Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseciel 20:1-49

Eseciel 20:1-49 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Roedd hi’r seithfed flwyddyn ar ôl i ni gael ein cymryd yn gaeth i Babilon, ar y degfed diwrnod o’r pumed mis. A dyma rai o arweinwyr Israel yn dod ac yn eistedd o mlaen i a gofyn am arweiniad gan yr ARGLWYDD. Dyma’r ARGLWYDD yn rhoi’r neges yma i mi: “Ddyn, dywed wrth arweinwyr Israel, ‘Dyma mae’r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dych chi eisiau i mi roi arweiniad i chi, ydych chi? Wel, mor sicr â’r ffaith mai fi ydy’r Duw byw, gewch chi ddim arweiniad gen i, meddai’r Meistr, yr ARGLWYDD.’ “Ddyn, wyt ti’n barod i gyhoeddi’r farn? Wyt ti’n barod i gyhoeddi’r farn, a’u cael nhw i wynebu’r pethau ffiaidd wnaeth eu hynafiaid? Dwed wrthyn nhw, ‘Dyma mae’r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Pan ddewisais Israel a chyflwyno fy hun i ddisgynyddion Jacob, dyma fi’n tyngu llw ac yn addo iddyn nhw, “Fi ydy’r ARGLWYDD, eich Duw chi.” Dyma fi’n addo eu rhyddhau nhw o wlad yr Aifft, a’u harwain nhw i wlad roeddwn i wedi’i dewis yn arbennig ar eu cyfer. Tir lle roedd llaeth a mêl yn llifo! Y wlad harddaf o’r cwbl i gyd! Dwedais, “Rhaid i chi gael gwared â’r eilun-dduwiau ffiaidd dych chi’n eu haddoli. Stopiwch lygru’ch hunain gydag eilunod yr Aifft. Fi ydy’r ARGLWYDD, eich Duw chi.” Ond roedden nhw’n tynnu’n groes i mi, ac yn gwrthod gwrando. Wnaethon nhw ddim cael gwared â’i heilun-dduwiau ffiaidd, na throi cefn ar eilunod yr Aifft. Dyma fi’n bygwth tywallt fy llid arnyn nhw, a dangos faint roeddwn i wedi gwylltio pan oedden nhw’n dal yn yr Aifft, ond wnes i ddim. Doeddwn i ddim eisiau i fy enw da gael ei sarhau gan y bobl o’u cwmpas nhw. Rôn i am ddangos sut un oeddwn i drwy ddod â nhw allan o’r Aifft.’ “‘A dyna wnes i. Dod â nhw allan o wlad yr Aifft, a’u harwain nhw i’r anialwch. Rhois reolau iddyn nhw, a dweud sut roeddwn i eisiau iddyn nhw fyw. Byddai’r rhai fyddai’n gwneud y pethau yma yn cael byw go iawn. Dyma fi’n rhoi “Sabothau” iddyn nhw hefyd, i’w hatgoffa nhw o’r berthynas rhyngon ni. Rôn i eisiau iddyn nhw ddeall fy mod i, yr ARGLWYDD, wedi’u gwneud nhw’n wahanol, yn bobl sbesial i mi.’ “‘Ond dyma bobl Israel yn gwrthryfela yn yr anialwch. Wnaethon nhw ddim cadw fy rheolau na byw fel rôn i eisiau. (Byddai’r rhai sy’n gwneud y pethau yna wedi cael byw go iawn!) A dyma nhw’n diystyru’r dyddiau Saboth yn llwyr hefyd. Rôn i’n bygwth tywallt fy llid arnyn nhw yn y fan a’r lle; eu dinistrio nhw’n llwyr yn yr anialwch! Ond wnes i ddim. Doeddwn i ddim eisiau i fy enw da gael ei sarhau gan y bobl oedd wedi fy ngweld i’n dod â nhw allan o’r Aifft. Ond dyma fi’n tyngu ar lw yn yr anialwch, a dweud na fyddwn i’n eu harwain nhw i’r wlad oedd gen i ar eu cyfer nhw – tir lle roedd llaeth a mêl yn llifo! Y wlad harddaf o’r cwbl i gyd! Roedden nhw wedi gwrthod cadw fy rheolau, wedi gwrthod byw fel rôn i eisiau, ac wedi diystyru’r dyddiau Saboth rois i iddyn nhw. Pam? Am fod eu calonnau’n dal i ddilyn yr eilunod! Ac eto, bod yn garedig atyn nhw wnes i. Wnes i ddim eu dinistrio nhw’n llwyr yn yr anialwch.’ “‘Dyma fi’n dweud wrth eu plant yn yr anialwch: “Peidiwch byw yr un fath â’ch rhieni. Peidiwch dilyn eu ffyrdd nhw, a llygru eich hunain yn addoli eu heilun-dduwiau. Fi ydy’r ARGLWYDD, eich Duw chi. Dw i eisiau i chi fyw fel dw i’n dweud a chadw fy rheolau i. A dw i eisiau i chi gadw’r dyddiau Saboth yn sbesial, i’ch atgoffa chi o’r berthynas sydd rhyngon ni. Byddwch chi’n gwybod wedyn mai fi ydy’r ARGLWYDD eich Duw chi.”’ “‘Ond dyma’r plant yn gwrthryfela yn fy erbyn i hefyd. Wnaethon nhw ddim cadw fy rheolau na byw fel rôn i eisiau. (Byddai’r rhai sy’n gwneud y pethau yna wedi cael byw go iawn.) A dyma nhw’n diystyru’r dyddiau Saboth yn llwyr hefyd. Rôn i’n bygwth tywallt fy llid arnyn nhw yn y fan a’r lle, yn yr anialwch. Ond dyma fi’n dal yn ôl. Doeddwn i ddim eisiau i fy enw da gael ei sarhau gan y bobl oedd wedi fy ngweld i’n dod â nhw allan o’r Aifft. Ond dyma fi’n tyngu ar lw yn yr anialwch, a dweud y byddwn i’n eu gyrru nhw ar chwâl i’r cenhedloedd, a’u gwasgaru nhw drwy’r gwledydd i gyd. Roedden nhw wedi gwrthod cadw fy rheolau, wedi gwrthod byw fel roeddwn i eisiau, ac wedi diystyru’r dyddiau Saboth rois i iddyn nhw. Pam? Am fod eu calonnau’n dal i ddilyn yr eilunod! Felly dyma fi’n gadael iddyn nhw ddilyn rheolau oedd ddim yn dda iddyn nhw a chanllawiau oedd ddim yn rhoi bywyd go iawn. Dyma fi’n gadael iddyn nhw lygru eu hunain gyda’r rhoddion roedden nhw’n ei cyflwyno i’w duwiau – roedden nhw’n llosgi eu plentyn cyntaf yn aberth! Dylen nhw fod wedi gweld mor erchyll oedd y fath beth. Rôn i eisiau iddyn nhw wybod mai fi ydy’r ARGLWYDD.’ “Ddyn, dw i eisiau i ti fynd i siarad gyda phobl Israel a dweud wrthyn nhw, ‘Dyma mae’r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Mae eich hynafiaid wedi dal ati i ddangos dirmyg ata i a bod yn anffyddlon. Roedden nhw wedi cael dod i’r wlad roeddwn i wedi’i haddo iddyn nhw. Ond y funud roedden nhw’n dod ar draws bryn uchel neu goeden ddeiliog, roedden nhw’n aberthu ac yn cyflwyno offrymau oedd yn fy nigio i. Roedden nhw’n llosgi arogldarth i’w duwiau ac yn tywallt offrymau o ddiod iddyn nhw. A dyma fi’n gofyn iddyn nhw, “Beth ydy’r allor baganaidd yma dych chi’n heidio ati?”’” (Dyna pam mae’r lle’n cael ei alw ‘Yr Allor’ hyd heddiw.) “Felly, dywed wrth bobl Israel, ‘Dyma mae’r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Chithau hefyd? Ydych chi’n mynd i lygru’ch hunain fel gwnaeth eich hynafiaid? Ydych chi’n mynd i buteinio drwy addoli eilun-dduwiau ffiaidd? Bob tro dych chi’n cyflwyno rhoddion i’ch duwiau a llosgi’ch plentyn cyntaf yn aberth, dych chi’n llygru’ch hunain. Ydw i’n mynd i adael i chi ofyn am arweiniad gen i, bobl Israel? Mor sicr â’r ffaith mai fi ydy’r Duw byw, meddai’r Meistr, yr ARGLWYDD, gewch chi ddim arweiniad gen i!’” “‘“Dŷn ni’n mynd i fod yr un fath â pawb arall,” meddech chi. “Fel pobl y gwledydd o’n cwmpas ni sy’n addoli duwiau o bren a charreg.” Ond fydd hynny byth yn digwydd. Mor sicr â’r ffaith mai fi