Genesis 24:1-8
Genesis 24:1-8 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Roedd Abraham yn ddyn hen iawn. Roedd yr ARGLWYDD wedi’i fendithio ym mhob ffordd. Un diwrnod dyma Abraham yn dweud wrth ei brif was (sef yr un oedd yn gyfrifol am bopeth oedd ganddo), “Dw i am i ti fynd ar dy lw, ac addo i mi o flaen yr ARGLWYDD, Duw’r nefoedd a’r ddaear, na fyddi di’n cymryd un o ferched Canaan i fod yn wraig i’m mab i. Dw i eisiau i ti fynd i’m gwlad i, at fy mherthnasau, i chwilio am wraig i Isaac.” Meddai’r gwas, “Beth os bydd y ferch yn gwrthod dod yn ôl yma gyda mi? Ddylwn i wedyn fynd â dy fab di yn ôl i’r wlad honno?” “Na,” meddai Abraham, “gwna di’n siŵr na fyddi byth yn mynd a’m mab i yn ôl yno. Yr ARGLWYDD, Duw’r nefoedd, ydy’r un wnaeth i mi adael cartref fy nhad a’m teulu. Mae wedi dweud wrtho i, ac wedi addo i mi, ‘Dw i’n mynd i roi’r wlad yma i dy ddisgynyddion di.’ Bydd e’n anfon ei angel i ofalu amdanat ti, er mwyn i ti ffeindio gwraig i’m mab i yno. Os bydd y ferch yn gwrthod dod gyda ti, fydda i ddim yn dy ddal di’n gyfrifol i gadw dy lw. Ond paid byth â mynd â’m mab i yn ôl yno.”
Genesis 24:1-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yr oedd Abraham yn hen ac oedrannus, ac yr oedd yr ARGLWYDD wedi ei fendithio ef ym mhob dim. Yna dywedodd Abraham wrth y gwas hynaf yn ei dŷ, yr un oedd yn gofalu am ei holl eiddo, “Gosod dy law dan fy nghlun, a pharaf iti dyngu i'r ARGLWYDD, Duw'r nefoedd a'r ddaear, na chymeri wraig i'm mab o ferched y Canaaneaid yr wyf yn byw yn eu plith, ond yr ei i'm gwlad ac at fy nhylwyth, i gymryd gwraig i'm mab Isaac.” Dywedodd y gwas wrtho, “Efallai na fydd y wraig am ddod ar fy ôl i'r wlad hon; a fydd raid i mi fynd â'th fab yn ôl i'r wlad y daethost allan ohoni?” Dywedodd Abraham wrtho, “Gofala nad ei â'm mab yn ôl yno. Yr ARGLWYDD, Duw'r nefoedd, yr un a'm cymerodd o dŷ fy nhad ac o wlad fy ngeni, ac a lefarodd a thyngu wrthyf, a dweud, ‘Rhof y wlad hon i'th ddisgynyddion’, bydd ef yn anfon ei angel o'th flaen, ac fe gymeri wraig i'm mab oddi yno. Os na fydd y wraig am ddod ar dy ôl, yna byddi'n rhydd oddi wrth y llw hwn; ond paid â mynd â'm mab yn ôl yno.”
Genesis 24:1-8 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac Abraham oedd hen, wedi myned yn oedrannus; a’r ARGLWYDD a fendithiasai Abraham ym mhob dim. A dywedodd Abraham wrth ei was hynaf yn ei dŷ, yr hwn oedd yn llywodraethu ar yr hyn oll a’r a oedd ganddo, Gosod, atolwg, dy law dan fy morddwyd: A mi a baraf i ti dyngu i ARGLWYDD DDUW y nefoedd, a DUW y ddaear, na chymerech wraig i’m mab i o ferched y Canaaneaid, y rhai yr ydwyf yn trigo yn eu mysg: Ond i’m gwlad i yr ei, ac at fy nghenedl i yr ei di, ac a gymeri wraig i’m mab Isaac. A’r gwas a ddywedodd wrtho ef, Ond odid ni fyn y wraig ddyfod ar fy ôl i i’r wlad hon: gan ddychwelyd a ddychwelaf dy fab di i’r tir y daethost allan ohono? A dywedodd Abraham wrtho, Gwylia arnat rhag i ti ddychwelyd fy mab i yno. ARGLWYDD DDUW y nefoedd, yr hwn a’m cymerodd i o dŷ fy nhad, ac o wlad fy nghenedl, yr hwn hefyd a ymddiddanodd â mi, ac a dyngodd wrthyf, gan ddywedyd, I’th had di y rhoddaf y tir hwn; efe a enfyn ei angel o’th flaen di, a thi a gymeri wraig i’m mab oddi yno. Ac os y wraig ni fyn ddyfod ar dy ôl di, yna glân fyddi oddi wrth fy llw hwn: yn unig na ddychwel di fy mab i yno.