Genesis 1:9-10
Genesis 1:9-10 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dwedodd Duw, “Dw i eisiau i’r dŵr sydd dan yr awyr gasglu i un lle, er mwyn i ddaear sych ddod i’r golwg.” A dyna ddigwyddodd. Rhoddodd Duw yr enw ‘tir’ i’r ddaear, a ‘moroedd’ i’r dŵr. Roedd Duw yn gweld bod hyn yn dda.
Rhanna
Darllen Genesis 1Genesis 1:9-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yna dywedodd Duw, “Casgler ynghyd y dyfroedd dan y nefoedd i un lle, ac ymddangosed tir sych.” A bu felly. Galwodd Duw y tir sych yn ddaear, a chronfa'r dyfroedd yn foroedd. A gwelodd Duw fod hyn yn dda.
Rhanna
Darllen Genesis 1Genesis 1:9-10 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
DUW hefyd a ddywedodd, Casgler y dyfroedd oddi tan y nefoedd i’r un lle, ac ymddangosed y sychdir: ac felly y bu. A’r sychdir a alwodd DUW yn Ddaear, a chasgliad y dyfroedd a alwodd efe yn Foroedd: a DUW a welodd mai da oedd.
Rhanna
Darllen Genesis 1