ydy’r Duw byw,’ meddai’r Meistr, yr ARGLWYDD, ‘Fi fydd yn frenin arnoch chi, a bydda i’n tywallt fy llid, ac yn teyrnasu gyda nerth a chryfder rhyfeddol. Bydda i’n dod â chi allan o ganol y bobloedd, ac yn eich casglu chi o’r gwledydd lle dych chi wedi’ch gwasgaru. Ie, bydda i’n tywallt fy llid gyda nerth a chryfder rhyfeddol. Bydda i’n dod â chi allan i anialwch y cenhedloedd, a bydd rhaid i chi wynebu cael eich barnu yno. Yn union fel roedd rhaid i mi farnu eich hynafiaid yn anialwch yr Aifft, bydda i’n eich barnu chi,’ meddai’r Meistr, yr ARGLWYDD. ‘Bydda i’n edrych ar bob un ohonoch chi’n ei dro, wrth i chi basio dan fy ffon fugail, ac yn eich dal chi at amodau’r ymrwymiad rhyngon ni. Bydda i’n cael gwared â phawb sy’n gwrthryfela a thynnu’n groes i mi. Byddan nhw yn cael dod allan o’r wlad maen nhw ynddi ar hyn o bryd, ond gân nhw ddim mynd yn ôl i wlad Israel! Byddwch chi’n gwybod wedyn mai fi ydy’r ARGLWYDD. “‘Bobl Israel, dyma mae’r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud wrthoch chi: “Ewch, bob un ohonoch chi – ewch i addoli’ch eilun-dduwiau! Ond wedyn, peidiwch sarhau fy enw sanctaidd i gyda’ch rhoddion a’ch eilunod. Dim ond ar y mynydd dw i wedi’i gysegru – sef mynydd uchel Israel – y bydd pobl Israel yn fy addoli i, ie, pawb drwy’r wlad i gyd. Bydda i’n eu derbyn nhw yno. Dyna ble dych chi i ddod â chyflwyno rhoddion ac offrymau ac aberthau sanctaidd i mi. Pan fydda i’n dod â chi allan o ganol y bobloedd a’ch casglu chi o’r gwledydd lle dych chi wedi’ch gwasgaru, cewch eich derbyn gen i fel arogl hyfryd eich aberthau. A bydd pobl y gwledydd yn gweld mai fi ydy’r Duw sanctaidd sydd gyda chi. Byddwch chi’n gwybod wedyn mai fi ydy’r ARGLWYDD, pan fydda i’n gadael i chi fynd yn ôl i wlad Israel, sef y wlad wnes i addo ei rhoi i’ch hynafiaid. Byddwch chi’n edrych yn ôl ac yn gweld beth wnaethoch chi i lygru’ch hunain. Bydd gynnoch chi gywilydd eich bod wedi gwneud pethau mor ofnadwy. A byddwch chi’n deall mai fi ydy’r ARGLWYDD, am fy mod i wedi delio gyda chi mewn ffordd oedd yn diogelu fy enw da i, a dim fel roeddech chi’n ei haeddu am fod mor ddrwg a gwneud pethau mor ffiaidd!”’” Dyna neges y Meistr, yr ARGLWYDD. Yna dyma’r ARGLWYDD yn rhoi’r neges yma i mi: “Ddyn, dw i eisiau i ti droi i wynebu’r de, a pregethu yn erbyn y de drwy gyhoeddi proffwydoliaeth yn erbyn coedwig y Negef. Dwed wrth goedwig y Negef, ‘Gwranda ar neges yr ARGLWYDD i ti. Dyma mae’r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i’n mynd i gynnau tân yn dy ganol, a bydd yn llosgi’r coed gwyrdd yn ogystal â’r coed sydd wedi crino. Fydd y fflamau tanbaid ddim yn diffodd, a bydd y tir i gyd, o’r de i’r gogledd, wedi’i losgi’n ddu. Bydd pawb yn gweld mai fi, yr ARGLWYDD ddechreuodd y tân, ac na fydd yn diffodd.’” “O ARGLWYDD, fy Meistr!” meddwn i, “Mae pawb yn cwyno fod beth dw i’n ddweud yn ddim ond darluniau diystyr!”

