Genesis 49:1-33
Genesis 49:1-33 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Galwodd Jacob ei feibion ato. “Dewch yma i mi gael dweud wrthoch chi beth sy’n mynd i ddigwydd i chi yn y dyfodol,” meddai. “Dewch yma i wrando, feibion Jacob; gwrandwch ar Israel, eich tad. Reuben, ti ydy fy mab hynaf; fy nghryfder, a ffrwyth cyntaf fy egni – yr un â’r safle uchaf a’r anrhydedd mwyaf. Ond rwyt ti mor afreolus â dŵr – fyddi di ddim yn gyntaf. Est ti i mewn i wely dy dad, a’i lygru drwy dreisio fy ngwraig – gorwedd ar glustogau dy dad! Mae Simeon a Lefi yn frodyr. Dyma nhw’n cytuno i ddefnyddio arfau treisiol. Dw i ddim eisiau bod yn rhan o’r peth – dw i am gadw draw o’r math yna o feddwl. Roedden nhw wedi gwylltio, a dyma nhw’n lladd dynion fel rhai’n gwneud ych yn gloff am hwyl. Melltith arnyn nhw am wylltio mor ofnadwy; am ddigio a bod mor greulon. Dw i’n mynd i wasgaru eu disgynyddion nhw ar hyd a lled Israel! Jwda, bydd dy frodyr yn dy ganmol di. Byddi di’n cael y llaw uchaf ar dy elynion. Bydd teulu dy dad yn ymgrymu’n isel o dy flaen di. Jwda, fy mab, rwyt ti fel llew ifanc wedi lladd dy brae ac yn sefyll uwch ei ben. Mae’n gorwedd i lawr eto fel llew, a does neb yn meiddio aflonyddu arno. Fydd y deyrnwialen ddim yn gadael Jwda. Bydd ffon y llywodraethwr gan ei ddisgynyddion nes daw pobl i dalu teyrnged iddo. Bydd pobl y gwledydd yn ufuddhau iddo. Bydd yn rhwymo ei ebol wrth y winwydden, a’i asen ifanc wrth y winwydden orau. Bydd yn golchi ei ddillad mewn gwin a’i glogyn yng ngwaed y grawnwin. Bydd ei lygaid yn gochion gan win, a’i ddannedd yn wynion fel llaeth. Bydd Sabulon yn byw ar lan y môr. Bydd yn hafan ddiogel i longau. Bydd ei ffin yn ymestyn at Sidon. Mae Issachar fel asyn cryf yn gorwedd dan bwysau ei baciau. Gwelodd le da i orffwys a bod y wlad yno yn hyfryd. Felly plygodd i lawr i dderbyn baich ar ei gefn a chael ei hun yn gaethwas. Bydd Dan yn rheoli ei bobl fel un o lwythau Israel. Boed i Dan fod fel neidr ar ochr y ffordd – fel gwiber ar y llwybr yn brathu troed y ceffyl a gwneud i’r marchog syrthio yn ôl. Dw i’n edrych ymlaen at gael fy achub gen ti, o ARGLWYDD! Bydd ysbeilwyr yn ymosod ar Gad, ond bydd e’n troi ac yn eu gyrru nhw i ffwrdd. Bydd bwyd cyfoethog gan Asher. Bydd e’n darparu danteithion i’r llys brenhinol. Mae Nafftali fel ewig, yn rhedeg yn rhydd, sy’n cael llydnod hardd. Mae Joseff yn goeden ffrwythlon – coeden ffrwythlon wrth ffynnon, a’i changhennau’n ymestyn dros y wal. Roedd bwasaethwyr yn ymosod arno, yn saethu ato ac yn dal dig yn ei erbyn. Ond daliai ei fwa’n llonydd ac roedd ei ddwylo a’i freichiau’n chwim. Roedd Un Cryf Jacob gydag e – y Bugail, Craig Israel. Duw dy dad, yr un fydd yn dy helpu di; y Duw sy’n rheoli popeth. Bydd e’n dy fendithio di gyda’r bendithion o’r awyr uchod, a’r bendithion sy’n gorwedd dan y ddaear isod, gyda bendithion y fron a’r groth. Mae’r bendithion gafodd dy dad yn well na bendithion y mynyddoedd tragwyddol a’r pethau da mae’r bryniau hynafol yn eu rhoi. Byddan nhw’n disgyn ar ben Joseff – ar dalcen yr un sy’n flaenaf ar ei frodyr. Mae Benjamin fel blaidd rheibus, yn rhwygo’i ysglyfaeth yn y bore, ac yn rhannu beth sydd ar ôl gyda’r nos.” Dyma’r deuddeg llwyth yn Israel. A dyma beth ddwedodd eu tad wrthyn nhw pan fendithiodd nhw. Rhoddodd fendith addas i bob un ohonyn nhw. Wedyn rhoddodd Jacob orchymyn iddyn nhw. “Dw i’n mynd i farw cyn hir. Dw i eisiau i chi fy nghladdu gyda fy hynafiaid, yn yr ogof ar dir Effron yr Hethiad. Yr ogof yn Machpela ger Mamre yng ngwlad Canaan. Yr un brynodd Abraham gan Effron yr Hethiad fel man claddu i’w deulu. Dyna lle mae Abraham a’i wraig Sara wedi’u claddu. Dyna lle mae Isaac a’i wraig Rebeca wedi’u claddu. A dyna lle gwnes i gladdu Lea. Cafodd y darn tir a’r ogof sydd arno ei brynu gan yr Hethiaid.” Pan oedd Jacob wedi gorffen dweud wrth ei feibion beth i’w wneud, cododd ei draed yn ôl ar y gwely, cymryd ei anadl olaf a marw.
Genesis 49:1-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yna galwodd Jacob ar ei feibion, ac meddai, “Dewch ynghyd, imi ddweud wrthych beth fydd eich hynt yn y dyddiau sydd i ddod. “Dewch yma a gwrandewch, feibion Jacob, gwrandewch ar Israel eich tad. “Reuben, ti yw fy nghyntafanedig, fy ngrym a blaenffrwyth fy nerth, yn rhagori mewn balchder, yn rhagori mewn gallu, yn aflonydd fel dŵr; ni ragori mwyach, oherwydd dringaist i wely dy dad, dringaist i'm gorweddfa a'i halogi. “Y mae Simeon a Lefi yn frodyr; arfau creulon yw eu ceibiau. Na fydded imi fynd i'w cyngor, na pherthyn i'w cwmni; oherwydd yn eu llid lladdasant wŷr, a thorri llinynnau gar yr ychen fel y mynnent. Melltigedig fyddo eu llid am ei fod mor arw, a'u dicter am ei fod mor greulon; rhannaf hwy yn Jacob a'u gwasgaru yn Israel. “Jwda, fe'th ganmolir gan dy frodyr; bydd dy law ar war dy elynion, a meibion dy dad yn ymgrymu iti. Jwda, cenau llew ydwyt, yn codi oddi ar yr ysglyfaeth, fy mab; yn plygu a chrymu fel llew, ac fel llewes; pwy a'i