Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseciel 21:1-31

Eseciel 21:1-31 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Dyma’r ARGLWYDD yn rhoi’r neges yma i mi: “Ddyn, dw i eisiau i ti droi i wynebu Jerwsalem, a pregethu yn erbyn ei lleoedd cysegredig hi. Proffwyda yn erbyn Israel, a dweud, ‘Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud: Dw i’n mynd i ddelio gyda chi! Dw i’n mynd i dynnu fy nghleddyf o’r wain a lladd pawb, y da a’r drwg! Ydw, dw i’n mynd i ladd y da a’r drwg. Bydda i’n tynnu fy nghleddyf ac yn taro pawb, o’r de i’r gogledd! Bydd pawb yn deall wedyn mai fi ydy’r ARGLWYDD, ac mai fi sydd wedi tynnu’r cleddyf, a fydd e ddim yn mynd yn ôl i’r wain!’ “Felly griddfan di, ddyn! Griddfan yn chwerw o’u blaenau a syrthio ar lawr yn dy ddyblau fel petaet ti mewn poen. Pan fyddan nhw’n gofyn i ti, ‘Beth sy’n bod?’ dywed wrthyn nhw, ‘Mae newyddion dychrynllyd ar ei ffordd. Bydd pawb wedi dychryn am eu bywydau, a ddim yn gwybod beth i’w wneud. Byddan nhw’n teimlo’n gwbl ddiymadferth, ac yn gwlychu eu hunain mewn ofn.’” Dyma’r ARGLWYDD yn rhoi’r neges yma i mi: “Ddyn, proffwyda fel yma, ‘Dyma mae’r ARGLWYDD yn ei ddweud: Cleddyf! Cleddyf! Wedi’i hogi a’i sgleinio. Wedi’i hogi i ladd, ac yn fflachio fel mellten. Pwy sy’n chwerthin nawr? Mae teyrnwialen Jwda wedi’i gwrthod a phob ffon debyg iddi! Mae’r cleddyf wedi’i roi i’w sgleinio a’i ddal yng nghledr y llaw. Mae wedi’i hogi a’i lanhau i’w roi yn llaw y lladdwr. “‘Gwaedda, ddyn, galara! Mae’r cleddyf yn dod i daro fy mhobl, ac arweinwyr Israel i gyd! Bydd y galar yn llethol! Ydy, mae’r profi’n dod! Pa obaith sydd pan mae teyrnwialen Jwda wedi’i gwrthod?’ meddai’r ARGLWYDD. “Dw i eisiau i ti broffwydo, ddyn, ac ysgwyd dy ddwrn arnyn nhw. Dywed, ‘Bydd y cleddyf yn taro ddwywaith … na, tair! Cleddyf i ladd! Bydd cleddyf y lladdfa fawr yn dod o bob cyfeiriad! Bydd pawb yn wan gan ddychryn a bydd llawer iawn yn baglu a syrthio. Mae cleddyf y lladdfa fawr yn disgwyl wrth y giatiau i gyd. O! Mae’n fflachio fel mellten wrth gael ei chwifio i ladd! Ergyd i’r dde, a slaes i’r chwith! Mae’n taro â’i min ble bynnag y myn. Byddaf finnau’n ysgwyd fy nwrn a dangos faint dw i wedi gwylltio. Yr ARGLWYDD ydw i, a dw i wedi dweud beth sydd i ddod.’” Dyma’r ARGLWYDD yn rhoi’r neges yma i mi: “Ddyn, dw i eisiau i ti wneud map a marcio dwy ffordd y gallai cleddyf brenin Babilon ddod. Mae’r ddwy ffordd i ddechrau o’r un lle. Yna, ble maen nhw’n fforchio dw i eisiau i ti godi arwydd ffordd yn pwyntio at y ddinas – Marcia ddwy ffordd i’r cleddyf fynd – un i Rabba, dinas pobl Ammon, a’r llall i Jerwsalem, y gaer yn Jwda. Mae brenin Babilon wedi stopio lle mae’r ffordd yn fforchio, ac yn ansicr pa ffordd i fynd. Mae’n aros i ddewino: mae’n ysgwyd saethau, yn ceisio arweiniad ei eilun-ddelwau teuluol, ac yn archwilio iau anifeiliaid wedi’u haberthu. Mae’n agor ei law