Eseciel 12:1-28
Eseciel 12:1-28 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma’r ARGLWYDD yn rhoi’r neges yma i mi: “Ddyn, mae’r bobl rwyt ti’n byw gyda nhw yn griw o rebeliaid. Mae ganddyn nhw lygaid, ond dŷn nhw’n gweld dim byd! Mae ganddyn nhw glustiau, ond dŷn nhw’n clywed dim byd! Criw o rebeliaid ydyn nhw! “Felly dyma dw i eisiau i ti ei wneud: Pacia dy fag fel taset ti’n ffoadur yn dianc o’i gartref ac yn paratoi i fynd i ffwrdd i rywle arall. Gwna hyn yng ngolau dydd, fel bod pawb yn gallu gweld beth ti’n wneud. Falle y gwnân nhw ddeall eu bod nhw’n griw anufudd. Gad iddyn nhw dy weld di yn pacio dy fag gyda’r pethau rwyt ti eu hangen. Yna gyda’r nos rwyt i fynd i ffwrdd o’u blaenau nhw, yn union fel byddai ffoadur yn gwneud. Gad iddyn nhw dy weld di yn torri twll yn y wal, ac yn mynd â dy bac allan drwyddo. Yna rho dy bac ar dy gefn, a cherdded i ffwrdd wrth iddi dywyllu. Gorchuddia dy wyneb, a phaid edrych yn ôl ar y tir. Dw i’n dy ddefnyddio di fel darlun i ddysgu gwers i bobl Israel.” Felly dyma fi’n gwneud yn union beth ddwedodd Duw wrtho i. Yn ystod y dydd dyma fi’n pacio pethau i fynd i ffwrdd fel ffoadur, ac yna pan oedd hi’n nosi dyma fi’n torri twll drwy’r wal. Wedyn, o flaen llygaid pawb, dyma fi’n rhoi’r pecyn ar fy nghefn ac yn cerdded i ffwrdd wrth iddi dywyllu. Y bore wedyn dyma fi’n cael neges gan yr ARGLWYDD: “Ddyn, roedd pobl Israel, y criw o rebeliaid yna, wedi gofyn i ti, ‘Beth wyt ti’n wneud?’ Dwed wrthyn nhw, ‘Dyma mae’r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Mae’r neges yma i Sedeceia, pennaeth pobl Jerwsalem, ac i holl bobl Israel sy’n dal yno.’ Esbonia dy fod ti’n ddarlun i ddysgu gwers iddyn nhw. Bydd yr hyn wnest ti yn digwydd iddyn nhw. Byddan nhw’n ffoaduriaid, ac yn cael eu cymryd yn gaethion. Bydd hyd yn oed Sedeceia, y pennaeth, yn codi ei bac fin nos, yn mynd allan drwy dwll yn y wal ac yn gorchuddio ei wyneb am na fydd yn cael gweld y tir byth eto. Ond bydd e’n cael ei ddal. Bydda i’n taflu fy rhwyd drosto, ac yn mynd ag e’n gaeth i Babilon. Ond fydd byth yn gweld y wlad honno lle bydd e’n marw. Bydd ei weision a’i forynion, a’i filwyr i gyd yn cael eu chwalu i bob cyfeiriad, a bydd y gelyn yn mynd ar eu holau gyda’i gleddyf. Pan fydda i wedi’u gyrru nhw ar chwâl drwy’r gwledydd paganaidd i gyd, byddan nhw’n sylweddoli mai fi ydy’r ARGLWYDD! Ond bydda i’n gadael i griw bach ohonyn nhw fyw. Fydd cleddyf y gelyn, y newyn, a’r haint ddim yn lladd y rheiny. Yn y gwledydd lle byddan nhw’n mynd dw i eisiau iddyn nhw gyfaddef yr holl bethau ffiaidd maen nhw wedi’u gwneud. Byddan nhw’n deall wedyn mai fi ydy’r ARGLWYDD.” Dyma’r ARGLWYDD yn rhoi’r neges yma i mi: “Cryna mewn ofn wrth fwyta dy fwyd, a