Hebreaid 4:14-15
Hebreaid 4:14-15 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Felly gadewch i ni ddal ein gafael yn beth dŷn ni’n gredu. Mae gynnon ni Archoffeiriad gwych! – Iesu, Mab Duw, sydd wedi mynd i mewn at Dduw i’r nefoedd. Ac mae’n Archoffeiriad sy’n deall yn iawn mor wan ydyn ni. Mae wedi cael ei demtio yn union yr un fath â ni, ond heb bechu o gwbl.
Hebreaid 4:14-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Gan fod gennym, felly, archoffeiriad mawr sydd wedi mynd drwy'r nefoedd, sef Iesu, Mab Duw, gadewch inni lynu wrth ein cyffes. Canys nid archoffeiriad heb allu cyd-ddioddef â'n gwendidau sydd gennym, ond un sydd wedi ei demtio ym mhob peth, yn yr un modd â ni, ac eto heb bechod.
Hebreaid 4:14-15 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Gan fod wrth hynny i ni Archoffeiriad mawr, yr hwn a aeth i’r nefoedd, Iesu Mab Duw, glynwn yn ein proffes. Canys nid oes i ni Archoffeiriad heb fedru cyd-ddioddef gyda’n gwendid ni; ond wedi ei demtio ym mhob peth yr un ffunud â ninnau, eto heb bechod.