Galatiaid 6:3-5
Galatiaid 6:3-5 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Os dych chi’n meddwl eich bod chi’n rhywun, dych chi’n twyllo’ch hunain – dych chi’n neb mewn gwirionedd. Dylai pawb yn syml wneud beth allan nhw. Wedyn cewch y boddhad o fod wedi’i wneud heb orfod cymharu’ch hunain â phobl eraill o hyd. Dŷn ni’n gyfrifol am beth dŷn ni’n hunain wedi’i wneud.
Galatiaid 6:3-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Oherwydd, os yw rhywun yn tybio ei fod yn rhywbeth, ac yntau yn ddim, ei dwyllo ei hun y mae. Y mae pob un i farnu ei waith ei hun, ac yna fe gaiff le i ymffrostio o'i ystyried ei hun yn unig, ac nid neb arall. Oherwydd bydd gan bob un ei bwn ei hun i'w gario.
Galatiaid 6:3-5 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Oblegid os tybia neb ei fod yn rhyw beth, ac yntau heb fod yn ddim, y mae efe yn ei dwyllo ei hun. Eithr profed pob un ei waith ei hun: ac yna y caiff orfoledd ynddo ei hun yn unig, ac nid mewn arall. Canys pob un a ddwg ei faich ei hun.