Eseciel 43:16-19
Eseciel 43:16-19 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Mae top yr allor ei hun yn chwe metr a chwarter o hyd a chwe metr a chwarter o led, gyda sil sy’n ei gwneud yn saith metr a chwarter bob ffordd. Mae’r ymyl yn ddau ddeg chwech centimetr gyda gwter bum deg dau centimetr a hanner o led o’i chwmpas. Mae’r grisiau yn mynd i fyny ati o’r ochr ddwyreiniol.” Wedyn dyma fe’n dweud, “Dyma mae’r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Dyma’r rheolau am yr offrymau i’w llosgi a’r gwaed sydd i’w sblasio ar yr allor pan fydd wedi’i hadeiladu. Rhaid rhoi tarw ifanc yn offrwm i lanhau o bechod i’r offeiriaid o lwyth Lefi sy’n ddisgynyddion Sadoc ac sy’n dod ata i i’m gwasanaethu i.
Eseciel 43:16-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Bydd aelwyd yr allor yn sgwâr, deuddeg cufydd o hyd a deuddeg cufydd o led. Bydd y silff uchaf hefyd yn sgwâr, yn bedwar cufydd ar ddeg o hyd a phedwar cufydd ar ddeg o led, gyda chantel o hanner cufydd, a gwaelod o gufydd oddi amgylch. Bydd grisiau'r allor yn wynebu tua'r dwyrain.” Yna dywedodd wrthyf, “Fab dyn, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Dyma'r deddfau ynglŷn ag aberthu poethoffrymau a thaenellu gwaed ar yr allor, pan fydd wedi ei hadeiladu: yn aberth dros bechod byddi'n rhoi bustach ifanc i'r offeiriaid sy'n Lefiaid o deulu Sadoc, oherwydd hwy fydd yn dynesu ataf i'm gwasanaethu, medd yr Arglwydd DDUW.
Eseciel 43:16-19 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A’r allor fydd ddeuddeg cufydd o hyd, a deuddeg o led, yn ysgwâr yn ei phedwar ystlys. A’r ystôl fydd bedwar cufydd ar ddeg o hyd, a phedwar ar ddeg o led, yn ei phedwar ystlys; a’r ymylwaith o amgylch iddi yn hanner cufydd; a’i gwaelod yn gufydd o amgylch: a’i grisiau yn edrych tua’r dwyrain. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Ha fab dyn, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW; Dyma ddeddfau yr allor, yn y dydd y gwneler hi, i boethoffrymu poethoffrwm arni, ac i daenellu gwaed arni. Yna y rhoddi at yr offeiriaid y Lefiaid, (y rhai sydd o had Sadoc yn nesáu ataf fi, medd yr Arglwydd DDUW, i’m gwasanaethu,) fustach ieuanc yn bech-aberth.