Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Genesis 41:33-46

Genesis 41:33-46 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Felly dylai’r Pharo ddewis dyn galluog a doeth i reoli gwlad yr Aifft. Dylai benodi swyddogion ar hyd a lled y wlad, i gasglu un rhan o bump o gynnyrch y tir yn ystod y saith mlynedd o ddigonedd. Dylen nhw gasglu’r cnydau yma o’r blynyddoedd da. A dylai’r Pharo roi awdurdod iddyn nhw storio’r grawn fel bod bwyd i’w gael yn y dinasoedd. A bydd rhaid cael milwyr i’w warchod. Dylai’r bwyd yma fod wrth gefn ar gyfer y saith mlynedd o newyn sy’n mynd i daro gwlad yr Aifft. Wedyn fydd y newyn ddim yn rhoi diwedd llwyr ar y wlad.” Roedd y cyngor roddodd Joseff yn gwneud sens i’r Pharo a’i swyddogion. A dwedodd y Pharo wrth ei swyddogion, “Ydyn ni’n mynd i ddod o hyd i unrhyw un tebyg i’r dyn yma? Mae Ysbryd Duw ynddo.” Felly dyma’r Pharo yn dweud wrth Joseff, “Gan fod Duw wedi dangos hyn i gyd i ti, mae’n amlwg fod yna neb sy’n fwy galluog a doeth na ti. Dw i’n rhoi’r gwaith o reoli’r cwbl i ti. Bydd rhaid i’m pobl i gyd wneud fel rwyt ti’n dweud. Dim ond y ffaith mai fi ydy’r brenin fydd yn fy ngwneud i’n bwysicach na ti.” Yna dyma’r Pharo’n dweud wrth Joseff, “Dw i’n dy osod di yn bennaeth ar wlad yr Aifft i gyd.” Tynnodd ei sêl-fodrwy oddi ar ei fys a’i rhoi hi ar fys Joseff. Wedyn dyma fe’n arwisgo Joseff â gŵn o liain main drud a rhoi cadwyn aur am ei wddf. Gwnaeth iddo deithio yn ei ail gerbyd, gyda rhai yn gweiddi o’i flaen, “I lawr ar eich gliniau!” Felly dyma’r Pharo yn ei wneud yn bennaeth ar wlad yr Aifft i gyd. Dwedodd y Pharo wrth Joseff, “Fi ydy’r Pharo. Ond fydd neb yng ngwlad yr Aifft yn cael symud bys bach heb dy ganiatâd di.” Rhoddodd y Pharo yr enw Saffnat-paneach i Joseff, a rhoi Asnath, merch Potiffera, offeiriad Heliopolis yn wraig iddo. A dyma Joseff yn mynd allan i reoli gwlad yr Aifft. Tri deg oed oedd Joseff pan ddechreuodd weithio i’r Pharo, brenin yr Aifft. Aeth allan oddi wrth y Pharo, a theithio drwy wlad yr Aifft i gyd.

