Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseciel 7:9 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Eseciel 7:9 BNET (beibl.net 2015, 2024)

Fydd yna ddim trugaredd! Dw i’n mynd i’ch galw chi i gyfri am eich ymddygiad, a bydd rhaid i chi wynebu canlyniadau y pethau ffiaidd wnaethoch chi. Byddwch chi’n deall wedyn mai fi, yr ARGLWYDD, sydd wedi’ch taro chi.

Eseciel 7:9 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Ni fyddaf yn tosturio wrthyt, nac yn trugarhau; talaf iti am dy ffyrdd ac am y ffieidd-dra sydd yn dy ganol. Yna cewch wybod mai myfi'r ARGLWYDD sy'n taro.

Eseciel 7:9 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

A’m llygad nid arbed, ac ni thosturiaf: rhoddaf arnat yn ôl dy ffyrdd, a’th ffieidd-dra a fydd yn dy ganol di; a chewch wybod mai myfi yr ARGLWYDD sydd yn taro.