dde, a dyna’r arweiniad – i droi am Jerwsalem. Rhaid paratoi hyrddod rhyfel i fwrw’r giatiau, bloeddio’r gorchymyn i ymosod, a chodi rampiau a thyrau gwarchae. Bydd pobl Jerwsalem yn meddwl ei fod wedi gwneud camgymeriad, am eu bod wedi gwneud cytundeb gyda Babilon. Ond mae’n dangos eu bod nhw’n euog, a byddan nhw’n cael eu cymryd yn gaeth. “Felly, dyma mae’r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: ‘Dych chi wedi’i gwneud hi’n gwbl amlwg eich bod chi’n euog. Dych chi wedi troseddu, a does gynnoch chi ddim cywilydd o’ch pechod. Mae pawb yn ei weld! Felly byddwch yn cael eich cymryd yn gaeth. “‘A tithau, Sedeceia, dywysog llwgr a drwg Israel – mae dy ddiwrnod wedi dod. Ie, dydd barn! Dyma mae’r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Tynna dy goron oddi ar dy ben! Mae pethau’n mynd i newid! Codi’r rhai sy’n “neb”, a thorri crib y balch! Adfeilion! Adfeilion! Bydd y lle’n adfeilion llwyr! Fydd dim yn newid nes i’r un dw i wedi rhoi iddo’r hawl i farnu ddod. Bydda i’n ei rhoi iddo fe.’” “Ond yna, ddyn, proffwyda fel yma, ‘Dyma mae’r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud am gosb pobl Ammon: Cleddyf! Cleddyf yn cael ei chwifio i ladd. Wedi’i sgleinio i ddifa ac yn fflachio fel mellten. Mae gweledigaethau dy broffwydi’n ffug, a’r arweiniad drwy ddewino yn gelwydd! Mae’r cleddyf ar yddfau pobl lwgr a drwg. Ydy, mae eich diwrnod wedi dod. Ie, dydd barn! “‘Fydd y cleddyf ddim yn ôl yn ei wain nes i mi eich barnu chi yn y wlad lle cawsoch eich geni. Dw i’n mynd i dywallt fy llid arnoch chi, a’ch ffrwydro gyda tân fy ffyrnigrwydd. Bydda i’n eich rhoi chi yn nwylo dynion gwyllt sy’n gwybod sut i ddinistrio.

Eseciel 21:1-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud, “Fab dyn, tro dy wyneb tua Jerwsalem, a llefara yn erbyn ei chysegr a phroffwyda yn erbyn tir Israel. Dywed wrth dir Israel, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Yr wyf fi yn dy erbyn; tynnaf fy nghleddyf o'i wain a thorri ymaith ohonot y cyfiawn a'r drygionus. Oherwydd fy mod am dorri ymaith ohonot y cyfiawn a'r drygionus y tynnir fy nghleddyf o'i wain yn erbyn pawb o'r de i'r gogledd. Yna bydd pob un yn gwybod fy mod i, yr ARGLWYDD, wedi tynnu fy nghleddyf o'i wain; ni fydd yn dychwelyd yno byth eto.’ Ac yn awr, fab dyn, griddfan; griddfan yn chwerw o'u blaenau â chalon ddrylliedig. A phan ofynnant iti pam dy fod yn griddfan, fe ddywedi, ‘Oherwydd y newyddion; pan ddaw, bydd pob calon yn toddi, pob llaw yn llipa, pob ysbryd yn pallu a phob glin yn ddŵr. Fe ddigwydd, ac y mae ar ddyfod, medd yr Arglwydd DDUW.’ ” Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud, “Fab dyn, proffwyda a dweud, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Cleddyf! Cleddyf wedi ei hogi, a hefyd wedi ei loywi— wedi ei hogi er mwyn lladd, a'i loywi i fflachio fel mellten! O fy mab, fe chwifir gwialen i ddilorni pob eilun pren! Rhoddwyd y cleddyf i'w loywi, yn barod i law ymaflyd ynddo; y mae'r cleddyf wedi ei hogi a'i loywi, yn barod i'w roi yn llaw y lladdwr.’ Gwaedda ac uda, fab dyn, oherwydd y mae yn erbyn fy mhobl, yn erbyn holl dywysogion Israel— fe'u bwrir hwythau i'r cleddyf gyda'm pobl; felly trawa dy glun. Oherwydd bydd profi. Pam yr ydych yn dilorni'r wialen? Ni lwydda, medd yr Arglwydd DDUW. “Ac yn awr, fab dyn, proffwyda, a thrawa dy ddwylo yn erbyn ei gilydd; chwifier y cleddyf ddwywaith a thair— cleddyf i ladd ydyw, cleddyf i wneud lladdfa fawr, ac y mae'n chwyrlïo o'u hamgylch. Er mwyn i'w calon doddi, ac i lawer ohonynt syrthio, yr wyf wedi gosod cleddyf dinistr wrth eu holl byrth. Och! Fe'i gwnaed i ddisgleirio fel mellten, ac fe'i tynnir i ladd. Tro'n finiog i'r dde ac i'r chwith, i ble bynnag y pwyntia dy flaen. Byddaf finnau hefyd yn taro fy nwylo, ac yna'n tawelu fy llid. Myfi yr ARGLWYDD a lefarodd.” Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud, “Yn awr, fab dyn, noda ddwy ffordd i gleddyf brenin Babilon ddod, a'r ddwy yn arwain o'r un wlad, a gosod fynegbost ar ben y ffordd sy'n dod i'r ddinas. Noda un ffordd i'r cleddyf ddod yn erbyn Rabba'r Ammoniaid, a'r llall yn erbyn Jwda a Jerwsalem gaerog. Oherwydd fe oeda brenin Babilon ar y groesffordd lle mae'r ddwy ffordd yn fforchi, i geisio argoel; bydd yn bwrw coelbren â saethau, yn ymofyn â'i eilunod ac yn edrych ar yr afu. Yn ei law dde bydd coelbren Jerwsalem, iddo roi gorchymyn i ladd, codi bonllef rhyfel, gosod peiriannau hyrddio yn erbyn y pyrth, codi esgynfa ac adeiladu gwarchglawdd. Bydd yn ymddangos yn argoel twyllodrus i'r rhai sy'n deyrngar iddo, ond bydd ef yn dwyn eu trosedd i gof ac yn eu caethiwo. Felly, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Oherwydd ichwi ddwyn eich trosedd i gof trwy eich gwrthryfel agored, ac amlygu eich pechodau yn y cyfan a wnewch, oherwydd i chwi wneud hyn, fe'ch caethiwir. “A thithau, dywysog annuwiol a drygionus Israel, yr un y daeth ei ddydd yn amser y gosb derfynol, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Diosg y benwisg a thyn y goron; nid fel y bu y bydd; dyrchefir yr isel a darostyngir yr uchel. Adfail! Adfail! Yn adfail na fu ei bath y gwnaf hi, nes i'r hwn a'i piau trwy deg ddod, ac imi ei rhoi iddo ef. “Yn awr, fab dyn, proffwyda a dywed, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW wrth yr Ammoniaid a'u heilun: Cleddyf! Cleddyf wedi ei dynnu i ladd, wedi ei loywi i ddifa ac i ddisgleirio fel mellten! Er bod gweledigaethau gau amdanat ac argoelion twyllodrus ynglŷn â thi, fe'th osodir ar yddfau'r drygionus sydd i'w lladd, sef y rhai y daeth eu dydd yn amser y gosb derfynol. Yna, dychweler ef i'w wain. Yn y lle y crëwyd di, yng ngwlad dy gynefin, y barnaf di. Tywalltaf fy llid arnat a chwythu fy nig tanllyd drosot; rhoddaf di yn nwylo dynion creulon, dynion medrus i ddinistrio.

