Eseciel 8:1-6
Eseciel 8:1-6 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Roedd hi chwe blynedd ar ôl i ni gael ein cymryd yn gaeth i Babilon, ar y pumed diwrnod o’r chweched mis. Rôn i’n eistedd yn y tŷ gydag arweinwyr Jwda o mlaen i. A dyma ddylanwad yr ARGLWYDD yn dod arna i. Wrth i mi edrych dyma fi’n gweld ffigwr oedd yn edrych fel person dynol. O’i ganol i lawr roedd fel fflamau tân, ac o’i ganol i fyny roedd yn llachar fel ffwrnais fetel. Dyma fe’n estyn ei law a gafael yn fy ngwallt. Yna cododd yr ysbryd fi i fyny i’r awyr a mynd â fi i Jerwsalem mewn gweledigaeth. Aeth â fi at ddrws y giât fewnol sy’n wynebu’r gogledd, lle roedd y ddelw oedd wedi gwneud yr ARGLWYDD mor ddig. A dyna lle roedd ysblander Duw Israel o mlaen i, yn union yr un fath â’r hyn welais i yn y dyffryn y tro cyntaf. A dyma Duw’n dweud wrtho i: “Ddyn, edrych i gyfeiriad y gogledd.” Dyma fi’n edrych, a dyna lle roedd allor i’r ddelw oedd wedi gwneud Duw mor ddig. “Edrych beth mae’r bobl yn ei wneud!” meddai Duw. “Mae pobl Israel yn gwneud pethau cwbl ffiaidd, ac yn fy ngyrru i allan o’r deml. Ond mae yna bethau gwaeth na hyn!”
Eseciel 8:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ar y pumed dydd o'r chweched mis yn y chweched flwyddyn, a minnau'n eistedd yn fy nhŷ, a henuriaid Jwda yn eistedd o'm blaen, daeth llaw yr Arglwydd DDUW arnaf yno. Ac wrth imi edrych, gwelais ffurf oedd o ran ymddangosiad yn ddynol. O'r hyn a edrychai fel ei lwynau i lawr, yr oedd yn dân, ac o'i lwynau i fyny yr oedd yn debyg i efydd gloyw a disglair. Estynnodd allan yr hyn a edrychai fel llaw, a'm cymryd gerfydd gwallt fy mhen. Cododd yr ysbryd fi rhwng daear a nefoedd, a mynd â mi mewn gweledigaethau Duw i Jerwsalem, at ddrws porth y gogledd i'r cyntedd mewnol, lle safai delw eiddigedd, sy'n achosi eiddigedd. Ac yno yr oedd gogoniant Duw Israel, fel yn y weledigaeth a gefais yn y gwastadedd. Yna dywedodd wrthyf, “Fab dyn, cod dy olygon i gyfeiriad y gogledd.” Codais fy ngolygon i gyfeiriad y gogledd, a gwelais yno, i'r gogledd o borth yr allor, yn y fynedfa, y ddelw hon o eiddigedd. Dywedodd wrthyf, “Fab dyn, a weli di beth y maent yn ei wneud, y pethau cwbl ffiaidd y mae tŷ Israel yn eu gwneud yma, i'm pellhau oddi wrth fy nghysegr? Ond fe gei weld eto bethau mwy ffiaidd.”
Eseciel 8:1-6 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A bu yn y chweched flwyddyn, yn y chweched mis, ar y pumed dydd o’r mis, a mi yn eistedd yn fy nhŷ, a henuriaid Jwda yn eistedd ger fy mron, syrthio o law yr ARGLWYDD DDUW arnaf yno. Yna yr edrychais, ac wele gyffelybrwydd fel gwelediad tân; o welediad ei lwynau ac isod, yn dân; ac o’i lwynau ac uchod, fel gwelediad disgleirdeb, megis lliw ambr. Ac efe a estynnodd lun llaw, ac a’m cymerodd erbyn cudyn o’m pen: a chododd yr ysbryd fi rhwng y ddaear a’r nefoedd, ac a’m dug i Jerwsalem mewn gweledigaethau DUW, hyd ddrws y porth nesaf i mewn, yr hwn sydd yn edrych tua’r gogledd, lle yr ydoedd eisteddfa delw yr eiddigedd, yr hon a wna eiddigedd. Ac wele yno ogoniant DUW Israel, fel y weledigaeth a welswn yn y gwastadedd. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Mab dyn, cyfod yn awr dy lygaid tua ffordd y gogledd. Felly y cyfodais fy llygaid tua ffordd y gogledd; ac wele, tua’r gogledd; wrth borth yr allor, ddelw yr eiddigedd hon yn y cyntedd. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Mab dyn, a weli di beth y maent hwy yn ei wneuthur, y ffieidd-dra mawr y mae tŷ Israel yn ei wneuthur yma, i’m gyrru ymhell oddi wrth fy nghysegr? ac eto dychwel, cei weled ffieidd-dra mwy.