Genesis 37:6-7
Genesis 37:6-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dywedodd wrthynt, “Gwrandewch, dyma'r freuddwyd a gefais: yr oeddem yn rhwymo ysgubau yn y maes, a dyma f'ysgub i yn codi ar ei sefyll, a daeth eich ysgubau chwi yn gylch o'i chwmpas ac ymgrymu i'm hysgub i.”
Genesis 37:6-7 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
“Gwrandwch ar y freuddwyd yma ges i,” meddai wrthyn nhw. “Roedden ni i gyd wrthi’n rhwymo ysgubau mewn cae. Yn sydyn dyma fy ysgub i yn codi a sefyll yn syth. A dyma’ch ysgubau chi yn casglu o’i chwmpas ac yn ymgrymu iddi!”
Genesis 37:6-7 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Gwrandewch, atolwg, y breuddwyd hwn a freuddwydiais i. Ac wele, rhwymo ysgubau yr oeddem ni yng nghanol y maes; ac wele, fy ysgub i a gyfododd, ac a safodd hefyd; ac wele, eich ysgubau chwi a safasant o amgylch, ac a ymgrymasant i’m hysgub i.