Eseciel 33:30-33
Eseciel 33:30-33 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Ddyn, mae dy bobl yn siarad amdanat ti o gwmpas y ddinas ac ar y stepen drws, ac yn dweud wrth ei gilydd, ‘Dewch i wrando ar y neges gan yr ARGLWYDD.’ Mae tyrfa ohonyn nhw’n dod ac yn eistedd o dy flaen di. Maen nhw’n gwrando ond dŷn nhw ddim yn gweithredu. Dŷn nhw ddim yn gwneud beth dw i’n ddweud. Maen nhw’n gofyn am fwy ond gwneud arian ac elwa ar draul pobl eraill ydy eu hobsesiwn nhw. Adloniant ydy’r cwbl iddyn nhw. Ti fel canwr yn canu caneuon serch. Mae gen ti lais hyfryd ac rwyt ti’n offerynnwr medrus. Maen nhw’n gwrando ond dŷn nhw ddim yn gweithredu. Pan fydd y cwbl yn dod yn wir – ac mae’n mynd i ddigwydd – byddan nhw’n gwybod fod proffwyd wedi bod gyda nhw.”
Eseciel 33:30-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Amdanat ti, fab dyn, y mae dy bobl yn siarad ger y muriau ac wrth ddrysau'r tai, ac yn dweud wrth ei gilydd, ‘Dewch i wrando beth yw'r gair a ddaeth oddi wrth yr ARGLWYDD.’ Fe ddaw fy mhobl yn ôl eu harfer, ac eistedd o'th flaen a gwrando ar dy eiriau, ond ni fyddant yn eu gwneud. Y mae geiriau serchog yn eu genau, ond eu calon yn eu harwain ar ôl elw. Yn wir, nid wyt ti iddynt hwy ond un yn canu caneuon serch mewn llais peraidd ac yn chwarae offeryn yn dda, oherwydd y maent yn gwrando ar dy eiriau ond heb eu gwneud. Pan ddigwydd hyn, ac y mae hynny'n sicr, byddant yn gwybod i broffwyd fod yn eu mysg.”
Eseciel 33:30-33 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Tithau fab dyn, meibion dy bobl sydd yn siarad i’th erbyn wrth y parwydydd, ac o fewn drysau y tai, ac yn dywedyd y naill wrth y llall, pob un wrth ei gilydd, gan ddywedyd, Deuwch, atolwg, a gwrandewch beth yw y gair sydd yn dyfod oddi wrth yr ARGLWYDD. Deuant hefyd atat fel y daw y bobl, ac eisteddant o’th flaen fel fy mhobl, gwrandawant hefyd dy eiriau, ond nis gwnânt hwy: canys â’u geneuau y dangosant gariad, a’u calon sydd yn myned ar ôl eu cybydd-dod. Wele di hefyd iddynt fel cân cariad un hyfrydlais, ac yn canu yn dda: canys gwrandawant dy eiriau, ond nis gwnânt hwynt. A phan ddelo hyn, (wele ef yn dyfod,) yna y cânt wybod fod proffwyd yn eu mysg.