Exodus 9:1-9
Exodus 9:1-9 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Yna dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Dos at y Pharo a dweud wrtho, ‘Dyma mae’r ARGLWYDD, Duw yr Hebreaid yn ei ddweud: “Gad i’m pobl fynd yn rhydd, iddyn nhw gael fy addoli i!” Os byddi di’n gwrthod gadael iddyn nhw fynd, ac yn dal dy afael ynddyn nhw, bydd yr ARGLWYDD yn taro dy anifeiliaid di i gyd gyda haint ofnadwy – y ceffylau, y mulod, y camelod, y gwartheg i gyd, a’r defaid a’r geifr. Ond bydd e’n gwahaniaethu rhwng anifeiliaid pobl Israel a’ch anifeiliaid chi’r Eifftiaid. Fydd dim un o anifeiliaid pobl Israel yn marw.’” Dwedodd yr ARGLWYDD y byddai hyn yn digwydd y diwrnod wedyn. A dyna wnaeth yr ARGLWYDD. Y diwrnod wedyn, dyma anifeiliaid yr Eifftiaid i gyd yn marw, ond wnaeth dim un o anifeiliaid pobl Israel farw. Dyma’r Pharo yn anfon swyddogion i weld, ac yn wir, doedd dim un o anifeiliaid pobl Israel wedi marw. Ond roedd e mor ystyfnig ag erioed, ac yn gwrthod gadael i’r bobl fynd. Yna dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses ac Aaron, “Cymerwch ddyrneidiau o ludw o ffwrnais, a chael Moses i’w daflu i’r awyr o flaen llygaid y Pharo. Bydd yn lledu fel llwch mân dros wlad yr Aifft i gyd, ac yn achosi chwyddau fydd yn troi’n septig ar gyrff pobl ac anifeiliaid drwy’r wlad.”
Exodus 9:1-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Dos at Pharo a dywed wrtho, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw'r Hebreaid: Gollwng fy mhobl yn rhydd, er mwyn iddynt fy addoli. Oherwydd os gwrthodi, a pharhau i ddal dy afael ynddynt, bydd llaw'r ARGLWYDD yn dwyn pla trwm ar dy anifeiliaid yn y maes, ar y meirch, yr asynnod, y camelod, y gwartheg a'r defaid. Ond bydd yr ARGLWYDD yn gwahaniaethu rhwng anifeiliaid Israel a rhai'r Eifftiaid, fel na bydd farw dim sy'n eiddo i'r Israeliaid. Pennodd yr ARGLWYDD amser arbennig, a dweud, Yfory y bydd yr ARGLWYDD yn gwneud hyn yn y wlad.’ ” A thrannoeth, fe'i gwnaeth; bu farw holl anifeiliaid yr Eifftiaid, ond ni bu farw yr un o anifeiliaid yr Israeliaid. Pan anfonodd Pharo, gwelodd nad oedd yr un o anifeiliaid yr Israeliaid wedi marw. Ond yr oedd calon Pharo wedi caledu, ac nid oedd am ryddhau'r bobl. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac Aaron, “Cymerwch ddyrneidiau o huddygl o ffwrn, a bydded i Moses ei daflu i'r awyr yng ngŵydd Pharo. Fe dry'n llwch mân dros holl dir yr Aifft, gan achosi cornwydydd poenus ar ddyn ac anifail trwy holl wlad yr Aifft.”
Exodus 9:1-9 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yna y dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, Dos i mewn at Pharo, a llefara wrtho ef, Fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW yr Hebreaid; Gollwng ymaith fy mhobl, fel y’m gwasanaethont. Oblegid, os gwrthodi eu gollwng hwynt ymaith, ac atal ohonot hwynt eto, Wele, llaw yr ARGLWYDD fydd ar dy anifeiliaid, y rhai sydd yn y maes; ar feirch, ar asynnod, ar gamelod, ar y gwartheg, ac ar y defaid, y daw haint trwm iawn. A’r ARGLWYDD a neilltua rhwng anifeiliaid Israel ac anifeiliaid yr Eifftiaid; fel na byddo marw dim o gwbl a’r sydd eiddo meibion Israel. A gosododd yr ARGLWYDD amser nodedig, gan ddywedyd, Yfory y gwna’r ARGLWYDD y peth hyn yn y wlad. A’r ARGLWYDD a wnaeth y peth hynny drannoeth: a bu feirw holl anifeiliaid yr Eifftiaid; ond o anifeiliaid meibion Israel ni bu farw un. A Pharo a anfonodd; ac wele, ni buasai farw un o anifeiliaid Israel: a chalon Pharo a galedwyd, ac ni ollyngodd y bobl. A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses ac wrth Aaron, Cymerwch i chwi lonaid eich llaw o ludw ffwrn, a thaened Moses ef tua’r nefoedd yng ngŵydd Pharo: Ac efe fydd yn llwch ar holl dir yr Aifft; ac a fydd ar ddyn ac ar anifail yn gornwyd llinorog, trwy holl wlad yr Aifft.