Eseciel 20:1-49 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Ar y degfed dydd o'r pumed mis yn y seithfed flwyddyn, daeth rhai o henuriaid Israel i ymofyn â'r ARGLWYDD, ac yr oeddent yn eistedd o'm blaen. Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud, “Fab dyn, llefara wrth henuriaid Israel a dywed wrthynt: ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Ai i ymofyn â mi y daethoch? Cyn wired â'm bod yn fyw, medd yr Arglwydd DDUW, ni adawaf i chwi ymofyn â mi.’ A wnei di eu barnu? A wnei eu barnu, fab dyn? Pâr iddynt wybod am ffieidd-dra eu hynafiaid, a dywed wrthynt, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Yn y dydd y dewisais Israel, tyngais wrth ddisgynyddion tylwyth Jacob, a datguddiais fy hun iddynt yng ngwlad yr Aifft; tyngais wrthynt a dweud, “Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.” Y diwrnod hwnnw tyngais wrthynt y byddwn yn dod â hwy allan o wlad yr Aifft i'r wlad a geisiais iddynt, gwlad yn llifeirio o laeth a mêl, y decaf o'r holl wledydd. Dywedais wrthynt, “Pob un ohonoch, bwriwch ymaith y pethau atgas y mae eich llygaid yn syllu arnynt, a pheidiwch â'ch halogi eich hunain ag eilunod yr Aifft. Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.” “ ‘Ond bu iddynt wrthryfela yn f'erbyn a gwrthod gwrando arnaf; ni wnaeth yr un ohonynt fwrw ymaith y pethau atgas yr oedd eu llygaid yn syllu arnynt, na gadael eilunod yr Aifft. Bwriadwn dywallt fy llid a dod â'm dicter arnynt yng ngwlad yr Aifft; eto gweithredais er mwyn fy enw rhag ei halogi yng ngolwg y cenhedloedd yr oeddent yn eu mysg, a datguddiais fy hun yn eu gŵydd trwy fynd ag Israel allan o wlad yr Aifft. Felly euthum â hwy allan o wlad yr Aifft a mynd â hwy i'r anialwch. Rhoddais iddynt fy neddfau, a pheri iddynt wybod fy marnau; pwy bynnag a'u gwna, bydd fyw trwyddynt. Rhoddais iddynt hefyd fy Sabothau yn arwydd rhyngom, er mwyn iddynt wybod fy mod i, yr ARGLWYDD, yn eu sancteiddio. “ ‘Ond gwrthryfelodd tylwyth Israel yn f'erbyn yn yr anialwch. Nid oeddent yn dilyn fy neddfau, ac yr oeddent yn gwrthod fy marnau—er mai'r sawl a'u gwna a fydd byw—ac yn halogi'n llwyr fy Sabothau. Yna bwriadwn dywallt fy llid arnynt yn yr anialwch a'u difetha; eto gweithredais er mwyn fy enw, rhag ei halogi yng ngolwg y cenhedloedd y deuthum â hwy allan yn eu gŵydd. Tyngais wrthynt yn yr anialwch na fyddwn yn dod â hwy i'r wlad a roddais iddynt, gwlad yn llifeirio o laeth a mêl, y decaf o'r holl wledydd, oherwydd iddynt wrthod fy marnau a pheidio â chadw fy neddfau, ond halogi fy Sabothau, am fod eu calon yn dilyn eu heilunod. Eto edrychais mewn tosturi arnynt, rhag eu dinistrio, ac ni roddais ddiwedd arnynt yn yr anialwch. Dywedais wrth eu plant yn yr anialwch, “Peidiwch â dilyn deddfau eich rhieni, na chadw eu barnau, na halogi eich hunain â'u heilunod. Myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw; dilynwch fy neddfau a gwylio eich bod yn cadw fy marnau. Cadwch fy Sabothau'n sanctaidd, iddynt fod yn arwydd rhyngom, a chewch wybod mai myfi yw'r ARGLWYDD eich Duw.” “ ‘Ond gwrthryfelodd eu plant yn fy erbyn. Nid oeddent yn dilyn fy neddfau, nac yn cadw fy marnau—er mai'r sawl a'u gwna a fydd byw—ac yr oeddent yn halogi fy Sabothau. Yna