Genesis 21:14
Genesis 21:14 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma Abraham yn codi’n gynnar. Rhoddodd fwyd a photel groen o ddŵr i Hagar i’w gario ar ei chefn. Yna anfonodd hi i ffwrdd gyda’i mab. Aeth i grwydro o gwmpas anialwch Beersheba.
Rhanna
Darllen Genesis 21Genesis 21:14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yna cododd Abraham yn fore, a chymerodd fara a chostrel o ddŵr a'u rhoi i Hagar, a'u gosod hwy a'r bachgen ar ei hysgwydd, a'i hanfon ymaith. Aeth hithau i grwydro yn niffeithwch Beerseba.
Rhanna
Darllen Genesis 21Genesis 21:14 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yna y cododd Abraham yn fore, ac a gymerodd fara, a chostrel o ddwfr, ac a’i rhoddes at Agar, gan osod ar ei hysgwydd hi hynny, a’r bachgen hefyd, ac efe a’i gollyngodd hi ymaith: a hi a aeth, ac a grwydrodd yn anialwch Beer-seba.
Rhanna
Darllen Genesis 21