Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Genesis 4:3-5 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Genesis 4:3-5 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Adeg y cynhaeaf daeth Cain â pheth o gynnyrch y tir i’w roi yn offrwm i’r ARGLWYDD. Daeth Abel â rhai o ŵyn cyntaf y praidd, a rhoi’r rhai gorau yn offrwm i Dduw. Roedd Abel a’i offrwm yn plesio’r ARGLWYDD, ond wnaeth e ddim cymryd sylw o Cain a’i offrwm e. Roedd Cain wedi gwylltio’n lân. Roedd i’w weld ar ei wyneb!

Genesis 4:3-5 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Ymhen amser daeth Cain ag offrwm o gynnyrch y tir i'r ARGLWYDD, a daeth Abel yntau â blaenffrwyth ei ddefaid, sef eu braster. Edrychodd yr ARGLWYDD yn ffafriol ar Abel a'i offrwm, ond nid felly ar Cain a'i offrwm. Digiodd Cain yn ddirfawr, a bu'n wynepdrist.

Genesis 4:3-5 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

A bu, wedi talm o ddyddiau, i Cain ddwyn o ffrwyth y ddaear offrwm i’r ARGLWYDD. Ac Abel yntau a ddug o flaenffrwyth ei ddefaid, ac o’u braster hwynt. A’r ARGLWYDD a edrychodd ar Abel, ac ar ei offrwm: Ond nid edrychodd efe ar Cain, nac ar ei offrwm ef. A dicllonodd Cain yn ddirfawr, fel y syrthiodd ei wynepryd ef.