dychryn wrth yfed dy ddŵr. Yna rhanna’r neges yma: ‘Dyma mae’r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud am y bobl sy’n dal i fyw yn Israel a Jerwsalem: “Fyddan nhw ddim yn gallu bwyta ac yfed heb grynu mewn ofn a phoeni am eu bywydau. Mae’r wlad yn mynd i gael ei difetha, a byddan nhw’n colli popeth am iddyn nhw fod mor greulon. Bydd y trefi a’r pentrefi lle mae pobl yn byw yn cael eu dinistrio, a bydd y tir yn cael ei adael yn ddiffaith. Byddwch chi’n gwybod wedyn mai fi ydy’r ARGLWYDD.”’” Dyma’r ARGLWYDD yn rhoi’r neges yma i mi: “Ddyn, mae yna ddywediad yn Israel, ‘Mae amser yn mynd heibio, a dydy’r proffwydoliaethau ddim wedi dod yn wir.’ Felly dywed di wrthyn nhw, ‘Dyma mae’r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Dw i’n mynd i roi stop ar y math yna o siarad. Fydd pobl Israel ddim yn dweud hynny eto!’ Dwed wrthyn nhw, ‘Yn fuan iawn bydd popeth dw i wedi’i ddangos yn dod yn wir! Fydd yna ddim mwy o weledigaethau ffals a darogan pethau deniadol yn Israel. Fi, yr ARGLWYDD fydd yn siarad, a bydd beth dw i’n ddweud yn dod yn wir. Fydd dim mwy o oedi. Bydd beth dw i’n ddweud yn dod yn wir yn eich cyfnod chi rebeliaid anufudd.’ Dyna neges y Meistr, yr ARGLWYDD.” Dyma’r ARGLWYDD yn rhoi’r neges yma i mi: “Ddyn, wyt ti wedi clywed beth mae pobl Israel yn ei ddweud? ‘Sôn am rywbryd yn bell yn y dyfodol mae e. Fydd y broffwydoliaeth ddim yn dod yn wir am amser hir iawn.’ Felly dywed di wrthyn nhw, ‘Dyma mae’r ARGLWYDD, y Meistr, yn ei ddweud: Fydd dim mwy o oedi! Bydd beth dw i’n ddweud yn dod yn wir!’” Dyna neges y Meistr, yr ARGLWYDD.
Eseciel 12:1-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud, “Fab dyn, yr wyt yn byw yng nghanol tylwyth gwrthryfelgar; y mae ganddynt lygaid i weld, ond ni welant, a chlustiau i glywed, ond ni chlywant, am eu bod yn dylwyth gwrthryfelgar. Felly, fab dyn, gwna'n barod dy baciau ar gyfer caethglud, ac ymfuda liw dydd yn eu gŵydd; a phan ymfudi o'th gartref yn eu gŵydd i le arall, efallai y deallant eu bod yn dylwyth gwrthryfelgar. Dos â'th baciau allan, fel paciau caethglud, liw dydd yn eu gŵydd, a dos dithau allan yn eu gŵydd gyda'r nos, yn union fel y rhai sy'n mynd i gaethglud. Yn eu gŵydd cloddia drwy'r mur, a dos allan drwyddo. Yn eu gŵydd cod dy baciau ar dy ysgwydd a mynd â hwy allan yn y gwyll; gorchuddia dy wyneb rhag iti weld y tir, oherwydd gosodais di'n arwydd i dŷ Israel.” Gwneuthum fel y gorchmynnwyd imi. Liw dydd euthum â'm paciau allan, fel paciau caethglud, a liw nos cloddiais trwy'r mur â'm dwylo, a mynd â hwy allan yn y gwyll a'u cario ar fy ysgwydd yn eu gŵydd. Daeth gair yr ARGLWYDD ataf yn y bore a dweud, “Fab dyn, oni ofynnodd Israel, y tylwyth gwrthryfelgar, iti, ‘Beth wyt ti'n ei wneud?’ Dywed wrthynt, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Y mae a wnelo'r baich hwn â'r tywysog yn Jerwsalem, ac y mae holl dylwyth Israel yn ei chanol.’ Dywed, ‘Yr wyf fi'n arwydd i chwi; fel y gwneuthum i, felly y gwneir iddynt hwy; ânt i gaethiwed i'r gaethglud.’ Bydd y tywysog sydd yn eu plith yn codi ei baciau ar ei ysgwydd yn y gwyll ac yn mynd allan; cloddir trwy'r mur, iddo fynd allan trwyddo, a bydd yn gorchuddio'i wyneb rhag iddo weld y tir â'i lygaid. Taenaf fy rhwyd drosto, ac fe'i delir yn fy magl; af ag ef i Fabilon, gwlad y Caldeaid, ond ni fydd yn ei gweld, ac yno y bydd farw. A byddaf yn gwasgaru i'r pedwar gwynt yr holl rai sydd o'i amgylch, ei gynorthwywyr a'i luoedd, ac yn eu hymlid â chleddyf noeth. Byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD pan fyddaf yn eu gwasgaru ymysg y cenhedloedd ac yn eu chwalu trwy'r gwledydd. Ond byddaf yn arbed ychydig ohonynt rhag y cleddyf, a rhag newyn a haint, er mwyn iddynt gydnabod eu ffieidd-dra ymysg y cenhedloedd lle'r ânt; a byddant yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.” Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud, “Fab dyn, bwyta dy fwyd gan grynu, ac yfed dy ddiod mewn dychryn a phryder. Yna dywed wrth bobl y wlad, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW am y rhai sy'n byw yn Jerwsalem ac yng ngwlad Israel: Byddant yn bwyta'u bwyd mewn pryder ac yn yfed eu diod mewn anobaith, oherwydd fe ddinoethir eu gwlad o bopeth sydd ynddi o achos trais yr holl rai sy'n byw ynddi. Difethir y dinasoedd sydd wedi eu cyfanheddu, a bydd y wlad yn anrhaith. Yna byddwch yn gwybod mai myfi yw'r ARGLWYDD.’ ” Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud, “Fab dyn, beth yw'r ddihareb hon sydd gennych am wlad Israel, ‘Y mae'r dyddiau'n mynd heibio, a phob gweledigaeth yn pallu’? Am hynny, dywed wrthynt, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Rhoddaf ddiwedd ar y ddihareb hon, ac ni ddefnyddiant hi mwyach yn Israel.’ Dywed wrthynt, ‘Y mae'r dyddiau'n agosáu pan gyflawnir pob gweledigaeth.’ Oherwydd ni fydd eto weledigaeth dwyllodrus na dewiniaeth wenieithus ymysg tylwyth Israel. Ond byddaf fi, yr ARGLWYDD, yn llefaru yr hyn a ddymunaf, ac fe'i cyflawnir heb ragor o oedi. Yn eich dyddiau chwi, dylwyth gwrthryfelgar, byddaf yn cyflawni'r hyn a lefaraf,” medd yr Arglwydd DDUW. Daeth gair yr ARGLWYDD ataf a dweud, “Fab dyn, y mae tylwyth Israel yn dweud, ‘Ar gyfer y dyfodol pell y mae'r weledigaeth a gafodd, ac am amseroedd i ddod y mae'n proffwydo.’ Felly dywed wrthynt, ‘Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Nid oedir fy ngeiriau rhagor; cyflawnir yr hyn a lefaraf,’ medd yr Arglwydd DDUW.”
