Genesis 9:18-20
Genesis 9:18-20 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Shem, Cham a Jaffeth oedd enwau meibion Noa ddaeth allan o’r arch. (Cham oedd tad Canaan.) Roedd y tri ohonyn nhw yn feibion i Noa, ac mae holl bobloedd y byd yn ddisgynyddion iddyn nhw. Roedd Noa yn ffermwr. Fe oedd y cyntaf un i blannu gwinllan.
Rhanna
Darllen Genesis 9Genesis 9:18-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Sem, Cham a Jaffeth oedd meibion Noa a ddaeth allan o'r arch. Cham oedd tad Canaan. Dyma dri mab Noa, ac ohonynt y poblogwyd yr holl ddaear. Dechreuodd Noa fod yn amaethwr. Plannodd winllan
Rhanna
Darllen Genesis 9Genesis 9:18-20 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A meibion Noa y rhai a ddaeth allan o’r arch, oedd Sem, Cham, a Jaffeth; a Cham oedd dad Canaan. Y tri hyn oedd feibion Noa: ac o’r rhai hyn yr hiliwyd yr holl ddaear. A Noa a ddechreuodd fod yn llafurwr, ac a blannodd winllan
Rhanna
Darllen Genesis 9