Eseciel 21:1-31 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

A daeth gair yr ARGLWYDD ataf, gan ddywedyd, Gosod dy wyneb, fab dyn, tua Jerwsalem, a difera dy eiriau tua’r cysegroedd, a phroffwyda yn erbyn gwlad Israel, A dywed wrth wlad Israel, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Wele fi i’th erbyn, tynnaf hefyd fy nghleddyf o’i wain, a thorraf ohonot gyfiawn ac anghyfiawn. Oherwydd y torraf ohonot gyfiawn ac anghyfiawn, am hynny y daw fy nghleddyf allan o’i wain yn erbyn pob cnawd, o’r deau hyd y gogledd; Fel y gwypo pob cnawd i mi yr ARGLWYDD dynnu fy nghleddyf allan o’i wain: ni ddychwel efe mwy. Ochain dithau, fab dyn, gydag ysictod lwynau; ie, ochain yn chwerw yn eu golwg hwynt. A bydd, pan ddywedant wrthyt, Am ba beth yr ydwyt yn ochain? yna ddywedyd ohonot, Am y chwedl newydd, am ei fod yn dyfod, fel y toddo pob calon, ac y llaeso y dwylo oll, ac y pallo pob ysbryd, a’r gliniau oll a ânt fel dwfr; wele efe yn dyfod, ac a fydd, medd yr ARGLWYDD DDUW. A gair yr ARGLWYDD a ddaeth ataf, gan ddywedyd, Proffwyda, fab dyn, a dywed, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Dywed, Cleddyf, cleddyf a hogwyd, ac a loywyd. Efe a hogwyd i ladd lladdfa, efe a loywyd fel y byddai ddisglair: a lawenychwn ni? y mae efe yn dirmygu gwialen fy mab, fel pob pren. Ac efe a’i rhoddes i’w loywi, i’w ddal mewn llaw; y cleddyf hwn a hogwyd, ac a loywyd, i’w roddi yn llaw y lleiddiad. Gwaedda ac uda, fab dyn; canys hwn fydd ar fy mhobl, hwn fydd yn erbyn holl dywysogion Israel; dychryn gan y cleddyf fydd ar fy mhobl: am hynny taro law ar forddwyd. Canys profiad yw; a pheth os y cleddyf a ddiystyra y wialen? ni bydd efe mwy, medd yr ARGLWYDD DDUW. Tithau, fab dyn, proffwyda, a tharo law wrth law, a dybler y cleddyf y drydedd waith: cleddyf y lladdedigion, cleddyf lladdedigaeth y gwŷr mawr ydyw, yn myned i’w hystafelloedd hwynt. Rhoddais flaen y cleddyf yn erbyn eu holl byrth hwynt, i doddi eu calon, ac i amlhau eu tramgwyddiadau: O, gwnaed ef yn loyw, hogwyd ef i ladd! Dos ryw ffordd, naill ai ar y llaw ddeau, ai ar y llaw aswy, lle y tueddo dy wyneb. Minnau hefyd a drawaf y naill law yn y llall, ac a lonyddaf fy llid: myfi yr ARGLWYDD a’i lleferais. A daeth gair yr ARGLWYDD ataf, gan ddywedyd, Tithau, fab dyn, gosod i ti ddwy ffordd, fel y delo cleddyf brenin Babilon; o un tir y deuant ill dwy: a dewis le, ym mhen ffordd y ddinas y dewisi ef. Gosod ffordd i ddyfod o’r cleddyf tua Rabbath meibion Ammon, a thua Jwda yn erbyn Jerwsalem gaerog. Canys safodd brenin Babilon ar y groesffordd, ym mhen y ddwyffordd, i ddewinio dewiniaeth: gloywodd ei saethau, ymofynnodd â delwau, edrychodd mewn afu. Yn ei law ddeau yr oedd dewiniaeth Jerwsalem, am osod capteiniaid i agoryd safn mewn lladdedigaeth, i ddyrchafu llef gyda bloedd, i osod offer rhyfel yn erbyn y pyrth, i fwrw clawdd, i adeiladu amddiffynfa. A hyn fydd ganddynt, fel dewinio dewiniaeth gwagedd yn eu golwg hwynt, i’r rhai a dyngasant lwon: ond efe a gofia yr anwiredd, i’w dal hwynt. Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW, Am beri ohonoch gofio eich anwiredd, gan amlygu eich camweddau, fel yr ymddengys eich pechodau yn eich holl weithredoedd; am beri ohonoch eich cofio, y’ch delir â llaw. Tithau, halogedig annuwiol dywysog Israel, yr hwn y daeth ei ddydd, yn amser diwedd anwiredd, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Symud y meitr, a thyn ymaith y goron; nid yr un fydd hon: cyfod yr isel, gostwng yr uchel. Dymchwelaf, dymchwelaf, dymchwelaf hi; ac ni bydd mwyach hyd oni ddelo yr hwn y mae yn gyfiawn iddo; ac iddo ef y rhoddaf hi. Proffwyda dithau, fab dyn, a dywed, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW am feibion Ammon, ac am eu gwaradwydd hwynt; dywed di, Y cleddyf, y cleddyf a dynnwyd: i ladd y gloywyd ef, i ddifetha oherwydd y disgleirdeb: Wrth weled gwagedd i ti, wrth ddewinio i ti gelwydd, i’th roddi ar yddfau y lladdedigion, y drygionus y rhai y daeth eu dydd, yn amser diwedd eu hanwiredd. A ddychwelaf fi ef i’w wain? yn y lle y’th grewyd, yn nhir dy gynefin, y’th farnaf. A thywalltaf fy nicllonedd arnat, â thân fy llidiowgrwydd y chwythaf arnat, a rhoddaf di yn llaw dynion poethion, cywraint i ddinistrio.