cyfyd? Ni fydd y deyrnwialen yn ymadael â Jwda, na ffon y deddfwr oddi rhwng ei draed, hyd oni ddaw i Seilo; iddo ef y bydd ufudd-dod y bobloedd. Bydd yn rhwymo'i ebol wrth y winwydden, a'r llwdn asyn wrth y winwydden bêr; bydd yn golchi ei wisg mewn gwin, a'i ddillad yng ngwaed grawnwin. Bydd ei lygaid yn dywyllach na gwin, a'i ddannedd yn wynnach na llaeth. “Bydd Sabulon yn byw ar lan y môr; bydd yn borthladd llongau, a bydd ei derfyn hyd Sidon. “Y mae Issachar yn asyn cryf, yn gorweddian rhwng y corlannau; pan fydd yn gweld lle da i orffwyso, ac mor hyfryd yw'r tir, fe blyga'i ysgwydd i'r baich, a dod yn gaethwas dan orfod. “Bydd Dan yn barnu ei bobl fel un o lwythau Israel. Bydd Dan yn sarff ar y ffordd, ac yn neidr ar y llwybr, yn brathu sodlau'r march nes i'r marchog syrthio yn wysg ei gefn. “Disgwyliaf am dy iachawdwriaeth, O ARGLWYDD! “Gad, daw ysbeilwyr i'w ymlid, ond bydd ef yn eu hymlid hwy. “Aser, bras fydd ei fwyd, ac fe rydd ddanteithion gweddus i frenin. “Y mae Nafftali yn dderwen ganghennog, yn lledu brigau teg. “Y mae Joseff yn gangen ffrwythlon, cangen ffrwythlon wrth ffynnon, a'i cheinciau'n dringo dros y mur. Bu'r saethwyr yn chwerw tuag ato, yn ei saethu yn llawn gelyniaeth; ond parhaodd ei fwa yn gadarn, cryfhawyd ei freichiau trwy ddwylo Un Cadarn Jacob, trwy enw'r Bugail, Craig Israel; trwy Dduw dy dad, sydd yn dy nerthu, trwy Dduw Hollalluog, sydd yn dy fendithio â bendithion y nefoedd uchod, bendithion y dyfnder sy'n gorwedd isod, bendithion y bronnau a'r groth. Rhagorodd bendithion dy dad ar fendithion y mynyddoedd tragwyddol, ac ar haelioni'r bryniau oesol; byddant hwy ar ben Joseff, ac ar dalcen yr un a neilltuwyd ymysg ei frodyr. “Y mae Benjamin yn flaidd yn llarpio, yn bwyta ysglyfaeth yn y bore, ac yn rhannu'r ysbail yn yr hwyr.” Dyna ddeuddeg llwyth Israel, a dyna'r hyn a ddywedodd eu tad wrthynt wrth eu bendithio, a rhoi i bob un ei fendith. Yna rhoes Jacob orchymyn iddynt a dweud, “Cesglir fi at fy mhobl. Claddwch fi gyda'm hynafiaid yn yr ogof sydd ym maes Effron yr Hethiad, yr ogof sydd ym maes Machpela, i'r dwyrain o Mamre, yng ngwlad Canaan. Prynodd Abraham hi gyda'r maes gan Effron yr Hethiad i gael hawl bedd. Yno y claddwyd Abraham a'i wraig Sara; yno y claddwyd Isaac a'i wraig Rebeca, ac yno y cleddais i Lea. Cafwyd hawl ar y maes a'r ogof sydd ynddo gan yr Hethiaid.” Wedi i Jacob orffen rhoi ei orchymyn i'w feibion, tynnodd ei draed ato i'r gwely, bu farw, a chasglwyd ef at ei bobl.
