Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseciel 6:9 - Cymhara Bob Fersiwn | YouVersion

Eseciel 6:9 BNET (beibl.net 2015, 2024)

A byddan nhw’n cofio amdana i yno! Byddan nhw’n sylweddoli sut roedden nhw’n torri fy nghalon i wrth fod mor anffyddlon a dilyn pa dduw bynnag oedd yn cymryd eu ffansi. Bydd ganddyn nhw gymaint o gywilydd am eu bod wedi cymryd rhan mewn defodau mor ffiaidd.

Eseciel 6:9 BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)

Ymysg y cenhedloedd lle caethgludwyd hwy, bydd y rhai a ddihangodd yn fy nghofio—fel y drylliwyd fi gan eu calonnau godinebus pan oeddent yn troi oddi wrthyf, a chan eu llygaid pan oeddent yn godinebu gydag eilunod; yna byddant yn eu casáu eu hunain am y drygioni a wnaethant ac am eu holl ffieidd-dra.

Eseciel 6:9 BWM (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)

A’ch rhai dihangol a’m cofiant i ymysg y cenhedloedd y rhai y caethgludir hwynt atynt, am fy nryllio â’u calon buteinllyd, yr hon a giliodd oddi wrthyf; ac â’u llygaid, y rhai a buteiniasant ar ôl eu heilunod: yna yr ymffieiddiant ynddynt eu hun am y drygioni a wnaethant yn eu holl ffieidd-dra.