bwriadwn dywallt fy llid a dod â'm dicter arnynt yn yr anialwch. Ond ateliais fy llaw a gweithredais er mwyn fy enw, rhag ei halogi yng ngolwg y cenhedloedd y deuthum â hwy allan yn eu gŵydd. Tyngais wrthynt yn yr anialwch y byddwn yn eu gwasgaru ymysg y cenhedloedd ac yn eu chwalu trwy'r gwledydd, oherwydd iddynt beidio â gwneud fy marnau, ond gwrthod fy neddfau, halogi fy Sabothau, a throi eu llygaid at eilunod eu hynafiaid. Yn wir, rhoddais iddynt ddeddfau heb fod yn dda, a barnau na allent fyw wrthynt; gwneuthum iddynt eu halogi eu hunain â'u rhoddion trwy aberthu pob cyntafanedig, er mwyn imi eu brawychu, ac er mwyn iddynt wybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.’ “Felly, fab dyn, llefara wrth dŷ Israel a dywed wrthynt, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Yn hyn hefyd y bu i'ch hynafiaid fy nghablu a bod yn anffyddlon imi. Pan ddeuthum â hwy i'r wlad yr oeddwn wedi tyngu y byddwn yn ei rhoi iddynt, a hwythau'n gweld bryn uchel neu bren deiliog, fe offryment aberthau yno a chyflwyno rhoddion a'm digiai; rhoddent yno eu harogldarth peraidd, a thywallt eu diodoffrwm. Yna dywedais wrthynt, “Beth yw'r uchelfa hon yr ewch iddi?” A gelwir hi yn Bama hyd y dydd hwn.’ “Am hynny, dywed wrth dŷ Israel, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: A ydych yn eich halogi eich hunain fel y gwnaeth eich hynafiaid, a phuteinio gyda'u heilunod atgas? Pan gyflwynwch eich rhoddion, a gwneud i'ch plant fynd trwy'r tân, yr ydych yn eich halogi eich hunain â'ch holl eilunod hyd heddiw. Sut y gadawaf i chwi ymofyn â mi, dŷ Israel? Cyn wired â'm bod yn fyw, medd yr Arglwydd DDUW, ni adawaf i chwi ymofyn â mi. “ ‘Yr ydych yn dweud, “Byddwn fel y cenhedloedd, fel pobloedd y gwledydd, yn addoli pren a charreg”; ond yn sicr ni ddigwydd yr hyn sydd yn eich meddwl. Cyn wired â'm bod yn fyw, medd yr Arglwydd DDUW, llywodraethaf drosoch â llaw gref, â braich estynedig ac â llid tywalltedig. Dof â chwi o blith y cenhedloedd, a'ch casglu o'r gwledydd lle gwasgarwyd chwi, â llaw gref, â braich estynedig ac â llid tywalltedig. Dof â chwi i anialwch y cenhedloedd a'ch barnu yno wyneb yn wyneb. Fel y bernais eich hynafiaid yn anialwch gwlad yr Aifft, felly y barnaf chwithau, medd yr Arglwydd DDUW. Gwnaf i chwi fynd heibio dan y wialen, a'ch dwyn i rwymyn y cyfamod. Fe garthaf o'ch plith y rhai sy'n gwrthryfela ac yn codi yn f'erbyn; er imi ddod â hwy o'r wlad lle maent yn aros, eto nid ânt i dir Israel. Yna byddwch yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.’ “A chwithau, dŷ Israel, fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Aed pob un ohonoch i addoli ei eilunod. Yna byddwch yn siŵr o wrando arnaf fi, ac ni fyddwch yn halogi fy enw sanctaidd â'ch rhoddion ac â'ch eilunod. Oherwydd ar fy mynydd sanctaidd, ar fynydd uchel Israel, medd yr Arglwydd DDUW, y bydd holl dŷ Israel, a phob un sydd yn y wlad, yn fy addoli, ac yno y derbyniaf hwy. Yno y ceisiaf eich aberthau a'ch offrymau gorau, ynghyd â'ch holl aberthau sanctaidd. Fe'ch derbyniaf chwi