Genesis 45:21-23
Genesis 45:21-23 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Felly dyna wnaeth meibion Jacob. Rhoddodd Joseff wagenni iddyn nhw fel roedd y Pharo wedi gorchymyn, a bwyd ar gyfer y daith. Rhoddodd set o ddillad newydd i bob un ohonyn nhw. Ond cafodd Benjamin bump set o ddillad a 300 darn o arian. Anfonodd y rhain i’w dad hefyd: deg asyn wedi’u llwytho gyda chynnyrch gorau yr Aifft, deg o asennod wedi’u llwytho gyda ŷd, bara, a bwyd ar gyfer taith ei dad yn ôl.
Genesis 45:21-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Gwnaeth meibion Israel felly; rhoddodd Joseff wageni iddynt, ar orchymyn Pharo, a bwyd at y daith. Rhoddodd wisg newydd hefyd i bob un ohonynt, ond i Benjamin rhoddodd dri chant o ddarnau arian a phum gwisg newydd. Dyma a anfonodd i'w dad: deg asyn yn llwythog o bethau gorau'r Aifft, a deg o asennod yn cario ŷd a bara, a bwyd i'w dad at y daith.
Genesis 45:21-23 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A meibion Israel a wnaethant felly: a rhoddodd Joseff iddynt hwy gerbydau, yn ôl gorchymyn Pharo, a rhoddodd iddynt fwyd ar hyd y ffordd. I bob un ohonynt oll y rhoddes bâr o ddillad: ond i Benjamin y rhoddes dri chant o ddarnau arian, a phum pâr o ddillad. Hefyd i’w dad yr anfonodd fel hyn; deg o asynnod yn llwythog o dda yr Aifft, a deg o asennod yn dwyn ŷd, bara, a bwyd i’w dad ar hyd y ffordd.