Eseciel 12:1-28 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A gair yr ARGLWYDD a ddaeth ataf, gan ddywedyd, Trigo yr wyt ti, fab dyn, yng nghanol tŷ gwrthryfelgar, y rhai y mae llygaid iddynt i weled, ac ni welant; clustiau iddynt i glywed, ac ni chlywant: canys tŷ gwrthryfelgar ydynt. A thithau, fab dyn, gwna i ti offer caethglud, a muda liw dydd o flaen eu llygaid hwynt; ie, muda o’th le dy hun i le arall yng ngŵydd eu llygaid hwynt: nid hwyrach y gwelant, er eu bod yn dŷ gwrthryfelgar. A dwg allan dy ddodrefn liw dydd yng ngŵydd eu llygaid, fel dodrefn caethglud: a dos allan yn yr hwyr yng ngŵydd eu llygaid, fel rhai yn myned allan i gaethglud. Cloddia i ti o flaen eu llygaid hwynt trwy y mur, a dwg allan trwy hwnnw. Ar dy ysgwydd y dygi yng ngŵydd eu llygaid hwynt, yn y tywyll y dygi allan: dy wyneb a guddi, fel na welych y ddaear: canys yn arwydd y’th roddais i dŷ Israel. Ac mi a wneuthum felly fel y’m gorchmynnwyd: dygais fy offer allan liw dydd, fel offer caethglud; ac yn yr hwyr y cloddiais trwy y mur â’m llaw: yn y tywyll y dygais allan, ar fy ysgwydd y dygais o flaen eu llygaid hwynt. A’r bore y daeth gair yr ARGLWYDD ataf, gan ddywedyd, Ha fab dyn, oni ddywedodd tŷ Israel, y tŷ gwrthryfelgar, wrthyt, Beth yr wyt ti yn ei wneuthur? Dywed di wrthynt, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW, I’r tywysog yn Jerwsalem y mae y baich hwn, ac i holl dŷ Israel y rhai sydd yn eu mysg. Dywed, Eich arwydd chwi ydwyf fi; fel y gwneuthum i, felly y gwneir iddynt hwy: mewn caethglud yr ânt i gaethiwed. A’r tywysog yr hwn sydd yn eu canol a ddwg ar ei ysgwydd yn y tywyll, ac a â allan: cloddiant trwy y mur, i ddwyn allan trwyddo: ei wyneb a guddia fel na welo efe y ddaear â’i lygaid. A mi a daenaf fy rhwyd arno ef, fel y dalier ef yn fy rhwyd: a dygaf ef i Babilon, tir y Caldeaid; ac ni wêl efe hi, eto yno y bydd efe farw. A gwasgaraf yr holl rai sydd yn ei gylch ef i’w gynorthwyo, a’i holl fyddinoedd, tua phob gwynt; a thynnaf gleddyf ar eu hôl hwynt. A hwy a gânt wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD, wedi gwasgaru ohonof hwynt ymysg y cenhedloedd, a’u taenu ar hyd y gwledydd. Eto gweddillaf ohonynt ychydig ddynion oddi wrth y cleddyf, oddi wrth y newyn, ac oddi wrth yr haint; fel y mynegont eu holl ffieidd-dra ymysg y cenhedloedd, lle y delont: a gwybyddant mai myfi yw yr ARGLWYDD. Gair yr ARGLWYDD hefyd a ddaeth ataf, gan ddywedyd, Ha fab dyn, bwytei dy fara dan grynu, a’th ddwfr a yfi mewn dychryn a gofal: A dywed wrth bobl y tir, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW am drigolion Jerwsalem, ac am wlad Israel; Eu bara a fwytânt mewn gofal, a’u dwfr a yfant mewn syndod, fel yr anrheithir ei thir o’i chyflawnder, am drais y rhai oll a drigant ynddi. A’r dinasoedd cyfanheddol a anghyfanheddir, a’r tir a fydd anrheithiol; felly y gwybyddwch mai myfi yw yr ARGLWYDD. A daeth gair yr ARGLWYDD ataf, gan ddywedyd, Ha fab dyn, beth yw y ddihareb hon gennych am dir Israel, gan ddywedyd, Y dyddiau a estynnwyd, a darfu am bob gweledigaeth? Am hynny dywed wrthynt, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Gwnaf i’r ddihareb hon beidio, fel nad arferont hi yn ddihareb mwy yn Israel: ond dywed wrthynt, Y dyddiau sydd agos, a sylwedd pob gweledigaeth. Canys ni bydd mwy un weledigaeth ofer, na dewiniaeth wenieithus, o fewn tŷ Israel. Canys myfi yw yr ARGLWYDD: mi a lefaraf, a’r gair a lefarwyf a wneir; nid oedir ef mwy: oherwydd yn eich dyddiau chwi, O dŷ gwrthryfelgar, y dywedaf y gair, ac a’i gwnaf, medd yr ARGLWYDD DDUW. A gair yr ARGLWYDD a ddaeth ataf, gan ddywedyd, Ha fab dyn, wele dŷ Israel yn dywedyd, Y weledigaeth a wêl efe fydd wedi dyddiau lawer, a phroffwydo y mae efe am amseroedd pell. Am hynny dywed wrthynt, Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD DDUW; Nid oedir dim o’m geiriau mwy, ond y gair a ddywedais a wneir, medd yr ARGLWYDD DDUW.