fel arogldarth peraidd, pan ddof â chwi allan o blith y cenhedloedd, a'ch casglu o'r gwledydd lle gwasgarwyd chwi, a sancteiddiaf fy hun ynoch chwi yng ngŵydd y cenhedloedd. Yna byddwch yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD, pan ddof â chwi i dir Israel, y wlad y tyngais y byddwn yn ei rhoi i'ch hynafiaid. Yno byddwch yn cofio eich ffyrdd, a'r holl bethau a wnaethoch i'ch halogi eich hunain, a byddwch yn eich casáu eich hunain am yr holl ddrygioni a wnaethoch. Yna byddwch yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD, pan fyddaf yn ymwneud â chwi er mwyn fy enw, ac nid yn ôl eich ffyrdd drygionus a'ch gweithredoedd llygredig, O dŷ Israel, medd yr Arglwydd DDUW.” Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud, “Fab dyn, tro dy wyneb i gyfeiriad Teman, a llefara i gyfeiriad y Negef; proffwyda yn erbyn tir coediog y Negef. Dywed wrth goedwig y de, ‘Gwrando air yr ARGLWYDD. Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Dyma fi'n cynnau tân ynot, ac fe ysir dy holl goed, yr ir a'r crin fel ei gilydd. Ni ddiffoddir y fflam danllyd, ond fe losgir ganddi bob wyneb o'r de i'r gogledd. Bydd pawb yn gweld mai myfi'r ARGLWYDD a fu'n ei chynnau, ac nis diffoddir.’ ” A dywedais, “Och! Fy Arglwydd DDUW, y maent yn dweud amdanaf, ‘Onid llefaru damhegion y mae?’ ”

Eseciel 20:1-49 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Yn y seithfed flwyddyn, o fewn y pumed mis, ar y degfed dydd o’r mis, y daeth gwŷr o henuriaid Israel i ymgynghori â’r ARGLWYDD, ac a eisteddasant ger fy mron i. Yna y daeth gair yr ARGLWYDD ataf, gan ddywedyd, Ha fab dyn, llefara wrth henuriaid Israel, a dywed wrthynt, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Ai i ymofyn â mi yr ydych chwi yn dyfod? Fel mai byw fi, medd yr ARGLWYDD DDUW, ni fynnaf gennych ymofyn â mi. A ferni di hwynt, mab dyn, a ferni di hwynt? gwna iddynt wybod ffieidd-dra eu tadau: A dywed wrthynt, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Ar y dydd y dewisais Israel, ac y tyngais wrth had tŷ Jacob, ac y’m gwneuthum yn hysbys iddynt yn nhir yr Aifft, pan dyngais wrthynt, gan ddywedyd, Myfi yw yr ARGLWYDD eich DUW chwi; Yn y dydd y tyngais wrthynt ar eu dwyn hwynt allan o dir yr Aifft, i wlad yr hon a ddarparaswn iddynt, yn llifeirio o laeth a mêl, yr hon yw gogoniant yr holl diroedd: Yna y dywedais wrthynt, Bwriwch ymaith bob un ffieidd-dra ei lygaid, ac nac ymhalogwch ag eilunod yr Aifft. Myfi yw yr ARGLWYDD eich DUW chwi. Er hynny gwrthryfelasant i’m herbyn, ac ni fynnent wrando arnaf: ni fwriasant ymaith ffieidd-dra eu llygaid bob un, ac ni adawsant eilunod yr Aifft. Yna y dywedais, Tywalltaf arnynt fy llidiowgrwydd, a gyflawni fy nig arnynt yng nghanol gwlad yr Aifft. Eto gwneuthum er mwyn fy enw, rhag ei halogi yng ngolwg y cenhedloedd y rhai yr oeddynt hwy yn eu mysg; yng ngŵydd pa rai yr ymhysbysais iddynt hwy, wrth eu dwyn hwynt allan o dir yr Aifft. Am hynny y dygais hwynt allan o dir yr Aifft, ac a’u dygais hwynt i’r anialwch. A rhoddais iddynt fy neddfau, a hysbysais