Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Genesis 6:1-22

Genesis 6:1-22 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Wrth i boblogaeth y byd dyfu ac i ferched gael eu geni, dyma’r bodau nefol yn gweld fod merched dynol yn hardd. A dyma nhw’n cymryd y rhai roedden nhw’n eu ffansïo i fod yn wragedd iddyn nhw’u hunain. Yna dyma’r ARGLWYDD yn dweud, “Alla i ddim gadael i bobl fyw am byth. Maen nhw’n greaduriaid sy’n mynd i farw, ac o hyn ymlaen fyddan nhw ddim yn byw fwy na 120 mlynedd.” Roedd cewri yn byw ar y ddaear bryd hynny (ac wedyn hefyd). Nhw oedd y plant gafodd eu geni ar ôl i’r bodau nefol gael rhyw gyda merched dynol. Dyma arwyr enwog yr hen fyd. Roedd yr ARGLWYDD yn gweld bod y ddynoliaeth bellach yn ofnadwy o ddrwg. Doedden nhw’n meddwl am ddim byd ond gwneud drwg drwy’r amser. Roedd yr ARGLWYDD yn sori ei fod e wedi creu’r ddynoliaeth. Roedd wedi’i frifo a’i ddigio. Felly dyma fe’n dweud, “Dw i’n mynd i gael gwared â’r ddynoliaeth yma dw i wedi’i chreu. Ydw, a’r anifeiliaid, yr holl ymlusgiaid a phryfed a’r adar hefyd. Dw i’n sori mod i wedi’u creu nhw yn y lle cyntaf.” Ond roedd Noa wedi plesio’r ARGLWYDD. Dyma hanes Noa a’i deulu: Roedd Noa yn ddyn da – yr unig un bryd hynny oedd yn gwneud beth roedd Duw eisiau. Roedd ganddo berthynas agos gyda Duw. Roedd ganddo dri mab, sef Shem, Cham a Jaffeth. Roedd y byd wedi’i sbwylio yng ngolwg Duw. Roedd trais a chreulondeb ym mhobman. Gwelodd Duw fod y byd wedi’i sbwylio go iawn. Roedd pawb yn gwneud drwg. Felly dyma Duw yn dweud wrth Noa, “Dw i wedi penderfynu bod rhaid i bawb gael eu dinistrio. Mae trais a chreulondeb ym mhobman, felly dw i’n mynd i’w dinistrio nhw, a’r byd hefo nhw. Dw i am i ti adeiladu arch, sef cwch mawr, wedi’i gwneud o goed goffer. Rhanna hi yn ystafelloedd a’i selio hi y tu mewn a’r tu allan â phyg. Gwna hi’n 130 metr o hyd, 22 metr o led ac 13 metr o uchder. Rho do ar yr arch, ond gad fwlch o 45 centimetr rhwng y to ac ochrau’r arch. Rho ddrws ar ochr yr arch, ac adeilada dri llawr ynddi – yr isaf, y canol a’r uchaf. Dw i’n mynd i ddod â llifogydd ar y ddaear a boddi popeth sy’n anadlu. Bydd popeth byw yn marw. Ond bydda i’n gwneud ymrwymiad i ti. Byddi di’n mynd i mewn i’r arch – ti a dy feibion, dy wraig di a’u gwragedd nhw. “Dw i am i ti fynd â dau o bob math o anifail i’r arch hefo ti i’w cadw’n fyw, sef un gwryw ac un benyw. Dau o bob math o adar, pob math o anifeiliaid a phob math o ymlusgiaid – bydd dau o bopeth yn dod atat ti i’w cadw’n fyw. Dos â bwyd o bob math gyda ti hefyd, a’i storio. Digon o fwyd i chi ac i’r anifeiliaid.” A dyma Noa yn gwneud yn union fel roedd Duw wedi dweud wrtho.

Genesis 6:1-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Dechreuodd y bobl amlhau ar wyneb y ddaear, a ganwyd merched iddynt; yna gwelodd meibion Duw fod y merched yn hardd, a chymerasant wragedd o'u plith yn ôl eu dewis. A dywedodd yr ARGLWYDD, “Ni fydd fy ysbryd yn aros am byth mewn meidrolyn, oherwydd cnawd yw; ond cant ac ugain o flynyddoedd fydd hyd ei oes.” Y Neffilim oedd ar y ddaear yr amser hwnnw, ac wedi hynny hefyd, pan oedd meibion Duw yn cyfathrachu â'r merched, a hwythau'n geni plant iddynt. Dyma'r cedyrn gynt, gwŷr enwog. Pan welodd yr ARGLWYDD fod drygioni'r bobl yn fawr ar y ddaear, a bod holl ogwydd eu bwriadau bob amser yn ddrwg, bu edifar gan yr ARGLWYDD iddo wneud dyn ar y ddaear, a gofidiodd yn fawr. Yna dywedodd yr ARGLWYDD, “Dileaf oddi ar wyneb y ddaear y bobl a greais, ie, dyn ac anifail, ymlusgiaid ac adar yr awyr, oherwydd y mae'n edifar gennyf imi eu gwneud.” Ond cafodd Noa ffafr yng ngolwg yr ARGLWYDD. Dyma genedlaethau Noa. Gŵr cyfiawn oedd Noa, perffaith yn ei oes; a rhodiodd Noa gyda Duw. Yr oedd Noa'n dad i dri o feibion: Sem, Cham a Jaffeth. Aeth y ddaear yn llygredig gerbron Duw, ac yn llawn trais. A gwelodd Duw fod y ddaear yn llygredig, am fod bywyd pob peth byw ar y ddaear wedi ei lygru. Yna dywedodd Duw wrth Noa, “Yr wyf wedi penderfynu difodi pob cnawd, oherwydd llanwyd y ddaear â thrais ganddynt; yr wyf am eu difetha o'r ddaear. Gwna i ti arch o bren goffer; gwna gelloedd ynddi a rho drwch o byg arni, oddi mewn ac oddi allan. Dyma'i chynllun: hyd yr arch, tri chan cufydd; ei lled, hanner can cufydd; ei huchder, deg cufydd ar hugain. Gwna do hefyd i'r arch, a gorffen ei grib gufydd yn uwch; gosod ddrws yr arch yn ei hochr, a gwna hi'n dri llawr, yr isaf, y canol a'r uchaf. Edrych, yr wyf ar fin dwyn dyfroedd y dilyw ar y ddaear, i ddifetha pob cnawd dan y nef ag anadl einioes ynddo; bydd popeth ar y ddaear yn trengi. Ond sefydlaf fy nghyfamod â thi; fe ei di i'r arch, ti a'th feibion a'th wraig, a gwragedd dy feibion gyda thi. Yr wyt i fynd â dau o bob math o'r holl greaduriaid byw i mewn i'r arch i'w cadw'n fyw gyda thi, sef gwryw a benyw. Daw atat ddau o bob math o'r adar yn ôl eu rhywogaeth, o'r anifeiliaid yn ôl eu rhywogaeth, ac o holl ymlusgiaid y tir yn ôl eu rhywogaeth, i'w cadw'n fyw. Cymer hefyd o bob bwyd sy'n cael ei fwyta, a chasgla ef ynghyd; bydd yn ymborth i ti ac iddynt hwythau.” Felly y gwnaeth Noa; gwnaeth bopeth fel y gorchmynnodd Duw iddo.

