Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Genesis 43:3 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Genesis 43:3 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Ond dyma Jwda’n dweud wrtho, “Roedd y dyn wedi’n rhybuddio ni, ‘Gewch chi ddim dod i’m gweld i oni bai fod eich brawd gyda chi.’

Genesis 43:3 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Ond atebodd Jwda, “Rhybuddiodd y dyn ni'n ddifrifol gan ddweud, ‘Ni chewch weld fy wyneb os na fydd eich brawd gyda chwi.’

Genesis 43:3 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

A Jwda a atebodd, gan ddywedyd, Gan rybuddio y rhybuddiodd y gŵr nyni, gan ddywedyd, Nac edrychwch yn fy wyneb, oni bydd eich brawd gyda chwi.