Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseciel 8:3 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Eseciel 8:3 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Dyma fe’n estyn ei law a gafael yn fy ngwallt. Yna cododd yr ysbryd fi i fyny i’r awyr a mynd â fi i Jerwsalem mewn gweledigaeth. Aeth â fi at ddrws y giât fewnol sy’n wynebu’r gogledd, lle roedd y ddelw oedd wedi gwneud yr ARGLWYDD mor ddig.

Eseciel 8:3 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Estynnodd allan yr hyn a edrychai fel llaw, a'm cymryd gerfydd gwallt fy mhen. Cododd yr ysbryd fi rhwng daear a nefoedd, a mynd â mi mewn gweledigaethau Duw i Jerwsalem, at ddrws porth y gogledd i'r cyntedd mewnol, lle safai delw eiddigedd, sy'n achosi eiddigedd.

Eseciel 8:3 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

Ac efe a estynnodd lun llaw, ac a’m cymerodd erbyn cudyn o’m pen: a chododd yr ysbryd fi rhwng y ddaear a’r nefoedd, ac a’m dug i Jerwsalem mewn gweledigaethau DUW, hyd ddrws y porth nesaf i mewn, yr hwn sydd yn edrych tua’r gogledd, lle yr ydoedd eisteddfa delw yr eiddigedd, yr hon a wna eiddigedd.