Galatiaid 3:26-29
Galatiaid 3:26-29 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dych chi i gyd yn blant Duw drwy gredu yn y Meseia Iesu. Mae pob un ohonoch chi wedi uniaethu gyda’r Meseia drwy eich bedydd – mae’r un fath â’ch bod wedi gwisgo’r Meseia amdanoch. Sdim ots os ydych chi’n Iddew neu’n perthyn i genedl arall, yn gaethwas neu ddinesydd rhydd, gwryw a benyw – dych chi i gyd fel un teulu sy’n perthyn i’r Meseia Iesu. Os dych chi’n perthyn i’r Meseia, dych chi’n blant i Abraham, a byddwch yn derbyn yr holl bethau da mae Duw wedi’u haddo.
Galatiaid 3:26-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Oblegid yr ydych bawb, trwy ffydd, yn blant Duw yng Nghrist Iesu. Oherwydd y mae pob un ohonoch sydd wedi ei fedyddio i Grist wedi gwisgo Crist amdano. Nid oes rhagor rhwng Iddewon a Groegiaid, rhwng caeth a rhydd, rhwng gwryw a benyw, oherwydd un person ydych chwi oll yng Nghrist Iesu. Ac os ydych yn eiddo Crist, yna had Abraham ydych, etifeddion yn ôl yr addewid.
Galatiaid 3:26-29 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Canys chwi oll ydych blant i Dduw trwy ffydd yng Nghrist Iesu. Canys cynifer ohonoch ag a fedyddiwyd yng Nghrist, a wisgasoch Grist. Nid oes nac Iddew na Groegwr, nid oes na chaeth na rhydd, nid oes na gwryw na benyw: canys chwi oll un ydych yng Nghrist Iesu. Ac os eiddo Crist ydych, yna had Abraham ydych, ac etifeddion yn ôl yr addewid.