Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Esra 9:6 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Esra 9:6 BNET (beibl.net 2015, 2024)

a gweddïo, “O Dduw! Mae gen i ormod o gywilydd dy wynebu di, fy Nuw. Dŷn ni wedi cael ein llethu’n llwyr gan ein pechodau, ac mae’n heuogrwydd wedi cyrraedd yr holl ffordd i’r nefoedd.

Esra 9:6 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

a dweud: “O fy Nuw, yr wyf mewn gwaradwydd, ac y mae cywilydd mawr arnaf godi fy wyneb atat, O Dduw, oherwydd y mae'n camweddau wedi codi'n uwch na'n pennau, a'n heuogrwydd wedi cynyddu hyd y nefoedd.

Esra 9:6 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

Ac a ddywedais, O fy NUW, y mae arnaf gywilydd a gorchwyledd godi fy wyneb atat ti, fy NUW; oherwydd ein hanwireddau ni a aethant yn aml dros ben, a’n camwedd a dyfodd hyd y nefoedd.