Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseciel 33:1-16

Eseciel 33:1-16 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

A dyma fi’n cael neges arall gan yr ARGLWYDD: “Ddyn, dywed hyn wrth dy bobl, ‘Pan dw i’n gadael i fyddin ymosod ar wlad, mae pobl y wlad honno’n dewis un o’u plith i fod yn wyliwr. Mae’n gweld byddin y gelyn yn dod ac yn chwythu’r corn hwrdd i rybuddio’r bobl. Os ydy pobl yn clywed y corn hwrdd ond yn cymryd dim sylw, nhw fydd ar fai pan gân nhw eu lladd. Roedden nhw wedi clywed y corn hwrdd, ond ei anwybyddu. Arnyn nhw mae’r bai. Petaen nhw wedi gwrando bydden nhw’n dal yn fyw. Ond beth petai’r gwyliwr heb ganu’r corn hwrdd i rybuddio’r bobl pan welodd y fyddin yn dod? Mae rhywun yn cael ei ladd. Mae’r person hwnnw’n marw am ei fod e’i hun wedi pechu, ond bydda i’n dal y gwyliwr yn gyfrifol am achosi iddo gael ei ladd. “Ddyn, ti dw i wedi’i benodi yn wyliwr i warchod pobl Israel. Rhaid i ti eu rhybuddio nhw pan fydda i’n rhoi neges i ti. Pan dw i’n dweud wrth rywun drwg, ‘Rwyt ti’n siŵr o farw,’ a thithau ddim yn ei rybuddio fod rhaid iddo newid ei ffyrdd, bydd e’n marw am ei fod wedi pechu a bydda i’n dy ddal di’n gyfrifol ei fod wedi marw. Ond os byddi di wedi’i rybuddio i newid ei ffyrdd, ac yntau wedi gwrthod gwneud hynny, bydd e’n marw am ei fod wedi pechu ond byddi di wedi achub dy hun. “Ddyn, dyma rwyt ti i’w ddweud wrth bobl Israel: ‘Dych chi wedi bod yn dweud, “Mae hyn i gyd yn digwydd am ein bod ni wedi gwrthryfela ac wedi pechu. Mae wedi darfod arnon ni. Pa obaith sydd?”’ Wel, dywed wrthyn nhw, ‘Mor sicr â’r ffaith mai fi ydy’r Duw byw, dydy gweld pobl ddrwg yn marw yn rhoi dim pleser i mi. Byddai’n well gen i iddyn nhw newid eu ffyrdd a chael byw. Dewch bobl Israel, trowch gefn ar eich drygioni. Pam ddylech chi farw?’ “Ddyn, dywed wrth dy bobl, ‘Fydd daioni y bobl sy’n gwneud beth sy’n iawn ddim yn eu hachub nhw pan fyddan nhw’n gwrthryfela. A fydd drygioni pobl ddrwg ddim yn eu condemnio nhw os gwnân nhw newid eu ffyrdd a stopio gwneud drwg. Fydd yr holl bethau da mae rhywun wedi’i gwneud ddim yn ei achub os ydy e’n dewis pechu wedyn.’ Os dw i’n dweud wrth rywun sy’n gwneud beth sy’n iawn ei fod yn cael byw ac mae e’n dewis pechu wedyn, bydd yr holl bethau da wnaeth e yn cael eu hanghofio. Bydd e’n marw am ei fod wedi pechu. Ond os ydw i’n dweud wrth rywun drwg, ‘Rwyt ti’n siŵr o farw,’ a hwnnw wedyn yn troi cefn ar ei bechod a gwneud beth sy’n iawn ac yn dda (Os bydd e’n talu’n ôl beth gafodd ei roi iddo’n ernes, yn rhoi beth mae wedi’i ddwyn yn ôl, yn cadw’r deddfau sy’n rhoi bywyd ac yn peidio pechu) bydd e’n cael byw. Fydd e ddim yn marw. Bydd y pechodau wnaeth e yn cael eu hanghofio. Mae e’n gwneud beth sy’n iawn ac yn dda, a bydd e’n cael byw.”