iddynt fy marnedigaethau, y rhai y bydd byw ynddynt y dyn a’u gwna hwynt. Rhoddais hefyd iddynt fy Sabothau, i fod yn arwydd rhyngof fi a hwynt, a wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD a’u sancteiddiodd hwynt. Er hynny tŷ Israel a wrthryfelasant i’m herbyn yn yr anialwch: ni rodiasant yn fy neddfau, ond diystyrasant fy marnedigaethau, y rhai y bydd byw ynddynt y dyn a’u gwnelo hwynt; fy Sabothau hefyd a halogasant yn ddirfawr. Yna y dywedais y tywalltwn fy llid arnynt yn yr anialwch, i’w difetha hwynt. Eto gwneuthum er mwyn fy enw, fel na halogid ef yng ngolwg y cenhedloedd, y rhai y dygais hwynt allan yn eu gŵydd. Ac eto mi a dyngaswn iddynt yn yr anialwch, na ddygwn hwynt i’r wlad a roddaswn iddynt, yn llifeirio o laeth a mêl; honno yw gogoniant yr holl wledydd: Oherwydd iddynt ddiystyru fy marnedigaethau, ac na rodiasant yn fy neddfau, ond halogi fy Sabothau: canys eu calon oedd yn myned ar ôl eu heilunod. Eto tosturiodd fy llygaid wrthynt rhag eu dinistrio, ac ni wneuthum ddiben amdanynt yn yr anialwch. Ond mi a ddywedais wrth eu meibion hwynt yn yr anialwch, Na rodiwch yn neddfau eich tadau, ac na chedwch eu barnedigaethau hwynt, nac ymhalogwch chwaith â’u heilunod hwynt. Myfi yw yr ARGLWYDD eich DUW chwi: rhodiwch yn fy neddfau, a chedwch fy marnedigaethau, a gwnewch hwynt: Sancteiddiwch hefyd fy Sabothau; fel y byddont yn arwydd rhyngof fi a chwithau, i wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD eich DUW chwi. Y meibion hwythau a wrthryfelasant i’m herbyn; yn fy neddfau ni rodiasant, a’m barnedigaethau ni chadwasant trwy eu gwneuthur hwynt, y rhai y bydd byw ynddynt y dyn a’u gwnelo hwynt: halogasant fy Sabothau: yna y dywedais y tywalltwn fy llid arnynt, i gyflawni fy nig wrthynt yn yr anialwch. Eto troais heibio fy llaw, a gwneuthum er mwyn fy enw, fel na halogid ef yng ngolwg y cenhedloedd y rhai y dygaswn hwynt allan yn eu gŵydd. Hefyd mi a dyngaswn wrthynt yn yr anialwch, ar eu gwasgaru hwynt ymysg y cenhedloedd, a’u taenu hwynt ar hyd y gwledydd; Oherwydd fy marnedigaethau ni wnaethent, ond fy neddfau a ddiystyrasent, fy Sabothau hefyd a halogasent, a’u llygaid oedd ar ôl eilunod eu tadau. Minnau hefyd a roddais iddynt ddeddfau nid oeddynt dda, a barnedigaethau ni byddent fyw ynddynt: Ac a’u halogais hwynt yn eu hoffrymau, wrth dynnu trwy dân bob peth a agoro y groth, fel y dinistriwn hwynt; fel y gwybyddent mai myfi yw yr ARGLWYDD. Am hynny, fab dyn, llefara wrth dŷ Israel, a dywed wrthynt, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Eto yn hyn y’m cablodd eich tadau, gan wneuthur ohonynt gamwedd i’m herbyn. Canys dygais hwynt i’r tir a dyngaswn ar ei roddi iddynt, a gwelsant bob bryn uchel, a phob pren brigog; ac aberthasant yno eu hebyrth, ac yno y rhoddasant eu hoffrymau dicllonedd: yno hefyd y gosodasant eu harogl peraidd, ac yno y tywalltasant eu diod-offrymau. Yna y dywedais wrthynt, Beth yw yr uchelfa yr ydych chwi yn myned iddi? a Bama y galwyd ei henw hyd y dydd hwn. Am hynny dywed wrth dŷ Israel, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Ai ar ffordd eich tadau yr ymhalogwch chwi? ac a buteiniwch chwi ar ôl eu ffieidd-dra hwynt? Canys pan offrymoch eich offrymau, gan dynnu eich meibion trwy y tân, yr ymhalogwch wrth eich holl eilunod hyd heddiw: a fynnaf fi gennych ymofyn â mi, tŷ Israel? Fel mai byw fi, medd yr ARGLWYDD DDUW, nid ymofynnir â mi gennych. Eich bwriad hefyd ni bydd ddim, yr hyn a ddywedwch, Byddwn fel y cenhedloedd, fel teuluoedd y gwledydd, i wasanaethu pren a maen. Fel mai byw fi, medd yr ARGLWYDD DDUW, yn ddiau â llaw gadarn, ac â braich estynedig, ac â llidiowgrwydd tywalltedig, y teyrnasaf arnoch. A dygaf chwi allan ymysg y bobloedd, a chasglaf chwi o’r gwledydd y rhai y’ch gwasgarwyd ynddynt, â llaw gadarn, ac â braich estynedig, ac â llidiowgrwydd tywalltedig. A dygaf chwi i anialwch y bobloedd, ac ymddadleuaf â chwi yno wyneb yn wyneb. Fel yr ymddadleuais â’ch tadau yn anialwch tir yr Aifft, felly yr ymddadleuaf â chwithau, medd yr ARGLWYDD DDUW. A gwnaf i chwi fyned dan y wialen, a dygaf chwi i rwym y cyfamod. A charthaf ohonoch y rhai gwrthryfelgar, a’r rhai a droseddant i’m herbyn: dygaf hwynt o wlad eu hymdaith, ac i wlad Israel ni ddeuant: a chewch wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD. Chwithau, tŷ Israel, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Ewch, gwasanaethwch bob un ei eilunod, ac ar ôl hyn hefyd, oni wrandewch arnaf fi: ond na halogwch mwy fy enw sanctaidd â’ch offrymau, ac â’ch eilunod. Canys yn fy mynydd sanctaidd, ym mynydd uchelder Israel, medd yr ARGLWYDD DDUW, yno y’m gwasanaetha holl dŷ Israel, cwbl o’r wlad: yno y byddaf fodlon iddynt; ac yno y gofynnaf eich offrymau, a blaenffrwyth eich offrymau, gyda’ch holl sanctaidd bethau. Byddaf fodlon i chwi gyda’ch arogl peraidd, pan ddygwyf chwi allan o blith y bobloedd, a’ch casglu chwi o’r tiroedd y’ch gwasgarwyd ynddynt; a mi a sancteiddir ynoch yng ngolwg y cenhedloedd. Hefyd cewch wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD, pan ddygwyf chwi i dir Israel, i’r tir y tyngais am ei roddi i’ch tadau. Ac yno y cofiwch eich ffyrdd, a’ch holl weithredoedd y rhai yr ymhalogasoch ynddynt; fel yr alaroch arnoch eich hun am yr holl ddrygioni a wnaethoch. A chewch wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD, pan wnelwyf â chwi er mwyn fy enw, nid yn ôl eich ffyrdd drygionus chwi, nac yn ôl eich gweithredoedd llygredig, O dŷ Israel, medd yr ARGLWYDD DDUW. Daeth drachefn air yr ARGLWYDD ataf, gan ddywedyd, Gosod dy wyneb, fab dyn, tua’r deau, ie, difera eiriau tua’r deau, a phroffwyda yn erbyn coed maes y deau; A dywed wrth goed y deau, Gwrando air yr ARGLWYDD: Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Wele fi yn cynnau ynot ti dân, ac efe a ysa ynot ti bob pren ir, a phob pren sych: ffagl y fflam ni ddiffydd, a’r holl wynebau o’r deau hyd y gogledd a losgir ynddo. A phob cnawd a welant mai myfi yr ARGLWYDD a’i cyneuais: nis diffoddir ef. Yna y dywedais, O ARGLWYDD DDUW, y maent hwy yn dywedyd amdanaf, Onid damhegion y mae hwn yn eu traethu?