Hebreaid 5:13-14
Hebreaid 5:13-14 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dydy’r un sy’n byw ar laeth ddim yn gwybod rhyw lawer am wneud beth sy’n iawn – mae fel plentyn bach. Ond mae’r rhai sydd wedi tyfu i fyny yn cael bwyd solet, ac wedi dod i arfer gwahaniaethu rhwng y drwg a’r da.
Rhanna
Darllen Hebreaid 5Hebreaid 5:13-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Nid oes gan y sawl sy'n byw ar laeth ddim profiad o egwyddor cyfiawnder, am mai baban ydyw. Pobl wedi cyrraedd eu llawn dwf sy'n cymryd bwyd cryf; y mae eu synhwyrau hwy, trwy ymarfer, wedi eu disgyblu i farnu rhwng da a drwg.
Rhanna
Darllen Hebreaid 5Hebreaid 5:13-14 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Canys pob un a’r sydd yn ymarfer â llaeth, sydd anghynefin â gair cyfiawnder; canys maban yw. Eithr bwyd cryf a berthyn i’r rhai perffaith, y rhai oherwydd cynefindra y mae ganddynt synnwyr wedi ymarfer i ddosbarthu drwg a da.
Rhanna
Darllen Hebreaid 5