Eseciel 33:1-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud, “Fab dyn, llefara wrth dy bobl a dweud wrthynt, ‘Bwriwch fy mod yn anfon cleddyf yn erbyn gwlad, a phobl y wlad yn dewis un gŵr o'u plith i fod yn wyliwr iddynt, ac yntau'n gweld y cleddyf yn dod yn erbyn y wlad ac yn canu utgorn i rybuddio'r bobl; yna, os bydd rhywun yn clywed sain yr utgorn ond heb dderbyn y rhybudd, a'r cleddyf yn dod ac yn ei ladd, ef ei hun fydd yn gyfrifol am ei waed. Oherwydd iddo glywed sain yr utgorn a pheidio â derbyn rhybudd, ef ei hun fydd yn gyfrifol am ei waed; pe byddai wedi derbyn rhybudd, byddai wedi arbed ei fywyd. Ond pe byddai'r gwyliedydd yn gweld y cleddyf yn dod ac yn peidio â chanu'r utgorn i rybuddio'r bobl, a'r cleddyf yn dod ac yn lladd un ohonynt, yna, er i hwnnw gael ei ladd am ei ddrygioni, byddwn yn dal y gwyliedydd yn gyfrifol am ei waed.’ “Fab dyn, gosodais di yn wyliwr i dŷ Israel; byddi'n clywed gair o'm genau ac yn rhoi rhybudd iddynt oddi wrthyf. Os dywedaf fi wrth y drygionus, ‘O ddrygionus, byddi'n sicr o farw’, a thithau'n peidio â llefaru i'w rybuddio i droi o'i ffordd, yna, er i'r drygionus farw am ei ddrygioni, byddaf yn dy ddal di'n gyfrifol am ei waed. Ond os byddi'n rhybuddio'r drygionus i droi o'i ffordd, ac yntau'n gwrthod, fe fydd farw am ei ddrygioni, ond fe fyddi di'n arbed dy fywyd. “Fab dyn, dywed wrth dŷ Israel, ‘Dyma a ddywedwch: “Y mae ein troseddau a'n pechodau yn fwrn arnom, ac yr ydym yn darfod o'u plegid; sut y byddwn fyw?’ ” Dywed wrthynt, ‘Cyn wired â'm bod yn fyw, medd yr Arglwydd DDUW, nid wyf yn ymhyfrydu ym marwolaeth y drygionus, ond yn hytrach ei fod yn troi o'i ffordd ac yn byw. Trowch, trowch o'ch ffyrdd drwg! Pam y byddwch farw, O dŷ Israel?’ “Fab dyn, dywed wrth dy bobl, ‘Ni fydd cyfiawnder y cyfiawn yn ei waredu pan fydd yn pechu, ac ni fydd drygioni'r drygionus yn peri iddo syrthio pan fydd yn troi oddi wrth ei ddrygioni; ni all y cyfiawn fyw trwy ei gyfiawnder pan fydd yn pechu.’ Os dywedaf wrth y cyfiawn y bydd yn sicr o fyw, ac yntau wedyn yn ymddiried yn ei gyfiawnder ac yn gwneud drygioni, ni chofir yr un o'i weithredoedd cyfiawn; bydd farw am y drygioni a wnaeth. Ac os dywedaf wrth y drygionus, ‘Byddi'n sicr o farw’, ac yntau'n troi oddi wrth ei ddrygioni ac yn gwneud yr hyn sy'n gywir a chyfiawn, yn dychwelyd gwystl, yn adfer yr hyn a ladrataodd, yn dilyn rheolau'r bywyd ac yn ymatal rhag drwg, bydd yn sicr o fyw; ni fydd farw. Ni chofir yn ei erbyn yr un o'i bechodau; gwnaeth yr hyn sy'n gywir a chyfiawn, a bydd yn sicr o fyw.

