Galatiaid 1:6-10
Galatiaid 1:6-10 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dw i’n ei chael hi’n anodd credu eich bod chi’n troi cefn ar Dduw mor fuan! Troi cefn ar yr un sydd wedi’ch galw chi ato’i hun drwy haelioni’r Meseia – a derbyn rhyw syniadau eraill sy’n honni bod yn ‘newyddion da’. Ond does yna ddim newyddion da arall yn bod! Rhyw bobl sy’n eich drysu chi drwy ystumio’r newyddion da am y Meseia a’i wneud yn rhywbeth arall. Melltith Duw ar bwy bynnag sy’n cyhoeddi neges wahanol i’r un wnaethon ni ei rhannu gyda chi! Petaen ni’n hunain yn gwneud y fath beth, neu hyd yn oed angel o’r nefoedd, melltith Duw arno! Dw i wedi dweud o’r blaen a dw i’n dweud yr un peth eto: Os oes rhywun yn cyhoeddi neges wahanol i’r un wnaethoch chi ei chredu, melltith Duw arno! Felly, ydw i’n swnio nawr fel rhywun sydd eisiau cael ei ganmol gan bobl? Onid ceisio plesio Duw ydw i? Ydw i eisiau bod yn boblogaidd? Taswn i’n dal yn ceisio plesio pobl, fyddwn i ddim yn was i’r Meseia.
Galatiaid 1:6-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yr wyf yn synnu eich bod yn cefnu mor fuan ar yr hwn a'ch galwodd chwi trwy ras Crist, ac yn troi at efengyl wahanol. Nid ei bod yn efengyl arall mewn gwirionedd, ond bod rhywrai, yn eu hawydd i wyrdroi Efengyl Crist, yn aflonyddu arnoch. Ond petai rhywun, ni ein hunain hyd yn oed, neu angel o'r nef, yn pregethu i chwi efengyl sy'n groes i'r Efengyl a bregethasom ichwi, melltith arno! Fel yr ydym wedi dweud o'r blaen, felly yr wyf yn dweud eto yn awr: os oes rhywun yn pregethu efengyl i chwi sy'n groes i'r Efengyl a dderbyniasoch, melltith arno! Pwy yr wyf am ei gael o'm plaid yn awr, ai dynion, ai Duw? Ai ceisio plesio dynion yr wyf? Pe bawn â'm bryd o hyd ar blesio dynion, nid gwas i Grist fyddwn.
Galatiaid 1:6-10 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Y mae yn rhyfedd gennyf eich symud mor fuan oddi wrth yr hwn a’ch galwodd i ras Crist, at efengyl arall: Yr hon nid yw arall; ond bod rhai yn eich trallodi chwi, ac yn chwennych datroi efengyl Crist. Eithr pe byddai i ni, neu i angel o’r nef, efengylu i chwi amgen na’r hyn a efengylasom i chwi, bydded anathema. Megis y rhagddywedasom, felly yr ydwyf yr awron drachefn yn dywedyd, Os efengyla neb i chwi amgen na’r hyn a dderbyniasoch, bydded anathema. Canys yr awron ai peri credu dynion yr wyf, ynteu Duw? neu a ydwyf fi yn ceisio rhyngu bodd dynion? canys pe rhyngwn fodd dynion eto, ni byddwn was i Grist.