Eseciel 9:1-3
Eseciel 9:1-3 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Wedyn dyma fi’n clywed Duw yn gweiddi’n uchel, “Dewch yma, chi sy’n mynd i ddinistrio’r ddinas! Dewch gyda’ch arfau i wneud eich gwaith!” Gwelais chwe dyn yn dod o gyfeiriad y giât uchaf sy’n wynebu’r gogledd. Roedd gan bob un arf, sef pastwn, yn ei law. Roedd dyn arall gyda nhw, mewn gwisg o liain, ac roedd ganddo offer ysgrifennu wedi’i strapio am ei ganol. Dyma nhw’n dod i’r deml, a sefyll wrth ymyl yr allor bres. Dyma ysblander Duw Israel yn codi oddi ar y cerbyd a’r cerwbiaid ac yn symud at garreg drws y deml. A dyma’r ARGLWYDD yn galw ar y dyn mewn gwisg o liain oedd yn cario’r offer ysgrifennu
Eseciel 9:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yna clywais lais uchel yn dweud, “Dewch â'r rhai sydd i gosbi'r ddinas, pob un ag arf distryw yn ei law.” Gwelais chwech o ddynion yn dod o gyfeiriad y porth uchaf, sy'n wynebu'r gogledd, pob un ag arf marwol yn ei law; gyda hwy yr oedd dyn wedi ei wisgo â lliain, ac offer ysgrifennu wrth ei wasg. Daethant i mewn a sefyll gyferbyn â'r allor bres. Yna cododd gogoniant Duw Israel i fyny oddi ar y cerwbiaid, lle bu'n aros, a mynd at riniog y deml. Galwodd yr ARGLWYDD ar y dyn oedd wedi ei wisgo â lliain, ac offer ysgrifennu wrth ei wasg
Eseciel 9:1-3 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Llefodd hefyd â llef uchel lle y clywais, gan ddywedyd, Gwnewch i swyddogion y ddinas nesáu, a phob un â’i arf dinistr yn ei law. Ac wele chwech o wŷr yn dyfod o ffordd y porth uchaf, yr hwn sydd yn edrych tua’r gogledd, a phob un â’i arf dinistr yn ei law: ac yr oedd un gŵr yn eu mysg hwynt wedi ei wisgo â lliain, a chorn du ysgrifennydd wrth ei glun; a hwy a aethant i mewn, ac a safasant wrth yr allor bres. A gogoniant DUW Israel a gyfododd oddi ar y ceriwb yr ydoedd efe arno, hyd riniog y tŷ. Ac efe a lefodd ar y gŵr oedd wedi ei wisgo â lliain, yr hwn yr oedd corn du ysgrifennydd wrth ei glun