoddodd Abraham y patriarch ddegwm o’r anrhaith. A’r rhai yn wir sydd o feibion Lefi yn derbyn swydd yr offeiriadaeth, y mae ganddynt orchymyn i gymryd degwm gan y bobl yn ôl y gyfraith, sef gan eu brodyr, er eu bod wedi dyfod o lwynau Abraham: Eithr yr hwn nid oedd ei achau ohonynt hwy, a gymerodd ddegwm gan Abraham, ac a fendithiodd yr hwn yr oedd yr addewidion iddo. Ac yn ddi-ddadl, yr hwn sydd leiaf a fendithir gan ei well. Ac yma y mae dynion y rhai sydd yn meirw yn cymryd degymau: eithr yno, yr hwn y tystiolaethwyd amdano ei fod ef yn fyw. Ac, fel y dywedwyf felly, yn Abraham y talodd Lefi hefyd ddegwm, yr hwn oedd yn cymryd degymau. Oblegid yr ydoedd efe eto yn lwynau ei dad, pan gyfarfu Melchisedec ag ef. Os ydoedd gan hynny berffeithrwydd trwy offeiriadaeth Lefi, (oblegid dan honno y rhoddwyd y gyfraith i’r bobl,) pa raid oedd mwyach godi Offeiriad arall yn ôl urdd Melchisedec, ac nas gelwid ef yn ôl urdd Aaron? Canys wedi newidio’r offeiriadaeth, anghenraid yw bod cyfnewid ar y gyfraith hefyd. Oblegid am yr hwn y dywedir y pethau hyn, efe a berthyn i lwyth arall, o’r hwn nid oedd neb yn gwasanaethu’r allor. Canys hysbys yw, mai o Jwda y cododd ein Harglwydd ni; am yr hwn lwyth ni ddywedodd Moses ddim tuag at offeiriadaeth. Ac y mae’n eglurach o lawer eto; od oes yn ôl cyffelybrwydd Melchisedec Offeiriad arall yn codi, Yr hwn a wnaed, nid yn ôl cyfraith gorchymyn cnawdol, eithr yn ôl nerth bywyd annherfynol. Canys tystiolaethu y mae, Offeiriad wyt ti yn dragywydd yn ôl urdd Melchisedec. Canys yn ddiau y mae dirymiad i’r gorchymyn sydd yn myned o’r blaen, oherwydd ei lesgedd a’i afles. Oblegid ni pherffeithiodd y gyfraith ddim, namyn dwyn gobaith gwell i mewn a berffeithiodd; trwy yr hwn yr ydym yn nesáu at Dduw. Ac yn gymaint nad heb lw y gwnaethpwyd ef yn Offeiriad: (Canys y rhai hynny yn wir ydynt wedi eu gwneuthur yn offeiriaid heb lw: ond hwn trwy lw, gan yr hwn a ddywedodd wrtho, Tyngodd yr Arglwydd, ac ni bydd edifar ganddo, Ti sydd Offeiriad yn dragywydd yn ôl urdd Melchisedec:) Ar destament gwell o hynny y gwnaethpwyd Iesu yn Fachnïydd. A’r rhai hynny yn wir, llawer sydd wedi eu gwneuthur yn offeiriaid, oherwydd lluddio iddynt gan farwolaeth barhau: Ond hwn, am ei fod ef yn aros yn dragywydd, sydd ag offeiriadaeth dragwyddol ganddo. Am hynny efe a ddichon hefyd yn gwbl iacháu’r rhai trwyddo ef sydd yn dyfod at Dduw, gan ei fod ef yn byw bob amser i eiriol drostynt hwy. Canys y cyfryw Archoffeiriad sanctaidd, diddrwg, dihalog, didoledig oddi wrth bechaduriaid, ac wedi ei wneuthur yn uwch na’r nefoedd, oedd weddus i ni; Yr hwn nid yw raid iddo beunydd, megis i’r offeiriaid hynny, offrymu aberthau yn gyntaf dros ei bechodau ei hun, ac yna dros yr eiddo’r bobl: canys hynny a wnaeth efe unwaith, pan offrymodd efe ef ei hun. Canys y gyfraith sydd yn gwneuthur dynion â gwendid ynddynt, yn archoffeiriaid; eithr gair y llw, yr hwn a fu wedi’r gyfraith, sydd yn gwneuthur y Mab, yr hwn a berffeithiwyd yn dragywydd.