Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Galatiaid 2:9-10 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Galatiaid 2:9-10 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Dyma Iago, Pedr ac Ioan (y rhai sy’n cael eu cyfri fel ‘y pileri’, sef yr arweinwyr pwysica) yn derbyn Barnabas a fi fel partneriaid llawn. Roedden nhw’n gweld mai Duw oedd wedi rhoi’r gwaith yma i mi. Y cytundeb oedd ein bod ni’n mynd at bobl y cenhedloedd a nhw’n mynd at yr Iddewon. Yr unig beth oedden nhw’n pwyso arnon ni i’w wneud oedd i beidio anghofio’r tlodion, ac roedd hynny’n flaenoriaeth gen i beth bynnag!

Galatiaid 2:9-10 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

A dyma Iago a Ceffas ac Ioan, y gwŷr a gyfrifir yn golofnau, yn cydnabod y gras oedd wedi ei roi i mi, ac yn estyn i Barnabas a minnau ddeheulaw cymdeithas, ac yn cytuno ein bod ni i fynd at y Cenhedloedd a hwythau at yr Iddewon. Eu hunig gais oedd ein bod i gofio'r tlodion; a dyna'r union beth yr oeddwn wedi ymroi i'w wneud.

Galatiaid 2:9-10 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

A phan wybu Iago, a Cheffas, ac Ioan, y rhai a dybid eu bod yn golofnau, y gras a roddwyd i mi, hwy a roddasant i mi ac i Barnabas ddeau-ddwylo cymdeithas; fel yr elem ni at y Cenhedloedd, a hwythau at yr enwaediad. Yn unig ar fod i ni gofio’r tlodion; yr hyn hefyd y bûm i ddiwyd i’w wneuthur.