Genesis 41:33-46 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Yn awr, dylai Pharo edrych am ŵr deallus a doeth i'w osod ar wlad yr Aifft. Dyma a ddylai Pharo ei wneud: gosod arolygwyr dros y wlad, i gymryd y bumed ran o gnwd gwlad yr Aifft dros y saith mlynedd o lawnder. Dylent gasglu holl fwyd y blynyddoedd da sydd ar ddod, a thrwy awdurdod Pharo, dylent gasglu ŷd yn ymborth i'w gadw yn y dinasoedd, fel y bydd y bwyd ynghadw i'r wlad dros y saith mlynedd o newyn sydd i fod yng ngwlad yr Aifft, rhag i'r wlad gael ei difetha gan y newyn.” Bu'r cyngor yn dderbyniol gan Pharo a'i holl weision. A dywedodd Pharo wrth ei weision, “A fedrwn ni gael gŵr arall fel hwn ag ysbryd Duw ynddo?” Felly dywedodd Pharo wrth Joseff, “Am i Dduw roi gwybod hyn oll i ti, nid oes neb mor ddeallus a doeth â thi; ti fydd dros fy nhŷ, a bydd fy holl bobl yn ufudd i ti; yr orsedd yn unig a'm gwna i yn fwy na thi.” Yna dywedodd Pharo wrth Joseff, “Dyma fi wedi dy osod di'n ben ar holl wlad yr Aifft,” a thynnodd ei fodrwy oddi ar ei law a'i gosod ar law Joseff, a gwisgo amdano ddillad o liain main, a rhoi cadwyn aur am ei wddf. Parodd iddo deithio yn ei ail gerbyd, gyda rhai i weiddi o'i flaen, “Plygwch lin.” Felly gosododd Pharo ef dros holl wlad yr Aifft. A dywedodd Pharo wrth Joseff, “Myfi yw Pharo, ond heb dy ganiatâd di nid yw neb i godi na llaw na throed trwy holl wlad yr Aifft.” Enwodd Pharo ef Saffnath-panea, a rhoddodd yn wraig iddo Asnath, merch Potiffera offeiriad On. Yna aeth Joseff allan yn bennaeth dros wlad yr Aifft. Deng mlwydd ar hugain oedd oed Joseff pan safodd gerbron Pharo brenin yr Aifft. Aeth allan o ŵydd Pharo, a thramwyodd trwy holl wlad yr Aifft.

Genesis 41:33-46 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Yn awr, gan hynny, edryched Pharo am ŵr deallgar a doeth, a gosoded ef ar wlad yr Aifft. Gwnaed Pharo hyn, a gosoded olygwyr ar y wlad, a chymered bumed ran cnwd gwlad yr Aifft dros saith mlynedd yr amldra. A chasglant holl ymborth y blynyddoedd daionus sydd ar ddyfod, a chasglant ŷd dan law Pharo, a chadwant ymborth yn y dinasoedd. A bydded yr ymborth yng nghadw i’r wlad dros y saith mlynedd newyn, y rhai fyddant yng ngwlad yr Aifft, fel na ddifether y wlad gan y newyn. A’r peth oedd dda yng ngolwg Pharo, ac yng ngolwg ei holl weision. A dywedodd Pharo wrth ei weision, A gaem ni ŵr fel hwn, yr hwn y mae ysbryd DUW ynddo? Dywedodd Pharo hefyd wrth Joseff, Gan wneuthur o DDUW i ti wybod hyn oll, nid mor ddeallgar a doeth neb â thydi. Tydi a fyddi ar fy nhŷ, ac wrth dy air di y llywodraethir fy mhobl oll: yn y deyrngadair yn unig y byddaf fwy na thydi. Yna y dywedodd Pharo wrth Joseff, Edrych, gosodais di ar holl wlad yr Aifft. A thynnodd Pharo ei fodrwy oddi ar ei law, ac a’i rhoddes hi ar law Joseff, ac a’i gwisgodd ef mewn gwisgoedd sidan, ac a osododd gadwyn aur am ei wddf ef; Ac a wnaeth iddo farchogaeth yn yr ail gerbyd oedd ganddo; a llefwyd o’i flaen ef, Abrec: felly y gosodwyd ef ar holl wlad yr Aifft. Dywedodd Pharo hefyd wrth Joseff, Myfi yw Pharo, ac hebot ti ni chyfyd gŵr ei law na’i droed, trwy holl wlad yr Aifft. A Pharo a alwodd enw Joseff, Saffnath-panea; ac a roddes iddo Asnath, merch Potiffera offeiriad On, yn wraig: yna yr aeth Joseff allan dros wlad yr Aifft. A Joseff ydoedd fab deng mlwydd ar hugain pan safodd efe gerbron Pharo brenin yr Aifft: a Joseff a aeth allan o ŵydd Pharo, ac a dramwyodd trwy holl wlad yr Aifft.