Galatiaid 3:5-7
Galatiaid 3:5-7 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ydy Duw yn rhoi ei Ysbryd i chi, ac yn gwneud gwyrthiau yn eich plith chi, am eich bod chi’n cadw holl fanion y Gyfraith Iddewig? Wrth gwrs ddim! Ond am eich bod wedi credu! Meddyliwch am Abraham: “Credodd, a chafodd ei dderbyn i berthynas iawn gyda Duw.” Felly, y rhai sy’n credu sy’n blant go iawn i Abraham!
Galatiaid 3:5-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Beth, ynteu, am yr hwn sy'n cyfrannu ichwi yr Ysbryd ac yn gweithio gwyrthiau yn eich plith? Ai ar gyfrif cadw gofynion cyfraith, ynteu ar gyfrif gwrando mewn ffydd, y mae'n gwneud hyn oll? Y mae fel yn achos Abraham: “Credodd yn Nuw, ac fe'i cyfrifwyd iddo yn gyfiawnder.” Gwyddoch, gan hynny, am bobl ffydd, mai hwy yw plant Abraham.
Galatiaid 3:5-7 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yr hwn gan hynny sydd yn trefnu i chwi yr Ysbryd, ac yn gwneuthur gwyrthiau yn eich plith, ai o weithredoedd y ddeddf, neu o wrandawiad ffydd, y mae? Megis y credodd Abraham i Dduw, ac y cyfrifwyd iddo yn gyfiawnder. Gwybyddwch felly mai’r rhai sydd o ffydd, y rhai hynny yw plant Abraham.