Galatiaid 5:19-21
Galatiaid 5:19-21 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae canlyniadau gwrando ar y natur bechadurus yn gwbl amlwg: anfoesoldeb rhywiol, meddyliau mochaidd a phenrhyddid llwyr; hefyd addoli eilun-dduwiau a dewiniaeth; a phethau fel casineb, ffraeo, cenfigen, gwylltio, uchelgais hunanol, rhaniadau, carfanau gwahanol, eiddigeddu, meddwi, partïon gwyllt, a phechodau tebyg. Dw i’n eich rhybuddio chi eto, fel dw i wedi gwneud o’r blaen, fydd pobl sy’n byw felly ddim yn cael perthyn i deyrnas Dduw.
Galatiaid 5:19-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Y mae gweithredoedd y cnawd yn amlwg, sef puteindra, amhurdeb, anlladrwydd, eilunaddoliaeth, dewiniaeth, cweryla, cynnen, eiddigedd, llidio, ymgiprys, rhwygo, ymbleidio, cenfigennu, meddwi, cyfeddach, a phethau tebyg. Yr wyf yn eich rhybuddio, fel y gwneuthum o'r blaen, na chaiff y rhai sy'n gwneud y fath bethau etifeddu teyrnas Dduw.
Galatiaid 5:19-21 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Hefyd amlwg yw gweithredoedd y cnawd; y rhai yw, torpriodas, godineb, aflendid, anlladrwydd, Delw-addoliaeth, swyn-gyfaredd, casineb, cynhennau, gwynfydau, llid, ymrysonau, ymbleidio, heresïau, Cenfigennau, llofruddiaeth, meddwdod, cyfeddach, a chyffelyb i’r rhai hyn: am y rhai yr wyf fi yn rhagddywedyd wrthych, megis ag y rhagddywedais, na chaiff y rhai sydd yn gwneuthur y cyfryw bethau etifeddu teyrnas Dduw.