Eseciel 33:1-16 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

A daeth gair yr ARGLWYDD ataf, gan ddywedyd, Llefara, fab dyn, wrth feibion dy bobl, a dywed wrthynt, Pan ddygwyf gleddyf ar wlad, a chymryd o bobl y wlad ryw ŵr o’i chyrrau, a’i roddi yn wyliedydd iddynt: Os gwêl efe gleddyf yn dyfod ar y wlad, ac utganu mewn utgorn, a rhybuddio y bobl; Yna yr hwn a glywo lais yr utgorn, ac ni chymer rybudd; eithr dyfod o’r cleddyf a’i gymryd ef ymaith, ei waed fydd ar ei ben ei hun. Efe a glybu lais yr utgorn, ac ni chymerodd rybudd; ei waed fydd arno: ond yr hwn a gymero rybudd, a wared ei enaid. Ond pan welo y gwyliedydd y cleddyf yn dyfod, ac ni utgana mewn utgorn, a’r bobl heb eu rhybuddio; eithr dyfod o’r cleddyf a chymryd un ohonynt, efe a ddaliwyd yn ei anwiredd, ond mi a ofynnaf ei waed ef ar law y gwyliedydd. Felly dithau, fab dyn, yn wyliedydd y’th roddais i dŷ Israel; fel y clywech air o’m genau, ac y rhybuddiech hwynt oddi wrthyf fi. Pan ddywedwyf wrth yr annuwiol, Ti annuwiol, gan farw a fyddi farw; oni leferi di i rybuddio yr annuwiol o’i ffordd, yr annuwiol hwn a fydd marw yn ei anwiredd, ond ar dy law di y gofynnaf ei waed ef. Ond os rhybuddi di yr annuwiol o’i ffordd, i ddychwelyd ohoni; os efe ni ddychwel o’i ffordd, efe fydd farw yn ei anwiredd, a thithau a waredaist dy enaid. Llefara hefyd wrth dŷ Israel, ti fab dyn, Fel hyn gan ddywedyd y dywedwch; Os yw ein hanwireddau a’n pechodau arnom, a ninnau yn dihoeni ynddynt, pa fodd y byddem ni byw? Dywed wrthynt, Fel mai byw fi, medd yr Arglwydd DDUW, nid ymhoffaf ym marwolaeth yr annuwiol; ond troi o’r annuwiol oddi wrth ei ffordd, a byw: dychwelwch, dychwelwch oddi wrth eich ffyrdd drygionus; canys, tŷ Israel, paham y byddwch feirw? Dywed hefyd, fab dyn, wrth feibion dy bobl, Cyfiawnder y cyfiawn nis gwared ef yn nydd ei anwiredd: felly am annuwioldeb yr annuwiol, ni syrth efe o’i herwydd yn y dydd y dychwelo oddi wrth ei anwiredd; ni ddichon y cyfiawn chwaith fyw oblegid ei gyfiawnder, yn y dydd y pecho. Pan ddywedwyf wrth y cyfiawn, Gan fyw y caiff fyw; os efe a hydera ar ei gyfiawnder, ac a wna anwiredd, ei holl gyfiawnderau ni chofir; ond am ei anwiredd a wnaeth, amdano y bydd efe marw. A phan ddywedwyf wrth yr annuwiol, Gan farw y byddi farw; os dychwel efe oddi wrth ei bechod, a gwneuthur barn a chyfiawnder; Os yr annuwiol a ddadrydd wystl, ac a rydd yn ei ôl yr hyn a dreisiodd, a rhodio yn neddfau y bywyd, heb wneuthur anwiredd; gan fyw y bydd efe byw, ni bydd marw: Ni choffeir iddo yr holl bechodau a bechodd: barn a chyfiawnder a wnaeth; efe gan fyw a fydd byw.