Genesis 3:13-15
Genesis 3:13-15 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yna gofynnodd yr ARGLWYDD Dduw i’r wraig, “Be ti’n feddwl ti’n wneud?” A dyma’r wraig yn ateb, “Y neidr wnaeth fy nhwyllo i. Dyna pam wnes i ei fwyta.” Dyma’r ARGLWYDD Dduw yn dweud wrth y neidr: “Melltith arnat ti am wneud hyn! Ti fydd yr unig anifail dof neu wyllt sydd wedi dy felltithio. Byddi’n llusgo o gwmpas ar dy fol ac yn llyfu’r llwch drwy dy fywyd. Byddi di a’r wraig yn elynion. Bydd dy had di a’i had hi bob amser yn elynion. Bydd e’n sathru dy ben di, a byddi di’n taro ei sawdl e.”
Genesis 3:13-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yna dywedodd yr ARGLWYDD Dduw wrth y wraig, “Pam y gwnaethost hyn?” A dywedodd y wraig, “Y sarff a'm twyllodd, a bwyteais innau.” Yna dywedodd yr ARGLWYDD Dduw wrth y sarff: “Am iti wneud hyn, yr wyt yn fwy melltigedig na'r holl anifeiliaid, ac na'r holl fwystfilod gwyllt; byddi'n ymlusgo ar dy dor, ac yn bwyta llwch holl ddyddiau dy fywyd. Gosodaf elyniaeth hefyd rhyngot ti a'r wraig, a rhwng dy had di a'i had hithau; bydd ef yn ysigo dy ben di, a thithau'n ysigo'i sawdl ef.”
Genesis 3:13-15 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A’r ARGLWYDD DDUW a ddywedodd wrth y wraig, Paham y gwnaethost ti hyn? A’r wraig a ddywedodd, Y sarff a’m twyllodd, a bwyta a wneuthum. A’r ARGLWYDD DDUW a ddywedodd wrth y sarff, Am wneuthur ohonot hyn, melltigedicach wyt ti na’r holl anifeiliaid, ac na holl fwystfilod y maes: ar dy dor y cerddi, a phridd a fwytei holl ddyddiau dy einioes. Gelyniaeth hefyd a osodaf rhyngot ti a’r wraig, a rhwng dy had di a’i had hithau: efe a ysiga dy ben di, a thithau a ysigi ei sawdl ef.