Genesis 6:1-22 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Yna y bu, pan ddechreuodd dynion amlhau ar wyneb y ddaear, a geni merched iddynt, Weled o feibion DUW ferched dynion mai teg oeddynt hwy; a hwy a gymerasant iddynt wragedd o’r rhai oll a ddewisasant. A dywedodd yr ARGLWYDD, Nid ymrysona fy Ysbryd i â dyn yn dragywydd, oblegid mai cnawd yw efe: a’i ddyddiau fyddant ugain mlynedd a chant. Cewri oedd ar y ddaear y dyddiau hynny: ac wedi hynny hefyd pan ddaeth meibion DUW at ferched dynion, a phlanta o’r rhai hynny iddynt: dyma’r cedyrn a fu wŷr enwog gynt. A’r ARGLWYDD a welodd mai aml oedd drygioni dyn ar y ddaear, a bod holl fwriad meddylfryd ei galon yn unig yn ddrygionus bob amser. Ac edifarhaodd ar yr ARGLWYDD wneuthur ohono ef ddyn ar y ddaear, ac efe a ymofidiodd yn ei galon. A’r ARGLWYDD a ddywedodd, Dileaf ddyn yr hwn a greais oddi ar wyneb y ddaear, o ddyn hyd anifail, hyd yr ymlusgiad, a hyd ehediad y nefoedd: canys y mae yn edifar gennyf eu gwneuthur hwynt. Ond Noa a gafodd ffafr yng ngolwg yr ARGLWYDD. Dyma genedlaethau Noa: Noa oedd ŵr cyfiawn, perffaith yn ei oes: gyda DUW y rhodiodd Noa. A Noa a genhedlodd dri o feibion, Sem, Cham, a Jaffeth. A’r ddaear a lygrasid gerbron DUW; llanwasid y ddaear hefyd â thrawsedd. A DUW a edrychodd ar y ddaear, ac wele hi a lygrasid; canys pob cnawd a lygrasai ei ffordd ar y ddaear. A DUW a ddywedodd wrth Noa, Diwedd pob cnawd a ddaeth ger fy mron: oblegid llanwyd y ddaear â thrawsedd trwyddynt hwy: ac wele myfi a’u difethaf hwynt gyda’r ddaear. Gwna i ti arch o goed Goffer; yn gellau y gwnei yr arch, a phyga hi oddi mewn ac oddi allan â phyg. Ac fel hyn y gwnei di hi: tri chan cufydd fydd hyd yr arch, deg cufydd a deugain ei lled, a deg cufydd ar hugain ei huchder. Gwna ffenestr i’r arch, a gorffen hi yn gufydd oddi arnodd; a gosod ddrws yr arch yn ei hystlys: o dri uchder y gwnei di hi. Ac wele myfi, ie myfi, yn dwyn dyfroedd dilyw ar y ddaear, i ddifetha pob cnawd, yr hwn y mae anadl einioes ynddo, oddi tan y nefoedd: yr hyn oll sydd ar y ddaear a drenga. Ond â thi y cadarnhaf fy nghyfamod; ac i’r arch yr ei di, tydi a’th feibion, a’th wraig, a gwragedd dy feibion gyda thi. Ac o bob peth byw, o bob cnawd, y dygi ddau o bob rhyw i’r arch i’w cadw yn fyw gyda thi; gwryw a benyw fyddant. O’r ehediaid wrth eu rhywogaeth, ac o’r anifeiliaid wrth eu rhywogaeth, o bob ymlusgiad y ddaear wrth eu rhywogaeth; dau o bob rhywogaeth a ddaw atat i’w cadw yn fyw. A chymer i ti o bob bwyd a fwyteir, a chasgl atat; a bydd yn ymborth i ti ac iddynt hwythau. Felly y gwnaeth Noa, yn ôl yr hyn oll a orchmynasai DUW iddo, felly y gwnaeth efe.