Eseciel 44:1-2
Eseciel 44:1-2 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yna aeth y dyn â fi yn ôl at giât allanol y cysegr sy’n wynebu’r dwyrain, ond roedd wedi’i chau. A dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrtho i: “Bydd y giât yma yn aros wedi’i chau. Does neb yn cael mynd drwyddi. Mae’r ARGLWYDD, Duw Israel, wedi mynd drwyddi, felly rhaid iddi aros ar gau.
Eseciel 44:1-2 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yna aeth y dyn â mi'n ôl at borth nesaf allan y cysegr, a oedd yn wynebu tua'r dwyrain; ac yr oedd wedi ei gau. Dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, “Y mae'r porth hwn i fod ar gau; nid oes neb i'w agor nac i fynd trwyddo; y mae i fod ar gau oherwydd i'r ARGLWYDD, Duw Israel, ddod trwyddo.
Eseciel 44:1-2 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac efe a wnaeth i mi ddychwelyd ar hyd ffordd porth y cysegr nesaf allan, yr hwn sydd yn edrych tua’r dwyrain, ac yr oedd yn gaead. Yna y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Y porth hwn fydd gaead; nid agorir ef, ac nid â neb i mewn trwyddo ef: oherwydd ARGLWYDD DDUW Israel a aeth i mewn trwyddo ef; am hynny y bydd yn gaead.