Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseciel 7:19 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Eseciel 7:19 BNET (beibl.net 2015, 2024)

“Fydd aur ac arian yn golygu dim iddyn nhw. Bydd fel sbwriel ar y stryd. Fydd eu cyfoeth ddim yn eu hachub nhw ar y diwrnod pan fydd yr ARGLWYDD yn barnu! A fyddan nhw ddim yn gallu prynu bwyd gydag e. Eu harian nhw wnaeth eu baglu nhw a’u harwain nhw i bechu!

Eseciel 7:19 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Taflant eu harian i'r strydoedd, a bydd eu haur fel peth aflan; ni fedr eu harian na'u haur eu gwaredu yn nydd digofaint yr ARGLWYDD; ac ni fedrant ddigoni eu heisiau na llenwi eu stumogau; ond eu camwedd fydd eu cwymp.

Eseciel 7:19 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

Eu harian a daflant i’r heolydd, a’u haur a roir heibio: eu harian na’u haur ni ddichon eu gwared hwynt yn nydd dicter yr ARGLWYDD: eu henaid ni ddiwallant, a’u coluddion ni lanwant: oherwydd tramgwydd eu hanwiredd ydyw.