Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Genesis 24:14 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Genesis 24:14 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Dw i am ofyn i un o’r merched ifanc, ‘Wnei di godi dŵr i mi gael yfed?’ Gad i’r un rwyt ti wedi’i dewis i fod yn wraig i dy was Isaac ddweud, ‘Gwnaf wrth gwrs! Gad i mi roi dŵr i dy gamelod di hefyd.’ Bydda i’n gwybod wedyn dy fod ti wedi cadw dy addewid i’m meistr.”

Genesis 24:14 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Y ferch y dywedaf wrthi, ‘Gostwng dy stên, er mwyn i mi gael yfed’, a hithau'n ateb, ‘Yf, ac mi rof ddiod i'th gamelod hefyd’, bydded mai honno fydd yr un a ddarperaist i'th was Isaac. Wrth hyn y caf wybod iti wneud caredigrwydd â'm meistr.”

Genesis 24:14 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

A bydded, mai y llances y dywedwyf wrthi, Gogwydda, atolwg, dy ystên, fel yr yfwyf; os dywed hi, Yf, a mi a ddiodaf dy gamelod di hefyd; honno a ddarperaist i’th was Isaac: ac wrth hyn y caf wybod wneuthur ohonot ti drugaredd â’m meistr.