Genesis 4:4-8 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion
Genesis 4:4-8 BNET (beibl.net 2015, 2024)
Daeth Abel â rhai o ŵyn cyntaf y praidd, a rhoi’r rhai gorau yn offrwm i Dduw. Roedd Abel a’i offrwm yn plesio’r ARGLWYDD, ond wnaeth e ddim cymryd sylw o Cain a’i offrwm e. Roedd Cain wedi gwylltio’n lân. Roedd i’w weld ar ei wyneb! Dyma’r ARGLWYDD yn gofyn i Cain, “Ydy’n iawn i ti wylltio fel yma? Pam wyt ti mor ddig? Os gwnei di beth sy’n iawn bydd pethau’n gwella. Ond os na wnei di beth sy’n iawn, mae pechod fel anifail yn llechu wrth y drws. Mae am dy gael di, ond rhaid i ti ei reoli.” Dwedodd Cain wrth ei frawd, “Gad i ni fynd allan i gefn gwlad.” Yna pan oedden nhw allan yng nghefn gwlad dyma Cain yn ymosod ar ei frawd Abel a’i ladd.
Genesis 4:4-8 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a daeth Abel yntau â blaenffrwyth ei ddefaid, sef eu braster. Edrychodd yr ARGLWYDD yn ffafriol ar Abel a'i offrwm, ond nid felly ar Cain a'i offrwm. Digiodd Cain yn ddirfawr, a bu'n wynepdrist. Ac meddai'r ARGLWYDD wrth Cain, “Pam yr wyt wedi digio? Pam yr wyt yn wynepdrist? Os gwnei yn dda, oni fyddi'n gymeradwy? Ac oni wnei yn dda, y mae pechod yn llercian wrth y drws; y mae ei wanc amdanat, ond rhaid i ti ei drechu.” A dywedodd Cain wrth Abel ei frawd, “Gad inni fynd i'r maes.” A phan oeddent yn y maes, troes Cain ar Abel ei frawd, a'i ladd.
Genesis 4:4-8 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac Abel yntau a ddug o flaenffrwyth ei ddefaid, ac o’u braster hwynt. A’r ARGLWYDD a edrychodd ar Abel, ac ar ei offrwm: Ond nid edrychodd efe ar Cain, nac ar ei offrwm ef. A dicllonodd Cain yn ddirfawr, fel y syrthiodd ei wynepryd ef. A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Cain, Paham y llidiaist? a phaham y syrthiodd dy wynepryd? Os da y gwnei, oni chei oruchafiaeth? ac oni wnei yn dda, pechod a orwedd wrth y drws: atat ti hefyd y mae ei ddymuniad ef, a thi a lywodraethi arno ef. A Chain a ddywedodd wrth Abel ei frawd: ac fel yr oeddynt hwy yn y maes, Cain a gododd yn erbyn Abel ei frawd, ac a’i lladdodd ef.