Genesis 37:18-24
Genesis 37:18-24 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Roedden nhw wedi’i weld yn dod o bell, a chyn iddo gyrraedd dyma nhw’n cynllwynio i’w ladd. “Edrychwch, mae’r breuddwydiwr mawr yn dod!” medden nhw. “Gadewch i ni ei ladd. Gallwn ei daflu i bydew, a dweud fod anifail gwyllt wedi’i ladd. Cawn weld beth ddaw o’i freuddwydion wedyn!” Dyma Reuben yn digwydd clywed beth ddwedon nhw, a llwyddodd i achub bywyd Joseff. “Na, gadewch i ni beidio â’i ladd,” meddai wrthyn nhw. “Peidiwch tywallt gwaed. Taflwch e i mewn i’r pydew yma yn yr anialwch, ond peidiwch gwneud niwed iddo.” (Bwriad Reuben oedd achub Joseff, a mynd ag e yn ôl at ei dad.) Felly pan ddaeth Joseff at ei frodyr, dyma nhw’n tynnu ei gôt oddi arno (y gôt sbesial roedd e’n ei gwisgo). Wedyn dyma nhw’n ei daflu i mewn i’r pydew. (Roedd y pydew yn wag – doedd dim dŵr ynddo.)
Genesis 37:18-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Gwelsant ef o bell, a chyn iddo gyrraedd atynt gwnaethant gynllwyn i'w ladd, a dweud wrth ei gilydd, “Dacw'r breuddwydiwr hwnnw'n dod. Dewch, gadewch inni ei ladd a'i daflu i ryw bydew, a dweud fod anifail gwyllt wedi ei ddifa; yna cawn weld beth a ddaw o'i freuddwydion.” Ond pan glywodd Reuben, achubodd ef o'u gafael a dweud, “Peidiwn â'i ladd.” Dywedodd Reuben wrthynt, “Peidiwch â thywallt gwaed; taflwch ef i'r pydew hwn sydd yn y diffeithwch, ond peidiwch â gwneud niwed iddo.” Dywedodd hyn er mwyn ei achub o'u gafael a'i ddwyn yn ôl at ei dad. A phan ddaeth Joseff at ei frodyr, tynasant ei wisg oddi arno, y wisg laes yr oedd yn ei gwisgo, a'i gymryd a'i daflu i'r pydew. Yr oedd y pydew yn wag, heb ddŵr ynddo.
Genesis 37:18-24 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Hwythau a’i canfuant ef o bell; a chyn ei ddynesu ef atynt, hwy a gyd-fwriadasant yn ei erbyn ef, i’w ladd ef. A dywedasant wrth ei gilydd, Wele y breuddwydiwr yn dyfod. Deuwch gan hynny yn awr, a lladdwn ef, a thaflwn ef yn un o’r pydewau; a dywedwn, Bwystfil drwg a’i bwytaodd ef: yna y cawn weled beth a ddaw o’i freuddwydion ef. A Reuben a glybu, ac a’i hachubodd ef o’u llaw hwynt; ac a ddywedodd, Na laddwn ef. Reuben a ddywedodd hefyd wrthynt, Na thywelltwch waed; bwriwch ef i’r pydew hwn sydd yn yr anialwch, ac nac estynnwch law arno: fel yr achubai ef o’u llaw hwynt, i’w ddwyn eilwaith at ei dad. A bu, pan ddaeth Joseff at ei frodyr, iddynt ddiosg ei siaced oddi am Joseff, sef y siaced fraith ydoedd amdano ef. A chymerasant ef, a thaflasant i bydew: a’r pydew oedd wag heb ddwfr ynddo.