Genesis 31:7-8,13
Genesis 31:7-8 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ond mae’ch tad wedi gwneud ffŵl ohono i, a newid fy nghyflog dro ar ôl tro. Ond wnaeth Duw ddim gadael iddo wneud niwed i mi. Pan oedd yn dweud, ‘Y brychion fydd dy gyflog di,’ roedd yr anifeiliaid i gyd yn cael rhai bach oedd yn frych. Os oedd yn dweud, ‘Y brithion fydd dy gyflog di,’ roedd yr anifeiliaid yn cael rhai bach oedd yn frith.
Genesis 31:13 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Fi ydy Duw Bethel, lle wnest ti dywallt olew ar y golofn a gwneud addewid i mi. Nawr dos! Dw i eisiau i ti adael y wlad yma a mynd yn ôl i’r wlad ble cest ti dy eni.’”
Genesis 31:7-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
ond twyllodd eich tad fi, a newid fy nghyflog ddengwaith; eto ni adawodd Duw iddo fy niweidio. Pan ddywedai ef, ‘Y brithion fydd dy gyflog’, yna yr oedd yr holl braidd yn epilio ar frithion; a phan ddywedai ef, ‘Y broc fydd dy gyflog’, yna yr oedd yr holl braidd yn epilio ar rai broc.
Genesis 31:13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Myfi yw Duw Bethel, lle'r eneiniaist golofn a gwneud adduned i mi. Yn awr cod, dos o'r wlad hon a dychwel i wlad dy enedigaeth.’ ”
Genesis 31:7-8 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A’ch tad a’m twyllodd i, ac a newidiodd fy nghyflog i ddengwaith: ond ni ddioddefodd DUW iddo wneuthur i mi ddrwg. Os fel hyn y dywedai; Y mân-frithion a fydd dy gyflog di, yna yr holl braidd a epilient fân-frithion: ond os fel hyn y dywedai; Y cylch-frithion a fydd dy gyflog di, yna yr holl braidd a epilient rai cylch-frithion.