Genesis 49:1-33 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yna y galwodd Jacob ar ei feibion, ac a ddywedodd, Ymgesglwch, fel y mynegwyf i chwi yr hyn a ddigwydda i chwi yn y dyddiau diwethaf. Ymgesglwch, a chlywch, meibion Jacob; ie, gwrandewch ar Israel eich tad. Reuben fy nghynfab, tydi oedd fy ngrym, a dechreuad fy nerth, rhagoriaeth braint, a rhagoriaeth cryfder. Ansafadwy oeddit fel dwfr: ni ragori di; canys dringaist wely dy dad: yna yr halogaist ef: fy ngwely a ddringodd. Simeon a Lefi sydd frodyr; offer creulondeb sydd yn eu hanheddau. Na ddeled fy enaid i’w cyfrinach hwynt: fy ngogoniant, na fydd un â’u cynulleidfa hwynt: canys yn eu dig y lladdasant ŵr, ac o’u gwirfodd y diwreiddiasant gaer. Melltigedig fyddo eu dig, canys tost oedd; a’u llid, canys creulon fu: rhannaf hwynt yn Jacob, a gwasgaraf hwynt yn Israel. Tithau, Jwda, dy frodyr a’th glodforant di: dy law fydd yng ngwar dy elynion; meibion dy dad a ymgrymant i ti. Cenau llew wyt ti, Jwda; o’r ysglyfaeth y daethost i fyny, fy mab: ymgrymodd, gorweddodd fel llew, ac fel hen lew: pwy a’i cyfyd ef? Nid ymedy’r deyrnwialen o Jwda, na deddfwr oddi rhwng ei draed ef, hyd oni ddêl Seilo; ac ato ef y bydd cynulliad pobloedd. Yn rhwymo ei ebol wrth y winwydden, a llwdn ei asyn wrth y bêr winwydden: golchodd ei wisg mewn gwin, a’i ddillad yng ngwaed y grawnwin. Coch fydd ei lygaid gan win, a gwyn fydd ei ddannedd gan laeth. Sabulon a breswylia ym mhorth-leoedd y môr; ac efe a fydd yn borthladd llongau, a’i derfyn fydd hyd Sidon. Issachar sydd asyn asgyrnog, yn gorwedd rhwng dau bwn. Ac a wêl lonyddwch mai da yw, a’r tir mai hyfryd: efe a ogwydda ei ysgwydd i ddwyn, ac a fydd yn gaeth dan deyrnged. Dan a farn ei bobl fel un o lwythau Israel. Dan fydd sarff ar y ffordd, a neidr ar y llwybr; yn brathu sodlau’r march, fel y syrthio ei farchog yn ôl. Am dy iachawdwriaeth di y disgwyliais, ARGLWYDD. Gad, llu a’i gorfydd; ac yntau a orfydd o’r diwedd. O Aser bras fydd ei fwyd ef, ac efe a rydd ddanteithion brenhinol. Nafftali fydd ewig wedi ei gollwng, yn rhoddi geiriau teg. Joseff fydd gangen ffrwythlon, cangen ffrwythlon wrth ffynnon, ceinciau yn cerdded ar hyd mur. A’r saethyddion fuant chwerw wrtho ef, ac a saethasant, ac a’i casasant ef. Er hynny arhodd ei fwa ef yn gryf, a breichiau ei ddwylo a gryfhasant, trwy ddwylo grymus DDUW Jacob: oddi yno y mae y bugail, maen Israel: Trwy DDUW dy dad, yr hwn a’th gynorthwya, a’r Hollalluog, yr hwn a’th fendithia â bendithion y nefoedd oddi uchod, â bendithion y dyfnder yn gorwedd isod, â bendithion y bronnau a’r groth. Rhagorodd bendithion dy dad ar fendithion fy rhieni, hyd derfyn bryniau tragwyddoldeb: byddant ar ben Joseff, ac ar gorun yr hwn a neilltuwyd oddi wrth ei frodyr. Benjamin a ysglyfaetha fel blaidd: y bore y bwyty’r ysglyfaeth, a’r hwyr y rhan yr ysbail. Dyma ddeuddeg llwyth Israel oll; a dyma’r hyn a lefarodd eu tad wrthynt, ac y bendithiodd efe hwynt: pob un yn ôl ei fendith y bendithiodd efe hwynt. Yna y gorchmynnodd efe iddynt, ac a ddywedodd wrthynt, Myfi a gesglir at fy mhobl: cleddwch fi gyda’m tadau, yn yr ogof sydd ym maes Effron yr Hethiad; Yn yr ogof sydd ym maes Machpela, yr hon sydd o flaen Mamre, yng ngwlad Canaan, yr hon a brynodd Abraham gyda’r maes gan Effron yr Hethiad, yn feddiant beddrod. Yno y claddasant Abraham a Sara ei wraig; yno y claddasant Isaac a Rebeca ei wraig; ac yno y cleddais i Lea. Meddiant y maes, a’r ogof sydd ynddo, a gaed gan feibion Heth. Pan orffennodd Jacob orchymyn i’w feibion, efe a dynnodd ei draed i’r gwely, ac a fu farw; a chasglwyd ef at ei bobl.